Fy ngwlad:
panorama o Barc Cenedlaethol Eryri

Astudiaeth Achos Parc Cenedlaethol Eryri

Mai 2024

Background

In early 2021, as the COVID-19 pandemic began to subside, WCBC was approached by the Eryri National Park Authority (ENP). The Authority expressed growing frustration over the rising levels of littering and general disrespect for the natural environment within the National Park. Littering on Yr Wyddfa (Snowdon) has been a persistent issue, particularly along the Llanberis Path, which is the busiest route in Eryri. However, the problem appeared to have escalated significantly as international travel restrictions prompted more UK holidaymakers to explore domestic destinations.

 

Ein Dull

Fel gyda’n holl brojectau, defnyddiwyd dull strwythuredig i fynd i’r afael â’r mater:

  1. Diffinio’r Broblem: Asesu cwmpas a graddfa'r broblem sbwriel.
  2. Nodi Sbardunau Ymddygiad, Rhwystrau, a Galluogwyr Allweddol: Deall y ffactorau sylfaenol sy'n cyfrannu at y broblem.
  3. Dylunio Ymyriad Pwrpasol: Defnyddio ein pecyn cymorth ymddygiadol i lunio datrysiad pwrpasol.

Mae ymyriadau traddodiadol, megis ataliadau cyhoeddus, arwyddion rhybuddio, a mynd ati’n syml i godi ymwybyddiaeth, wedi bod yn aneffeithiol o ran lleihau sbwriel. Mae hyn yn gyson â chanfyddiadau ar draws y llenyddiaeth, sy'n dangos mai anaml y mae codi ymwybyddiaeth yn unig yn llwyddo i newid ymddygiad. Dros sawl tymor heicio, fe wnaethom gynnal arolygon helaeth i gael dealltwriaeth ddyfnach o'r broblem. Gan ddefnyddio’r model COM-B (Gallu, Cyfle, Cymhelliant-Ymddygiad), aethom ati i ddadansoddi atebion yr arolwg i ddarganfod achosion sylfaenol taflu sbwriel, ac i nodi strategaethau ymyrraeth effeithiol.

Un o fewnwelediadau allweddol y dadansoddiad hwn oedd bod y cynnydd yn nifer yr ymwelwyr wedi dod â nifer anghymesur o ymwelwyr “naïf”—unigolion a oedd yn anghyfarwydd â Pharciau Cenedlaethol y Deyrnas Unedig. Roedd y grŵp hwn yn aml yn cynnwys pobl o ganolfannau trefol megis Manceinion, Lerpwl, a Birmingham, neu’n cynnwys pobl a oedd yn arfer mynd ar wyliau dramor ond a oedd bellach yn archwilio cyrchfannau lleol. Yn groes i’n tybiaethau cychwynnol, nid diffyg gofal am yr amgylchedd oedd yn gyfrifol am y sbwriel. Mae hyn yn amlygu pwysigrwydd seilio ymyriadau ar ddata gwirioneddol yn hytrach na thybiaethau, gan alluogi'r gynulleidfa darged i gyfleu eu realiti canfyddedig.

Datgelodd ein dadansoddiad COM-B fod y rhan fwyaf o ymwelwyr wir yn cael eu hysgogi i warchod harddwch naturiol Parc Cenedlaethol Eryri. Fodd bynnag, amlygodd y dadansoddiad hefyd segmentau ymddygiad gwahanol ymhlith yr ymwelwyr:

Yn gyffredinol, roedd y grŵp hwn yn glynu at yr egwyddor 'dim ôl ar ôl' ac nid oeddent yn cyfrannu at y broblem sbwriel. Yn wir, roeddent yn aml yn helpu trwy gasglu sbwriel yr oedd pobl eraill wedi’i adael ar ôl.

