Ddydd San Steffan 1909 deffrodd trigolion Caergybi i newyddion arswydus. Y noson flaenorol cafodd dynes 35 mlwydd oed, Gwen Ellen Jones, ei llofruddio’n giaidd; roedd adroddiad cignoeth yn y papur newydd bod ei phen bron wedi'i hollti o'i chorff. Ildiodd y llofrudd, William Murphy, 49 oed, ei hun i'r awdurdodau a chafodd ei draddodi i sefyll ei brawf ym Mrawdlys Biwmares.
Bu golygfeydd syfrdanol pan ymddangosodd Murphy yn y llys; llewygodd un dyn, dringodd eraill i mewn trwy'r ffenestri a bu 'anhrefn a chynnwrf mawr' pan orchmynnwyd i'r menywod fynd ymaith oherwydd y manylion ffiaidd a gâi eu hadrodd. Pan ddaeth Murphy i'r llys cyfarchwyd ef â hisian ac yntau'n cydnabod hynny â gwên, fel dihiryn mewn melodrama Fictoraidd. Y tu allan i Lys Beaumaris roedd torf fawr elyniaethus yn aros amdano ac anafwyd sawl plentyn bach wrth iddynt dyrru ymlaen at Murphy a 'phrin y gallai'r heddweision atal y dorf rhag ymosod arno'. Ddydd Mercher 26 Ionawr 1910 cafwyd Murphy yn euog ar ôl i’r rheithgor drafod am ddim ond tri munud, a’i ddedfrydu i farwolaeth.
Ymddangosodd y stori mewn papurau newydd ledled y wlad. Dadleuai rhai dros einioes Murphy ac mi gychwynnodd brawd David Lloyd George ddeiseb ar sail gwallgofrwydd. Fodd bynnag, safodd y ddedfryd ac fe grogwyd Murphy yng Ngharchar Caernarfon ddydd Mawrth 15 Chwefror 1910.
Mae enw William Murphy'n gyfarwydd hyd heddiw am mai ef oedd y dyn olaf i gael ei grogi yng Ngharchar Caernarfon. Cafodd baled ei chyfansoddi o'r enw 'Execution of Murphy', ond beth am y ddynes a laddodd? Beth a wyddwn am Gwen a'r amgylchiadau a arweiniodd at ei llofruddiaeth, a beth ddigwyddodd y noson Nadolig honno ym 1909? 110 o flynyddoedd ar ôl ei marwolaeth, mae bellach yn bryd cofio Gwen Ellen Jones fel unigolyn yn ei rhinwedd ei hun yn hytrach na dim ond troednodyn i stori William Murphy.
Merch i Chwarelwr
Ganwyd Gwen ym Mlaenau Ffestiniog ym 1874, yn ferch i'r Chwarelwr John Parry (yn wreiddiol o Landdonna) a'i wraig Jane. Bu farw plentyn cyntaf y cwpl (merch o'r enw Gwen) yn 10 oed a phan anwyd Gwen Ellen ychydig fisoedd yn ddiweddarach cafodd ei henwi ar ôl ei chwaer hŷn a fu farw. Ganwyd brawd a chwaer iau, Thomas John ym 1879 a Jane ym 1886.
Yn yr 1890au bu farw mam Gwen a symudodd y teulu i Lanfairfechan lle cafodd tad Gwen waith fel labrwr yn y chwarel gerrig. Ym 1898, yn 23 oed priododd Gwen â dyn lleol 43 oed, Morris Jones, a oedd hefyd yn labrwr yn y chwarel gerrig. Yn 1901 roeddent yn byw yn 4 Tan y Bonc ym mhen uchaf Llanfairfechan a symudodd ei thad, nad oedd yn yr iechyd gorau, a'i chwaer iau, i fyw atynt. Roedd Gwen hefyd wedi mabwysiadu merch ddwy oed o'r enw Gwladys Jones a aned, yn ôl y sôn, yn wyrcws Llanrwst ac a adawyd yn ddiymgeledd gan ei mam. Bu Gwladys yn dreth arall ar adnoddau prin y teulu, ond dyna a wnaeth Gwen serch hynny, a thrwy gydol ei hoes ystyriai Gwladys Gwen yn fam iddi. Roedd Gwen yn amlwg yn greiddiol i deulu a ddibynnai arni.
