Medi 2024
Economeg Iechyd a Gwyddor Ymddygiad yn dod ynghyd i hybu Iechyd Ataliol: Manteision Iechyd a Lles a Gwerth Cymdeithasol Garddio Gwirfoddol Cefndir
Dros y blynyddoedd diwethaf, mae’r cyfraniad y gall strategaethau ataliol ei wneud wrth fynd i’r afael â heriau cymdeithasol cymhleth, megis yr argyfwng iechyd meddwl presennol wedi cael mwyfwy o gydnabyddiaeth. Yn aml, rhaid i'r strategaethau hyn fod yn amlochrog er mwyn darparu ar gyfer yr amrywiaeth o fuddion y maent yn ceisio eu darparu. Agwedd hanfodol ar strategaethau atal effeithiol yw deall beth sy'n ysgogi unigolion a sut mae anghenion seicolegol yn dylanwadu ar ymddygiad. Mae’r astudiaeth achos hon yn archwilio project cydweithredol sy’n cynnwys Gardd Fotaneg Treborth, y Ganolfan Economeg Iechyd a Gwerthuso Meddyginiaethau a Chanolfan Newid Ymddygiad Cymru ym Mhrifysgol Bangor. Nod y project oedd asesu buddion iechyd a lles a gwerth cymdeithasol garddio gwirfoddol trwy gyfuno economeg iechyd a gwyddorau ymddygiad.
Bodloni ein Hanghenion Seicolegol
Mae cymhelliad wrth wraidd y rhesymau pam mae unigolion yn cymryd rhan mewn gweithgareddau penodol, gan gynnwys garddio gwirfoddol. Yn ôl y ddamcaniaeth hunanbenderfyniaeth, mae gan fodau dynol dri angen seicolegol allweddol: ymreolaeth, ymlyniad a chyflawniad. Mae'r anghenion hyn yn ysgogi ymddygiad ac maent yn hanfodol ar gyfer lles emosiynol. Pan na fyddant yn cael eu bodloni, gall unigolion deimlo’n rhwystredig ac ymatebion meddyliol ac ymddygiadol negyddol.
Yng nghyd-destun garddio gwirfoddol, gellir diwallu'r anghenion seicolegol hyn yn y ffyrdd canlynol:
- Ymreolaeth: Mae garddio yn galluogi unigolion i fod â rheolaeth a gwneud dewisiadau sy'n cyd-fynd â'u gwerthoedd personol.
- Ymlyniad: Mae gwirfoddoli mewn gardd yn meithrin cysylltiadau cymdeithasol ac ymdeimlad o gymuned.
- Llwyddiant: Mae garddio yn cynnig cyfleoedd i feistroli sgiliau a chael boddhad o weld canlyniadau diriaethol eich ymdrechion.
Gall cydnabod a bodloni’r anghenion hyn trwy ymyriadau sy’n seiliedig ar natur, fel garddio gwirfoddol, chwarae rhan arwyddocaol mewn hybu lles meddyliol, yn enwedig ar adeg heriol pan fydd mynediad at ddulliau nodweddiadol o ddiwallu anghenion yn gyfyngedig.
Ein Dull
Yn unol â’n methodoleg strwythuredig, dilynodd y project ddull cam wrth gam:
Y prif amcan oedd archwilio'r manteision iechyd a lles a'r gwerth cymdeithasol sy’n deillio o weithgareddau garddio gwirfoddol. Roedd hyn yn cynnwys gwerthusiad dull cymysg o elw cymdeithasol ar fuddsoddiad ynghyd ag asesiadau o anghenion seicolegol gwirfoddolwyr a'u cysylltiad â natur.
-
- Arolygon Cyn ac Ôl Gwirfoddoli: Cwblhaodd y gwirfoddolwyr holiaduron yn mesur amrywiol ganlyniadau gan ddefnyddio graddfeydd sefydledig megis Short Warwick Edinburgh Mental Wellbeing Scale (SWEMWBS) a’r Nature Connection Index (NCI).
- Asesiadau Ymddygiadol: Asesodd yr astudiaeth anghenion seicolegol sylfaenol gwirfoddolwyr gan ddefnyddio'r Basic Psychological Need Satisfaction and Frustration Scale (BPNSNF) i ddeall yr effaith ar ymreolaeth, cymhwysedd a pherthynas.
