Fy ngwlad:
Woman putting on facemask

Cadw pobl yn ddiogel: Deall Ymddygiadau Amddiffynnol rhag COVID-19 mewn Digwyddiadau Cymdeithasol Mawr

Awst 2024

Y Cefndir

Wrth i’r byd ailagor yn raddol yn 2021, roedd y Deyrnas Unedig yn wynebu her ailgyflwyno cynulliadau torfol a sicrhau diogelwch y cyhoedd yn sgil pandemig COVID-19. Roedd Llywodraeth Cymru’n awyddus i ddeall sut byddai pobl yn cadw at fesurau diogelu personol yn y cyd-destunau hynny, a buont yn cynnal astudiaethau mewn dau ddigwyddiad 'torfol': Gŵyl Gerddorol Tafwyl a chynhadledd fusnes yng Ngwesty'r Celtic Manor. Nod yr astudiaeth oedd arsylwi sut oedd ymddygiadau amddiffynnol fel cadw pellter cymdeithasol a gwisgo mygydau’n gweithio yn y byd go iawn a nodi’r ffactorau a oedd yn dylanwadu ar gydymffurfiaeth.

Ein Dull

Aethom ati yn yr astudiaeth gyda chynllun cynhwysfawr i arsylwi a dadansoddi ymddygiad mewn modd strwythuredig:

  1. Diffinio'r Broblem: Y mater canolog oedd y potensial i gynulliadau mawr weithredu fel catalyddion i drosglwyddo COVID-19. Roedd deall ffactorau fel ymddygiad y gynulleidfa wrth iddynt gydymffurfio â’r mesurau amddiffynnol mewn amrywiol gyd-destunau yn y digwyddiadau hynny’n hanfodol i liniaru’r risg.
  2. Nodi Sbardunau a Rhwystrau Ymddygiadol Allweddol: Roedd yr astudiaeth yn canolbwyntio ar ddeall sut mae ffactorau fel yr amgylchedd ffisegol, normau cymdeithasol, a dilyniant amser yn ystod digwyddiad yn dylanwadu ar ymddygiadau amddiffynnol. Gwnaethom ddefnyddio'r arsylwadau hynny i nodi'r hyn a oedd yn annog neu'n rhwystro cydymffurfiaeth.
  3. Cynllunio Astudiaethau Arsylwi: Defnyddiwyd arsylwyr hyfforddedig i fonitro ymddygiad yn gyfrinachol trwy gydol y digwyddiadau. Cafodd yr arsylwadau eu cofnodi’n systematig mewn gwahanol gyd-destunau, megis wrth fynd i mewn ac allan, mewn mannau eistedd, ac mewn ciwiau, i greu darlun cynhwysfawr o gadw at fesurau amddiffynnol.
  • Cadw Pellter Cymdeithasol: Yng Ngŵyl Gerddorol Tafwyl, roedd cydymffurfiaeth at gadw pellter cymdeithasol ar ei uchaf pan oedd y bobl yn eistedd wrth eu byrddau dynodedig, gyda 91% yn cadw’r pellter a argymhellwyd. Fodd bynnag, plymio a wnaeth cydymffurfiaeth yn y cyfnodau mynediad ac ymadael, lle'r oedd gordyrru'n fwy tebygol. Yn yr un modd, yng nghynhadledd y Celtic Manor, llwyddodd 95% o'r bobl i gadw pellter cymdeithasol yn ystod amser cinio, ond gostwng a wnaeth hynny i ddim ond 18% wrth symud rhwng ystafelloedd.