Er eu bod wedi’u hysgogi i ofalu am yr amgylchedd, roedd y segment hwn yn wynebu nifer o rwystrau o ran gallu a chyfleoedd, a oedd yn cyfrannu at ollwng sbwriel:

Bylchau mewn Gallu:

  • Camsyniad bod gan y Parc Cenedlaethol staff gofalu sy’n gyfrifol am gasglu sbwriel yn rheolaidd.
  • Rhagdybiaeth y byddai gan y Parc ddigon o finiau, gan ryddhau ymwelwyr o'r cyfrifoldeb o reoli eu gwastraff.
  • Diffyg paratoi, megis peidio â dod â bag i gasglu a chario eu sbwriel.

Materion Cyfle:

  • Lleolir biniau mewn meysydd parcio’n bennaf, ond nid yw eu lleoliadau’n cael eu cyfleu'n glir i ymwelwyr. O ganlyniad, roedd ymwelwyr yn aml yn ansicr ble i gael gwared ar eu gwastraff.
  • Roedd biniau mewn meysydd parcio’n aml yn gorlifo, a oedd yn creu ymddangosiad o esgeulustod ac yn atgyfnerthu’r norm cymdeithasol bod taflu sbwriel yn dderbyniol.

Un awgrym cyffredin o’r arolygon, yn enwedig ymhlith ymwelwyr iau (20-30 oed), oedd bod angen mwy o finiau. I’r gwrthwyneb, roedd ymwelwyr hŷn yn fwy ymwybodol o faterion sbwriel ac yn pwysleisio pwysigrwydd cyfrifoldeb personol wrth reoli gwastraff. Roedd Parc Cenedlaethol Eryri o’r un farn, ac roedd yn awyddus i annog ymwelwyr i gymryd cyfrifoldeb am reoli eu gwastraff eu hunain.

Y Datrysiad

Er mwyn mynd i'r afael â'r canlyniadau COM-B a nodwyd ac i gyd-fynd ag amcanion ehangach Parc Cenedlaethol Eryri, gwnaethom ddylunio sgript wedi'i llywio gan ymddygiad i'w defnyddio gan wardeniaid y parc, gwirfoddolwyr a staff. Roedd y sgript hon (a ddangosir isod) yn ymgorffori negeseuon allweddol ac yn defnyddio technegau amrywiol i wella effeithiolrwydd ymddygiadol:

Ymgysylltu ag ymwelwyr gan ddefnyddio cwestiynau a oedd yn meithrin ymdeimlad o ymreolaeth a chyfrifoldeb, megis gofyn pam eu bod yn teimlo ei bod yn bwysig gwarchod yr amgylchedd.

Annog ymwelwyr i gynllunio ymlaen llaw, drwy ddod â bagiau i gario sbwriel, er enghraifft.

Nodi datrysiadau ymarferol i rwystrau, a thynnu sylw at alluogwyr sy’n ysgogi ymddygiad cyfrifol.

Cymerodd ymchwilwyr eu lle mewn fan wybodaeth Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri ar waelod Llwybr Watkin ar yr Wyddfa, lle buont yn trafod ag ymwelwyr oedd yn mynd heibio am eu cynlluniau ar eu hymweliad ag Eryri, gan gynnwys sut yr oeddent yn bwriadu rheoli unrhyw sbwriel y gallent ei greu yn ystod eu hymweliad. Roedd y cwestiynau’n benagored ac wedi’u cynllunio i archwilio cymhellion a gwerthoedd yr ymwelwyr, a defnyddiwyd llawer o gwestiynau “pam?” er mwyn annog yr ymwelwyr i adfyfyrio’n ddyfnach. Roedd y sgwrs yn fwriadol yn osgoi defnyddio iaith waharddol neu awdurdodaidd; yn lle hynny, anogwyd ymwelwyr i feddwl am y materion yn annibynnol a dod o hyd i atebion eu hunain. Yn ogystal, rhoddwyd cyfle i gerddwyr lofnodi addewid electronig, gan ymrwymo i gymryd cyfrifoldeb am gadw'r mynyddoedd yn daclus.