Hefyd, cymerodd Gwen ddau letywr er mwyn cael dau ben llinyn ynghyd ac mae'n amlwg y byddai'r amodau byw yn 4 Tan y Bonc yn gyfyng ac yn annymunol. Dim ond tair ystafell oedd yn y tŷ, cegin a dwy ystafell wely, a'r rheiny'n gorfod darparu ar gyfer saith o bobl. Ar ben hyn oll, cymerodd Gwen ddillad i'w golchi a dyna'r cam tyngedfennol cyntaf ar y ffordd i'w marwolaeth yng Nghaergybi.
Y Corporal William Murphy
Ym 1902 dechreuodd William Murphy ddod â'i ddillad ati i'w golchi. Roedd yn ddyn cydnerth a dreuliodd flynyddoedd lawer yn y fyddin, yn gyntaf gyda Chatrawd Dwyrain Sir Gaerhirfryn lle bu'n gwasanaethu yn India a De Affrica, ac yna fel 2il Gorporal yn y Royal Anglesey Royal Engineers (milisia). Roedd yn ddyn yr oedd pobl yn ei hoffi ac yn ei ofni. Roedd ganddo synnwyr digrifwch ac roedd yna hwyl yn ei gylch a byddai hyd yn oed yn fodlon 'cael ei glymu â rhaffau ar achlysur chwaraeon Calan Mai Llanfairfechan'. Er hynny, ni fynnai neb ei groesi ac yntau'n ddyn cydnerth mawr. Tra'r oedd yn y Royal Anglesey Royal Engineers, fe'i disgrifid fel 'dyn cwbl ddi-ofn' ac fe orchfygodd ddyn meddw treisgar a bidog yn ei law a hwnnw'n ddiymadferth yn ei afael.' Mae'r ffaith iddo gario darn o sebon a drych gydag ef yn awgrymu ei fod yn ofalus o'i bryd a'i wedd, ac efallai ei fod i'w weld yn dipyn o jarffyn yng ngolwg Gwen gyda'i gefndir milwrol a'i wasanaeth tramor.
Mae'n amhosibl gwybod a oedd perthynas Gwen a Morris Jones yn un hapus, ond mewn pedair blynedd o briodas ni anwyd plentyn iddynt. Beth bynnag fo'r gwirionedd, cafodd Murphy a Gwen garwriaeth a ganwyd mab Gwen ar 19 Ionawr 1903 ac mae'n debygol mai plentyn Murphy oedd hwnnw. Fe’i henwodd yn William John ar ôl ei chariad a’i thad. Mi wyddom beth oedd ymateb Morris Jones, ond o bosib bod yr amser a gymerodd i gofrestru'r enedigaeth yn dystiolaeth o'r ffaith ei fod yn gwybod pwy oedd tad y plentyn, yn ogystal â'i amharodrwydd i daro ei enw ar y dystysgrif eni (fe wnaeth yn y pen draw).
Heb os, fe wnaeth Murphy, a oedd yn ddyn cenfigennus a meddiangar, ei hannog i adael ei gŵr. Yn naturiol ddigon, ni allai'r sefyllfa barhau a gadawodd Gwen ei gŵr ar fwy nag un achlysur i fod gyda Murphy. Yn amlwg, ni allai ei thad aros yn y cartref priodasol o dan y fath amgylchiadau ac mi symudodd i 21 Cae Star, Bethesda (safle'r maes parcio talu ac arddangos ger Neuadd Ogwen).
'Tŷ Llety Cyffredin', Caergybi
Câi gweithredoedd Gwen eu hystyried yn warthus ac yn waradrwyddus nes peri colli cyfeillion a chymdogion a'i thorri ymaith gan bawb yr oedd hi'n eu hadnabod. Byddai'n anodd iddi gael gwaith yn lleol oherwydd y sgandal, ond roedd ganddi ddau o blant i'w cynnal. Yn ogystal, roedd ei brawd wedi symud i'r de, a doedd ganddi'r un dyn i'w hamddiffyn heblaw ei thad ac roedd Murphy'n drech na hwnnw. Felly, roedd ei sefyllfa beryglus a hithau bellach yn ddibynnol ar Murphy am gymorth ariannol a dechreuodd pethau fynd o ddrwg i waeth.
