Penodiadau er Anrhydedd

Mae gan y Brifysgol weithdrefn sy’n ymwneud â dyfarnu teitlau er anrhydedd, a'r diben yw cydnabod cyfraniad gwirfoddol, di-dâl at weithgareddau’r Ysgol neu'r Brifysgol. Mae'r weithdrefn yn ymwneud â chymeradwyaeth y Senedd ar argymhelliad Pennaeth Ysgol, cyn belled â bod rhai meini prawf yn cael eu bodloni, a nodir y rheini yn fan yma.

Pennaeth yr Ysgol sy'n gyfrifol am ddiwydrwydd dyladwy ar enwebeion ar gyfer y penodiadau hynny. Mae'n ofynnol i ysgolion gyflwyno CV ynghyd â'u henwebiad i'r Swyddfa Llywodraethu a fydd yn trefnu ei gyflwyno i'r Senedd i'w gymeradwyo. Fel rheol dyfernir teitlau er anrhydedd am gyfnod rhwng 1 a 3 blynedd ond gellir eu hymestyn ar gais yr Ysgol.

Mae'r Senedd yn cyfarfod bedair gwaith yn ystod y flwyddyn, a gellir cyflwyno enwebiadau i bob cyfarfod. Dylai'r Swyddfa Llywodraethu dderbyn enwebiadau o leiaf 10 diwrnod gwaith cyn dyddiad y Senedd. Gellir dod o hyd i'r ffurflen enwebu yma (nodwch, mae'r ffurflen hon ar gael i staff Prifysgol Bangor yn unig).

Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn â'r broses Penodiadau er Anrhydedd, cysylltwch â Sera Whitley yn y Swyddfa Llywdoraethiant.

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?