  • Gwisgo Mwgwd: Roedd y defnydd o fygydau’n uchel ar y cyfan ond yn amrywio yn ôl y cyd-destun. Yn Nhafwyl, roedd cydymffurfiaeth y masgiau’n 99% wrth gael mynediad ond disgynnodd hyd 50% pan oedd pobl yn ciwio i fynd i mewn ac allan o'r digwyddiad. Yn y Celtic Manor, roedd cydymffurfiaeth y masgiau’n gyson uwch, ac mae’n debygol bod hynny oherwydd y lleoliad proffesiynol a gorfodi llymach.
  • Cynllun a Dyluniad y Digwyddiad: Roedd i’r amgylchedd ffisegol rôl hanfodol o ran cynnal neu darfu ar ymddygiadau amddiffynnol. Yn Nhafwyl, arweiniodd diffyg marciau llawr ac arwyddion gweladwy mewn mannau lle’r oedd nifer uchel o bobl fel ciwiau’r toiled at lai o gydymffurfiaeth o ran cadw pellter cymdeithasol. Ar y llaw arall, roedd amgylchedd strwythuredig y Celtic Manor, lle’r oedd marciau llawr a llwybrau dynodedig, wedi helpu cynnal lefelau uwch o gydymffurfiaeth, er bod rhai enghreifftiau o dor-cydymffurfiaeth yn dal i ddigwydd mewn mannau lle’r oedd llai o fonitro.
  • Lefelau Sŵn: Roedd lefelau sŵn uchel yn Nhafwyl yn aml yn arwain pobl i dynnu eu mygydau i gyfathrebu’n fwy effeithiol, yn enwedig mewn mannau gorlawn lle roedd cyfaddawdu hefyd o ran cadw pellter hefyd.
  • Ymddygiad y Staff: Canfu'r astudiaeth fod ymddygiad y staff yn dylanwadu'n ddirfawr ar gydymffurfiaeth pobl. Yn Nhafwyl, er bod y staff yn gwisgo mygydau’n gyson (cydymffurfiaeth 100%), roedd eu cydymffurfiaeth at gadw pellter cymdeithasol yn is o lawer, yn enwedig ymhlith y gwirfoddolwyr a fu’n rhyngweithio’n glos â’r gynulleidfa. Mae'n debyg bod yr ymddygiad anghyson hwnnw wedi cyfrannu at fethiannau tebyg ymhlith y gynulleidfa.
  • Normau Cymdeithasol: Nododd yr arsylwyr, pan oedd lleiafrif o’r gynulleidfa’n torri’r mesurau amddiffynnol, megis symud o gwmpas heb fygydau neu’n gordyrru mewn llinellau, roedd yn aml yn arwain at effaith grychdonni lle roedd eraill yn eu canlyn. Roedd hynny’n hynod o amlwg yng nghynhadledd y Celtic Manor, lle roedd un grŵp o bobl yn torri’r canllawiau cadw pellter yn gyson, gan arwain at gydymffurfiaeth is ymhlith eraill yn yr un grŵp.