Er mwyn peidio â dwyn gwaradrwydd ar gartref newydd ei thad yng Nghae Star ym Methesda, rhentiodd Gwen ystafell ar y llawr uchaf yn yr hyn a elwid yn 'dŷ llety cyffredin' yn 51 Baker Street, Caergybi, rhan dlodaidd iawn o'r dref. Bu'n aros yno gyda Murphy, ond pan aeth ef i ffwrdd i weithio dychwelodd hi i gartref ei thad ym Methesda. Er 1908 bu Murphy yn y Royal Anglesey Royal Engineers (Special Reserve) a rôi gyflogaeth achlysurol iddo. Weddill yr amser byddai'n gwneud gwaith labro lle bynnag yr oedd gwaith ar gael megis ar Reilffordd newydd Pentraeth, gyda Chwmni Gwaith Dŵr Caergybi a hyd yn oed cyn belled â Chernyw a Swydd Efrog. Bu'r cwpl yn byw o'r llaw i'r genau ac yn aml roeddent yn gorfod cardota. Ar ben hynny, roedd Murphy wedi dechrau ei churo. Tystiodd ei thad i Murphy ei churo'n 'ddu las' a dywedodd Gwen a Morris wrtho i Murphy dorri ei hesgidiau i ffwrdd â chyllell, a'i bygwth hefyd â chyllell a'i chicio sawl gwaith yn ogystal.
Mae'n dyst i ddewrder Gwen iddi geisio gadael Murphy, a manteisiodd ar y cyfle i wneud hynny pan oedd i ffwrdd yn gweithio yn Swydd Efrog ym 1909. Er i Murphy honni iddo anfon arian ati rhaid oedd i Gwen ennill ei hincwm ei hun i fod yn annibynnol ar Murphy. Does dim modd inni wybod i sicrwydd, ond efallai mai dyna a'i harweiniodd at buteindra. Cyfeiriodd y North Wales Express ati'n ddiamwys fel putain, a chyfeiriai papurau newydd eraill ati fel ‘beggar’, Murphy’s ‘paramour’ ac 'a member of the hawker class’. Yn sicr, cafwyd dwy wraig a oedd yn byw yn Baker Street yn euog o lithio ym 1903. Bu'n ffrindiau â Lizzie Jones (Elizabeth Glynn Jones) o Lansadwrn ers tua blwyddyn, a bu honno'n lletya yn 51 Baker Street ac efallai mai hi a'i cyflwynodd i'r arfer. Mae ymateb Murphy pan welai yntau nhw gyda'u gilydd yn awgrymu hynny. Yn ystod un o'i ymddangosiadau yn y llys, tra roedd Lizzie yn rhoi tystiolaeth, gwaeddodd ar draws siambr y llys
‘That’s the woman that caused her death. When I see’d her with Gwen Ellen Jones I know’d it was all up with her. I know’d she was a bad ‘un before, but when I saw her with this ‘un I know’d she was worse’.
Yn sicr, bu Murphy a Lizzie'n ymgecru ar draws siambr y llys a gwnaeth Murphy amryw o gyhuddiadau yn ei herbyn a sgrechiodd ‘You are a liar, and hanging is too good for you.’
Ei Diwedd Hi Gyda William Murphy
Tua chwe wythnos cyn y Nadolig, a Murphy i ffwrdd, gadawodd Gwen Fethesda a mynd i Gaergybi at ddyn arall, Robert Jones, ac yn ôl Jones buont yn byw gyda'i gilydd fel gŵr a gwraig. Fodd bynnag, ymddengys mai perthynas o gyfleustra oedd hon a phrin y mynegai Jones fawr o serch tuag ati. Wythnos neu ddwy cyn y Nadolig aeth Murphy i dŷ John Parry ym Methesda i chwilio am Gwen. Efallai ei fod wedi amau ei bod gyda rhywun arall oherwydd mi ddywedodd wrth dad Gwen a'i merch fabwysiedig, Gwladys, y 'byddai'n ei lladd pe bai'n ei gweld gydag unrhyw ddyn arall'.