Yn dilyn y trafodaethau hyn, cerddodd ymchwilwyr hanner cyntaf Llwybr Watkin a chofnodi faint o sbwriel oedd i’w weld ar draws chwe pharth a ddiffiniwyd ymlaen llaw, a dosbarthu’r sbwriel yn chwe math. Cynhaliwyd cyfrifiadau sbwriel ar y ddau ddiwrnod o ymyrryd (pan gynhaliwyd trafodaethau gydag ymwelwyr) a diwrnodau di-ymyrraeth (pan na chynhaliwyd unrhyw drafodaethau) yn ystod mis Ebrill 2023. Roedd yr astudiaeth wedi’i rheoli’n ofalus o ran newidynnau megis traffig traed, ymdrechion glanhau gwirfoddolwyr Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, ac amodau tywydd.

Dangosir map o’r parthau (A-G) a lleoliad fan wybodaeth Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn y ffigur isod:

Yn dilyn hynny, dangosodd y canlyniadau ostyngiad sylweddol mewn sbwriel ar ddiwrnodau pan roddwyd yr ymyriad ar waith, gan atgyfnerthu ymhellach effeithiolrwydd y dull hwn sydd wedi’i lywio gan ymddygiad.

Fe wnaethom dreialu’r ymyriad hwn trwy gael ymchwilwyr i ymgysylltu ag ymwelwyr wrth iddynt ddechrau dringo’r Wyddfa. Ar ddiwrnodau rheoli, ni ddefnyddiwyd unrhyw sgript i sefydlu gwaelodlin at ddibenion cymharu.

WCBC intervention strategy

Dangosodd canlyniadau'r astudiaeth fod gostyngiad sylweddol mewn sbwriel ar y mynydd pan oedd yr ymyriad sgript (a welir isod) wedi’i ddefnyddio. Gwelwyd gostyngiadau mewn sbwriel ar draws pob parth, sy'n dangos bod effeithiolrwydd y sgript wedi'i gynnal dros amser a phellter. Yn nodedig, roedd rhai cerddwyr, yn enwedig y rhai â phlant, wedi mynd y tu hwnt i'w cyfrifoldebau sbwriel personol trwy gasglu sbwriel ychwanegol yn ystod eu taith gerdded, a dychwelyd i'r maes parcio gyda llond bag o sbwriel. Mae'r ymddygiad hwn yn awgrymu bod y sgript, ynghyd â'r addewid, i bob pwrpas wedi annog pobl i "gynllunio ar gyfer sbwriel" ac wedi ysgogi meddylfryd sy'n canolbwyntio ar warchod yr amgylchedd naturiol. Ymhellach, roedd presenoldeb ymchwilwyr i'w weld yn meithrin amgylchedd lle'r oedd ymddygiad cymdeithasgar i'w ddisgwyl, gan atgyfnerthu'r norm gorchmynnol o ofalu am yr amgylchedd.

Yn dilyn llwyddiant y fenter hon, mae Parc Cenedlaethol Eryri wedi integreiddio'r negeseuon allweddol o'n sgript yn eu hymgyrchoedd eu hunain sydd wedi’u llywio gan ymddygiad.

litter 1
Screenshot of second instagram post
screenshot of instagram post

Casgliad

Un o nodau allweddol Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yw cefnogi ymwelwyr i gymryd cyfrifoldeb personol am eu gweithredoedd, gan gynnwys cael gwared ar wastraff, a meithrin diwylliant o warchod byd natur. Mae'r astudiaeth hon yn dangos sut y gall defnyddio sgwrs sydd wedi’i llywio gan ymddygiad gydag ymwelwyr fod yn ffordd effeithiol o hyrwyddo ymddygiad sydd o blaid yr amgylchedd. Mae’r canfyddiadau’n awgrymu bod galluoedd, cyfleoedd a chymhellion penodol sy’n ymwneud â chael gwared ar wastraff yn dylanwadu’n uniongyrchol ar ein tebygolrwydd o ollwng sbwriel. Trwy gymhwyso gwyddorau ymddygiadol, gallwn greu ymyriadau sy’n lleihau sbwriel yn ogystal â meithrin cysylltiad dyfnach rhwng ymwelwyr a’r amgylcheddau naturiol sydd mor bwysig iddynt.