 

WCBC Social Distancing graph

Ffigur 1.Cyfraddau cadw at gadw pellter cymdeithasol a gwisgo gorchuddion wyneb dros gyfnod digwyddiad Tafwyl.

Trafodaeth

Yn seiliedig ar yr arsylwadau a’r dadansoddiadau manwl, datblygwyd nifer o strategaethau pwrpasol i wella cydymffurfiaeth ag ymddygiadau amddiffynnol mewn digwyddiadau yn y dyfodol:

      • Arwyddion a Marciau Llawr: Gosod arwyddion clir, gweladwy a marciau llawr yn strategol yn nodwedd safonol ym mhob digwyddiad. Mae'r ciwiau amgylcheddol hynny’n helpu arwain y gynulleidfa i gadw pellter cymdeithasol ac yn eu hatgoffa o bwysigrwydd gwisgo mygydau, yn enwedig mewn mannau lle mae niferoedd uchel o bobl fel y mannau mynediad, yr ystafelloedd ymolchi a’r mannau bwyd.
      • Symud Strwythuredig: Dylai trefnwyr digwyddiadau ddylunio llwybrau a llif symudiadau sy'n lleihau gordyrru. Er enghraifft, gall amseroedd mewn ac allan cyfnodol, llwybrau unffordd, a systemau ciwio wedi'u marcio'n glir helpu cadw pellter corfforol.
      • Cysondeb mewn Ymddygiadau Amddiffynnol: Dylai holl staff y digwyddiad, yn enwedig gwirfoddolwyr, gael eu hyfforddi i fodelu ymddygiadau amddiffynnol yn gyson. Mae hynny’n cynnwys cadw pellter cymdeithasol, gwisgo mygydau'n gywir, ac ymyrryd mewn da bryd pan fo tor-cydymffurfiaeth. Dylai’r hyfforddiant bwysleisio rôl y staff fel modelau rôl, y mae eu hymddygiad yn dylanwadu'n uniongyrchol ar weithredoedd y gynulleidfa.
      • Stiwardio Gweithredol: Gall defnyddio stiwardiaid sy'n monitro ac yn arwain y gynulledifa’n bwrpasol, yn enwedig mewn mannau llai strwythuredig fel ciwiau ac yn ystod cyfnodau pontio rhwng cyfnodau’r digwyddiadau, helpu cadw at fesurau amddiffynnol.
      • Negeseuon Cyn y Digwyddiad: Gall cyfathrebu clir cyn y digwyddiad, gan gynnwys canllawiau ynglŷn ag ymddygiadau disgwyliedig a phwysigrwydd cadw at fesurau amddiffynnol, osod y naws ar gyfer cydymffurfiaeth. Byddai’n bosib atgyfnerthu hynny gyda nodiadau atgoffa yn ystod y digwyddiad, gan ddefnyddio cyhoeddiadau byw a negeseuon digidol.
      • Atgyfnerthu Cadarnhaol: Gall cydnabod a chanmol cydymffurfiaeth at fesurau amddiffynnol yn ystod digwyddiad hybu ymddygiad cadarnhaol. Er enghraifft, gall cyhoeddiadau byw sy'n tynnu sylw at grwpiau sy'n cadw pellter cymdeithasol neu'n gwisgo mygydau'n gywir annog eraill i wneud yr un peth.
      • Monitro Ymddygiad Dros Amser: Nododd yr arsylwyr fod cydymffurfiaeth gydag ymddygiadau amddiffynnol yn tueddu i leihau wrth i’r digwyddiadau fynd rhagddynt, ac mae hynny oherwydd blinder neu lai o wyliadwriaeth mae’n debyg. I wrthweithio hynny, dylai trefnwyr digwyddiadau gynllunio ar gyfer mwy o fonitro ac atgyfnerthu mesurau amddiffynnol yn ystod cyfnodau diweddarach y digwyddiad, yn enwedig pan fo’r gynulleidfa wedi ymlacio mwy.
      • Rheoli Mannau Risg Uchel: Dylid rhoi sylw neilltuol i fannau lle mae tor-rheolau yn fwyaf tebygol o ddigwydd, megis y mannau mynediad a’r allanfeydd. Gall cynyddu presenoldeb y staff ac arwyddion yn y mannau hynny helpu cynnal cydymffurfiaeth at y mesurau diogelu.
Data image for Situational Behaviour Support

Ffigur 2.Strategaethau sefyllfaol i gefnogi ymddygiadau COVID-19-diogel.

Camau Pellach

Er mwyn adeiladu ar ganfyddiadau’r astudiaeth, gallai ymchwil ac ymyriadau pellach ganolbwyntio ar yr isod:

  • Ymyriadau Ymddygiadol mewn Cyd-destunau Gwahanol: Ehangu’r arsylwadau i wahanol fathau o ddigwyddiadau a chyd-destunau i weld sut mae ffactorau cyd-destunol penodol yn dylanwadu ar ymddygiad. Gallai hynny gynnwys digwyddiadau amrywiol eu maint, lleoliadau dan do o’u cymharu â’r awyr agored, a chyd-destunau diwylliannol gwahanol.
  • Monitro Tymor Hir: Sefydlu monitro hirdymor o gydymffurfiaeth ag ymddygiadau amddiffynnol mewn digwyddiadau dros amser, yn enwedig wrth i agweddau'r cyhoedd tuag at COVID-19 ddatblygu ac wrth i amrywiadau newydd ddod i'r amlwg.
  • Integreiddio Technoleg: Archwilio’r defnydd o dechnoleg, fel apiau symudol neu ddyfeisiau gwisgadwy, i fonitro ac annog cydymffurfiaeth gydag ymddygiadau amddiffynnol mewn amser real. Er enghraifft, gallai apiau atgoffa pobl i wisgo mygydau neu gadw pellter yn seiliedig ar agosrwydd at eraill.