Dywedodd tad Gwen gelwydd wrth Murphy iddi fynd i Fiwmaris gyda'i gŵr, a hynny'n benodol i atal Murphy rhag ei dilyn, ond roedd yn anochel y byddai'n mynd i Gaergybi a chyrhaeddodd yno bythefnos cyn y Nadolig. Cymerodd lety yn 40 Baker Street a phrin y llwyddodd i fygu ei genfigen:
‘I came here, and found her living with that man Bob Jones. That riled me and I was in a common lodging-house and him sleeping in company with my woman. I could not stand that.’;
Yn rhyfedd ddigon gwahoddwyd Murphy i ymuno â nhw am frecwast un bore a Jones yn ddidaro i gyd megis petai’n meddwl dim am y peth. Er ei bod yn byw gyda Jones, aeth Gwen i gardota o amgylch yr ardal eto gyda Murphy a bu hwnnw'n dreisgar tuag ati. Ddydd Mercher 22 Rhagfyr 'he appeared to have given her a thrashing' a dywedodd wrth John Griffiths 'I will do for her if I can’t get her away from that old man'. Gwelodd Griffiths Murphy'n ei tharo 'yn ei thrwyn a'i ddwrn'. Dywedodd Gwen wrth Lizzie a Robert Jones fod Murphy, ar fwy nag un achlysur, wedi dangos cyllell a rhaff iddi ac wedi'i rhybuddio 'y byddai'n cael y naill neu'r llall' pe na bai hi'n mynd i'r de gydag ef. Mae'r dystiolaeth yn awgrymu na cheisiodd Jones ei hamddiffyn o gwbl na rhybuddio Murphy i hel ei draed.
Llofruddiaeth Gwen
Ar noson dyngedfennol y 25ain o Ragfyr 1909, trefnodd Murphy i gwrdd â Gwen ym mhen isaf Wynne Street, ger y gamfa, ond aeth Gwen i dafarn ger yr orsaf am lymaid gyda Lizzie. Yna aethant i'r Bardsey Island Inn a chwrdd â Murphy y tu allan. Gofynnodd i Gwen a fyddai hi'n mynd am dro gydag ef, ac mi gytunodd. Dechreuodd Lizzie eu dilyn ond dywedodd Murphy wrthi ei fod eisiau gweld Gwen ar ei phen ei hun. Roedd yn 8.30pm wrth iddynt gerdded i fyny Newry Street i gyfeiriad tŷ'r Capten Edward B Tanner a dywedwyd eu bod yn canu. Dyma'r tro diwethaf i Lizzie na neb arall weld Gwen yn fyw.
Roedd hi'n noson Nadolig a bu Gwen yn yfed, a amharai ar ei chrebwyll a'i symudiadau, ac o'r herwydd roedd yn fregus. Wrth iddyn nhw gerdded yn y tywyllwch roedd glaw mân yn disgyn ac yn gwlychu eu dillad. Roedd Gwen, a oedd yn cerdded i fyny'r stryd o flaen Murphy, ac yna dros gae, yn baglu yn ei erbyn ac, yn ei meddwdod, dywedodd wrtho ei bod yn ei hoffi, yn ddiamau'n cofio eu carwriaeth gynnar. Roedd hi wedi'i gwisgo mewn dillad tebyg i'r rhai yn y llun, a het am ei phen a boa pluog bach o gylch ei gwddf. Fel esgus, gofynnodd Murphy iddi pam na thynnai'r boa pluog ac eglurodd hithau fod bachyn oddi tano yn ei ddal yn ei le. Symudodd ei ddwylo at ei gwddf ond yn lle tynnu'r boa, gafaelodd yn ei gwddf gyda'i law chwith a'i gwthio i'r llawr. Cwffiodd Gwen yn daer yn ei erbyn; sgrechiodd a gwingodd a dywedodd Murphy ‘we had a good hard fight . . .she was nearly as strong as me’ ac mi grafodd ei wyneb yn arw. Ond yn anochel ddigon, doedd hi ddim cyn gryfed ag ef ac yntau'n penlinio drosti, yn gwasgu ei gwddf â'i law chwith ac yn pwyso ar ei law dde ac ni pheidiodd nes 'iddi dyfu'n wannach ac yn wannach' a 'rhoi ei chic olaf'.
