Pan fydd ymgeisydd sy'n fyfyriwr yn eich ysgol/coleg yn cyflwyno cais am Ysgoloriaeth Mynediad Prifysgol Bangor, byddwch yn cael e-bost yn nodi enw'r myfyriwr a pha bapur pwnc y maent wedi dewis ei sefyll.
Wrth wneud cais am Ysgoloriaeth Mynediad, gofynnir i ymgeiswyr ddweud wrth aelodau staff perthnasol yn eu hysgol/coleg eu bod yn gwneud cais a chadarnhau bod yr ysgol/coleg yn fodlon trefnu’r oruchwyliaeth briodol i arholiad yr Ysgoloriaeth Mynediad.
Bydd manylion y trefniadau arholi yn cael eu dosbarthu i’r ysgolion/colegau dan sylw ar ôl y dyddiad cau i geisiadau, sef dydd Gwener, 31 Ionawr, 2025.
Cynhelir yr arholiad yn ysgol/coleg yr ymgeiswyr ddydd Mercher, 12 Chwefror. Bydd gofyn i ymgeiswyr sefyll arholiad mewn pwnc academaidd (o'u dewis) naill ai yn y bore neu yn y prynhawn, yr ysgol/coleg sy’n dewis. Yn anffodus, ni fydd yn bosib sefyll yr arholiad ar unrhyw ddiwrnod arall waeth beth yr amgylchiadau unigol. Bydd yr arholiad yn para dwy awr oni nodir yn wahanol.
Ar ôl cael y papurau arholiad, gofynnir i swyddogion arholiadau wirio a yw’r papurau arholiad yn cyfateb i’r rhai ar y rhestr yn yr e-bost cysylltiedig, ac os nad ydynt, i gysylltu â ni cyn gynted â phosib trwy e-bost fel y gellir datrys hyn cyn diwrnod yr arholiad.
Caniateir addasiadau i ymgeiswyr sydd â gofynion penodol ac sy'n dymuno sefyll arholiad yr Ysgoloriaeth Mynediad . Bydd y trefniadau fel rheol yr un fath ag y byddai ymgeiswyr yn eu cael ar gyfer eu harholiadau ysgol/coleg, fel y cymeradwywyd gan eu swyddog arholiadau.
Arholiad papur fydd hwn. Dylai ymgeiswyr ddefnyddio papur â llinellau a chysylltu’r dalennau â’i gilydd. Dylid sicrhau bod ymgeiswyr yn ysgrifennu eu henw llawn, eu hysgol/coleg a’r papur pwnc ar bob darn o bapur.
Ar ôl yr arholiad, gofynnwn i chi ddychwelyd y sgriptiau mewn un o ddwy ffordd. Dylech naill ai sganio’r sgriptiau a'u hanfon atom trwy e-bost ac yna anfon y sgriptiau gwreiddiol yn y post (rhag ofn y bydd problemau gyda'r copi wedi ei sganio), neu gallwch bostio’r sgriptiau gwreiddiol naill ai trwy'r post dosbarth 1af neu bost cofrestredig i gyrraedd DIM HWYRACH NA Dydd Gwener, 14 Chwefror.
Nid oes cynlluniau marcio ar gael ar gyfer yr arholiadau.