Fy ngwlad:
Welsh WCBC logo

Canolfan Newid Ymddygiad Cymru

Gwybodaeth am y Ganolfan

Datgloi Dealltwriaeth Ymddygiadol yng Nghanolfan Newid Ymddygiad Cymru

Mae Canolfan Newid Ymddygiad Cymru (WCBC) yn adeiladu ar enw da academaidd Prifysgol Bangor yn rhyngwladol a’i hymchwil gymhwysol ym maes seicoleg ymddygiadol a newid ymddygiad.

Newid Pwrpasol at Ddyfodol Cynaliadwy

Nid gweithgarwch academaidd yn unig yw deall newid ymddygiad a’i roi ar waith; mae'n rhan hanfodol o feithrin byw'n gynaliadwy, hyrwyddo twf economaidd, a mynd i'r afael â heriau cymdeithas gyfoes. Mae Canolfan Newid Ymddygiad Cymru yn y rheng flaen, yn gweithio gyda'r Llywodraeth, gyda busnes a chyda'r byd academaidd i hyrwyddo arloesedd a chreu systemau sy'n ymateb yn effeithiol i anghenion wrth iddynt godi. Daeth y Ganolfan i fod yn sgil cyd-fuddsoddiad gan Lywodraeth Cymru drwy Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru a chan Brifysgol Bangor, ac yn y lle cyntaf ymgymerwyd â menter dros 2.5 mlynedd gyda chyllid craidd. Mae'r Ganolfan yn parhau i ffynnu ac yn esblygu drwy ymateb i anghenion, ac yn cyfrannu at syniadau cyfoes a blaengar.

Trwy gyfrwng projectau strategol, mae’r Ganolfan wedi llwyddo i ledaenu gwybodaeth ymarferol ac offer hanfodol i sectorau busnes, gan gyfrannu at dwf a chystadleurwydd busnesau o Gymru yn lleol ac yn rhyngwladol.

Themâu Cyfredol y Ganolfan

Y tu hwnt i'r cyfnod ariannu cychwynnol, mae'r ganolfan wedi parhau i fod yn adnodd deinamig, yn hyrwyddo cydweithrediadau ymchwil, yn cyflwyno gweithdai wedi'u targedu, ac yn gweithredu fel corff cynghori ar gymhwyso gwyddor ymddygiadol ym meysydd iechyd a lles cyhoeddus.

WCBC logo