Yna, cynyddu a wnaeth creulondeb didostur ac arswydus Murphy o’i chorff, ac ni allwn ond gobeithio, er nad yw’n sicr, iddi farw wedi’r ymosodiad cyntaf. Cymerodd gyllell a dechrau torri ei gwddf, gan roi ei phen ar draws ei goes er mwyn gwneud hynny. Oherwydd bod sŵn yn ei gwddf credai ei bod hi'n fyw o hyd a llusgodd ei chorff a'i wthio i ffos gyfagos lle parhaodd i dorri ei gwddf â'r gyllell pum modfedd ar ei hyd, gan dorri popeth ond madruddyn y cefn, cyn agor y clwyf gyda'i ddwylo i led o dair modfedd.
Yna 'trodd ei hwyneb am i lawr, a'i rhoi o dan y dŵr i'w mygu a'i boddi.' Ar ôl yr ymosodiad olaf yma, ceisiodd lusgo'i chorff o'r ffos gerfydd ei llaw ond roedd hi'n rhy drwm, a'i dillad yn wlyb socian gan y glaw a dŵr y ffos, ac felly ceisiodd ei llusgo allan gerfydd ei gwallt. Unwaith yn rhagor, methodd â gwneud hynny ac gadawodd i'w chorff toredig, gwlyb a gwaedlyd rolio'n ôl i'r ffos. Pan ddaeth yr heddlu o hyd i'r corff dywedasant ei fod yn gorwedd ar ei gefn, y dillad o amgylch y gwddf a'r ysgwyddau'n waed i gyd a 'chlwyf ofnadwy yn y gwddf ac un llaw ar y gwddf, fel petai wedi ceisio ei amddiffyn.'
Ar ôl y llofruddiaeth, bwriadai Murphy ffoi o'r ardal a gwerthodd ei gôt fawr a rhywfaint o fwyd i godi arian i wneud hynny. Fodd bynnag, ar ôl dychwelyd i lety Gwen penderfynodd ildio i'r awdurdodau. Roedd Lizzie a'i chymydog John Jones (a elwir yn Johnny Fflamiau) yno a gofynasant iddo ble roedd Gwen ac atebodd 'Rydych chi wedi gweld Gwen am y tro olaf.' Roedd mab Murphy a Gwen, William ac yntau'n saith oed, yno hefyd ac yn crio am ei fam, ond dywedodd Murphy wrtho nad oedd ganddo fam a rhoi ceiniog iddo, cyn dweud wrth Johnny Fflamiau am roi ychydig o fara iddo. Yna dangosodd y corff i Johnny Fflamiau ac aeth yn ei flaen i orsaf yr Heddlu ac ildio ei hun iddynt.
Ymddengys i Heddlu Caergybi ddarganfod llythyrau gyda chorff Gwen a nodai gyfeiriad ei thad, ac anfonwyd telegram i Orsaf Heddlu Bethesda. Adroddwyd y newyddion dirdynnol wrth dad Gwen, ac yntau'n 62 oed, yn ôl pob tebyg gan Sarjant Rowlands o Fethesda, ac aeth i Gaergybi i adnabod y corff. Oherwydd ei amgylchiadau gwnaeth rheithgor y cwest gasgliad i dalu ei gostau teithio, a bwyd a llety yng Nghaergybi.