- Dadansoddiad Gwerth Cymdeithasol: Defnyddiwyd y fframwaith enillion cymdeithasol ar fuddsoddiad i fesur y gwerth cymdeithasol sy’n deillio o wirfoddoli yng Ngardd Fotaneg Treborth.
Prif Ganfyddiadau
Arweiniodd gwirfoddoli yng Ngardd Fotaneg Treborth at welliannau sylweddol mewn iechyd a lles meddwl y cyfranogwyr yn gyffredinol. Roedd cynnydd sylweddol yn y sgoriau ar SWEMWBS, sy'n dynodi gwell iechyd meddwl a gostyngiad mewn teimladau o drallod.
Dangosodd dadansoddiad o ddata Rhestr Derbyniadau Gwasanaeth Cleient (CSRI) ostyngiad yn y defnydd o wasanaethau iechyd ymhlith y gwirfoddolwyr, gan awgrymu arbedion cost posib i’r system gofal iechyd.
Soniodd y cyfranogwyr am gysylltiad cryfach â byd natur ar ôl cymryd rhan yn y garddio gwirfoddol, yn unol â mesuriad y Nature Connection Index (NCI). Roedd y teimlad hwn o well cysylltiad â natur yn gysylltiedig â chanlyniadau seicolegol gwell.
Canfu'r astudiaeth newidiadau cadarnhaol mewn boddhad canfyddedig a llai o rwystredigaeth o ran anghenion seicolegol sylfaenol. Bu i’r gwirfoddoli feithrin ymdeimlad o ymreolaeth, cymhwysedd, a pherthynas, sy'n hanfodol ar gyfer lles seicolegol.
Datgelodd dadansoddiad SROI fod pob £1 a fuddsoddwyd mewn hwyluso gwirfoddoli gyda Gardd Fotaneg Treborth wedi cynhyrchu gwerth cymdeithasol rhwng £4.02 a £5.43. Mae’r elw sylweddol hwn yn tanlinellu buddion economaidd a chymdeithasol ymyriadau sy’n seiliedig ar natur.
Yr Ateb
Mae'r canfyddiadau'n tynnu sylw at botensial garddio gwirfoddol fel ymyriad sy'n seiliedig ar natur a all gyfrannu at strategaethau iechyd ataliol cyhoeddus trwy ddiwallu anghenion seicolegol hanfodol. Yn ystod cyfnodau o gyfyngiadau, megis yn ystod y pandemig COVID-19, mae dod o hyd i ffyrdd o gynnal ymreolaeth, ymlyniad a chyflawniad yn hanfodol ar gyfer iechyd meddwl. Mae garddio gwirfoddol yn cynnig ffordd ymarferol ac effeithiol o ddarparu'r buddion seicolegol hyn, gan feithrin cymhelliant a pharodrwydd i lynu wrth ymddygiad sy'n hybu iechyd.
Mae’r Prif Strategaethau yn Cynnwys:
- Cyfeirio Ysgogiad: Trwy ddarparu cyfleoedd ar gyfer cymdeithasu o bell, datblygu sgiliau ac ymdeimlad o reolaeth, mae garddio gwirfoddol yn helpu i fodloni anghenion seicolegol craidd, sef ymreolaeth, ymlyniad, a chyflawniad.
- Negeseuon Cymhellol: Gall fframio’r weithred o arddio fel ffordd o gefnogi lles personol a chyfrannu at ymdeimlad torfol o gyflawniad wella cyfranogiad ac ymlyniad.
- Cyd-destun Cydweithredol: Mae annog amgylchedd cefnogol lle mae gwirfoddolwyr yn teimlo'n gysylltiedig ac yn ddefnyddiol yn gallu gwella boddhad cyffredinol a meithrin ymgysylltiad hirdymor.
Casgliad
Mae'r astudiaeth amlddisgyblaethol hon yn pwysleisio pwysigrwydd cyfuno economeg iechyd a gwyddor ymddygiad fel sail i strategaethau atal iechyd cyhoeddus effeithiol. Mae garddio gwirfoddol yng Ngardd Fotaneg Treborth yn gwella iechyd a lles unigolion trwy ddiwallu anghenion seicolegol ac mae hefyd yn cynnig gwerth cymdeithasol ehangach, gan leihau'r baich ar systemau gofal iechyd o bosib. Trwy ddeall a defnyddio'r cymhelliant y tu ôl i weithgareddau o'r fath, gallwn greu ymyriadau mwy dengar ac effeithiol.