Adroddwyd digwyddiadau erchyll y noson honno mewn papurau newydd ledled y wlad ac yn yr achos gorfodwyd hyd yn oed i Gwladys Jones, llysferch 11 oed Gwen, roi tystiolaeth, ac ar un adeg torrodd i lawr yn ei dagrau. Yn ddiamau bu'n brofiad erchyll i Gwladys a thad Gwen, John. Yn union o flaen ac o dan y blwch tystio eisteddai dynion y wasg gyda'i gilydd ar fainc yn ysgrifennu popeth am fywyd Gwen a'i llofruddiaeth erchyll. Ychydig lathenni i ffwrdd yn y llys roedd Murphy yn eu hwynebu o'r doc, yn taflu ambell i gwestiwn at y gwahanol dystion.
Y Llys yn Beaumaris lle cafodd Murphy ei roi ar brawf. Sylwch mor agos oedd mainc y gohebwyr a'r doc at y blwch tystio, lle rhoddodd tad a merch fabwysiedig Gwen dystiolaeth. Mae’r bocs tyst i’r chwith o dan y golau. Mae mainc y gohebydd ar y dde. Mae’r llys barn ble roedd Murphy yn sefyll ar y dde o’r llun. Gyda diolch i Gyngor Tref Biwmaris.
Dadleuodd amddiffyniad Murphy ‘he never really had any intention of doing harm to the woman, but was possessed by some impulsive mania, and unable to control his actions’. Fodd bynnag, mae gweithredoedd Murphy a'r datganiadau a wnaethai cyn y noson honno'n awgrymu bod y llofruddiaeth yn fwriadol. Ar y trên i Garchar Caernarfon, tua milltir a hanner o Gaergybi, pwyntiodd at fferm a dywedodd wrth yr heddweision a oedd yn ei hebrwng ei fod wedi bwriadu lladd Gwen yno ar y dydd Iau (y 23ain) tra roeddent wrthi'n cardota gyda'i gilydd, ond oherwydd bod William gyda nhw penderfynodd beidio oherwydd nad oedd am i'r plentyn weld. Cariai gyllell a chortyn gydag ef ac mewn sgwrs â dynion o Baker Street honnwyd iddo ddweud ‘that he would do for Gwen Jones, and that she would not live to eat her Christmas dinner’. Ar ôl y llofruddiaeth adroddwyd i Murphy ddweud ‘I am not sorry for it; I am glad I have done it. I shall get a bit of rest now.’ Yn ôl heddweision Caergybi a ddaethai i gysylltiad ag ef adeg y llofruddiaeth, nid oedd yn falch oherwydd iddo ei llofruddio, ond yn hytrach 'he had prevented her from bestowing her affection on any other man but himself.’
Cynhebrwng Gwen
Tra bo holl helynt y llofruddiaeth a'r achos yn rhefru ac yn chwythu yn y papurau newydd, claddwyd Gwen yn dawel mewn bedd tlotyn heb ei farcio ym Mynwent y Marwdy (Maes Hyfryd), Caergybi ar 29 Rhagfyr. Ni wyddys pwy a ddaeth, os daeth neb, i'r cynhebrwng a gynhaliwyd gan y Parchedig David Powell Richards, gweinidog wedi ymddeol, a oedd yn digwydd bod yn ymweld â'r ardal dros wyliau'r Nadolig. (Diolch i Barry Hillier am yr wybodaeth am y Parchedig David Powell Richards).
Plant Gwen
Bellach roedd byd plant Gwen yn fregus iawn. Does dim sôn am dad Gwen ar ôl yr achos ac efallai ei fod wedi marw. Ymddengys na wnaeth ei brawd, Thomas, ddim ymdrech i fynd â'r plant i'w gartref yn y de. Efallai na allai fforddio gwneud hynny, roedd ganddo wraig a thri o blant i'w cefnogi eisoes, neu efallai ei fod eisiau osgoi cysylltiad â'r digwyddiadau uchod a'i fod wedi cadw draw o'r herwydd. Doedd dim sôn amdano yn y wasg o gwbl, er mae llythyrau'r heddlu'n datgelu ei fod yn gwybod am lofruddiaeth ei chwaer.
Cymerwyd Gwladys o dan ofal Undeb Bangor a Biwmaris yng Nghartref Maesgarnedd, ac mi gymerwyd William John o dan ofal Dr Barnardos. Aethpwyd ag ef o'r cartref fis Ebrill 1910 gan ddyn a'i defnyddiodd at ddibenion cardota, ond yn ffodus ddigon daeth rhywun o hyd iddynt ar un o Ffyrdd Caernarfon a chymerwyd William yn ôl i ofal. Mae'n arwyddocaol na chynigiodd Morris Jones, a fu'n dawel drwy hyn oll, nad ymddangosodd yn y treial na gwneud datganiadau o gwbl, ofalu am William, rhywbeth a fyddai'n ddisgwyledig pe bai'r plentyn yn blentyn iddo yntau. Fis Ebrill cynigiodd dynes o Bolton fabwysiadu Gwladys ac fe gydsyniodd y bwrdd gwarcheidwaid lleol heb sicrhau cytundeb ei mam a oedd wedi dychwelyd o'r de ac a oedd bellach yn byw yn Ffestiniog. Fe wnaethant hynny oherwydd nad oeddent am i Gwladys golli'r cyfle ac roeddent yn 'barod i fynd i'r carchar drosto'. Ni wyddys a welodd William a Gwladys ei gilydd eto, ond gyda marw Gwen ym 1909, chwalwyd yr uned deuluol fach fregus a oedd wedi goroesi tan hynny.
Gwen Ellen Jones
Eleni yn y 110fed flwyddyn ers ei marwolaeth, dylid cofio Gwen Ellen Jones, nid fel rhan o stori William Murphy, ond fel rhywun yn ei rhinwedd ei hun. Roedd yn berson yn ei rhinwedd ei hun ac fe wnaeth gamgymeriadau, ond dangosodd wytnwch a charedigrwydd hefyd. Roedd hi'n ferch i John a Jane, yn chwaer i Thomas a Jane, yn wraig i Morris ac yn fam i William a Gwladys a dyna sut y dylid ei chofio yn hytrach na menyw o'r 'hawker class' a lofruddiwyd gan William Murphy noson Nadolig 1909
Gwen Ellen Jones 1874-1909
Eiddo Gwen 25 Rhagfyr 1909
|
Eiddo Murphy 25 Rhagfyr 1909
|
Dr Hazel Pierce
Canolfan Stephen Colclough ar Hanes a Diwylliant y Llyfr.
Rhagfyr 2019
FFYNONELLAU
Birth Certificate of William John Jones, 19 January 1903
Archifdy Ynys Môn
WH/8 Cases Tried Anglesey Constabulary Second Division 1904 - 1919
WH/17 Records of Crimes Book 1896 - 1922
WH/39 Journal Holyhead Station 1909 - 1912
WH/53 Letter Book 1893 - 1911
Adnoddau ar-lein
The Census Returns for Wales: 1871, 1881, 1891, 1901, 1911 (trwy Ancestry.co.uk)
General Register Office England and Wales Birth, Marriage and Death (BMD) Index (trwy Find My Past and the General Register Office)
Registers for Caernarfonshire and Anglesey (trwy Find My Past)
Papurau newydd
(ar-lein trwy Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Find My Past)
Lancashire Evening Post, 28 December 1909
Flintshire Observer Mining Journal and General Advertiser for the Counties of Flint, 30 December 1909
The Cambrian, 31 December 1909
Llangollen Advertiser, 31 December 1909
The North Wales Weekly News, 31 December 1909
Evening Express, 4 January 1910
Caernarfon and Denbigh Herald, 7 January 1910
The North Wales Express, 7 January 1910
The North Wales Weekly News, 7 January 1910
Llandudno Advertiser, 8 January 1910
Evening Express, 27 January 1910
Carnarvon and Denbigh Herald, 28 January 1910
The North Wales Express, 28 January 1910
Weekly Mail, 29 January 1910
The Montgomeryshire Express and Radnor Times, 1 February 1910
Carnarvon and Denbigh Herald, 4 February 1910
Baner ac Amserau, February 9, 1910
Carnarvon and Denbigh Herald, 11 February 1910
Rhyl Record and Advertiser, 12 February 1910
Llandudno Advertiser, 12 February 1910
Evening Express, 14 February 1910
The North Wales Express, 18 February 1910
Carnarvon and Denbigh Herald, 29 April 1910