Fy ngwlad:

Gwneud y Gorau o'r Diwrnod i Ymgeiswyr

Hyd yn oed os ydych wedi bod i Ddiwrnod Agored ym Mhrifysgol Bangor, rydym yn sicr y byddwch yn elwa o ymweld â ni eto. Cewch fynd i gyflwyniadau a theithiau efallai na chawsoch mo'r amser i'w gwneud y tro diwethaf, yn ogystal â threulio mwy o amser ar eich dewis bwnc. Darllenwch ymlaen i weld sut i wneud y gorau o'ch Diwrnod i Ymgeiswyr.

Cyn i chi gyrraeadd

  • Cynlluniwch, cynlluniwch, cynlluniwch! Edrychwch ar y rhaglen i benderfynu pa gyflwyniadau a theithiau y mae gennych ddiddordeb ynddynt a gweld pryd a ble byddant yn digwydd. 
  • Gwnewch nodyn o’r cwestiynau rydych am ofyn am y cwrs/cyrsiau rydych wedi ymgeisio amdanynt yn ogystal â bywyd myfyriwr. 
  • Cofiwch ganiatáu digon o amser i deithio i Fangor. Edrychwch ar y map isod. Sylwer: Cynhelir y Diwrnod i Ymgeiswyr Radiograffeg ar y campws yn Wrecsam
  • Meddyliwch am beth i'w wisgo – byddwch yn cerdded cryn dipyn rhwng y gwahanol leoliadau ac adeiladau, felly gwisgwch esgidiau y byddwch yn hapus i gerdded ynddynt trwy’r dydd. Ni allwn addo tywydd braf chwaith - felly dewch â chôt neu siaced gyda chi. 
  • Gadewch i ni wybod ymlaen llaw os oes gennych chi, neu rywun fydd gyda chi, anabledd neu broblemau symud, fel y gallwn wneud unrhyw drefniadau angenrheidiol. Ffoniwch 01248 382005 neu anfonwch e-bost i diwrnodagored@bangor.ac.uk 

Ar ôl cyrraedd

Cwad mewnol Prif Adeilad y Brifysgol
  • Rhowch y cod post LL57 2DG yn y Sat Nav neu dilynwch yr arwyddion ar gyfer y Brifysgol  i ddod â chi i Brif Adeilad y Celfyddydau ar Ffordd y Coleg. (Sylwer: Cynhelir y Diwrnod i Ymgeiswyr Radiograffeg ar y campws yn Wrecsam.) 
  • Bydd staff yn eich cyfeirio at y lleoedd parcio sydd ar gael ar hyd Ffordd y Coleg. 
  • Ar ôl cyrraedd ewch i’r 'ardal fewngofnodi', sydd yn Neuadd Prichard-Jones (Neuadd PJ) o fewn Prif Adeilad y Celfyddydau ar Ffordd y Coleg.  
  • Bydd paned o de/coffi rhad ac am ddim ar gael yno, a digon o staff a myfyrwyr yno i'ch cyfeirio at ran nesaf eich diwrnod. 
  • Os byddwch yn ansicr ynglŷn â ble i fynd neu beth i'w wneud nesaf, gofynnwch i unrhyw un fydd naill ai’n gwisgo crys-t Bangor piws (arweinwyr cyfoed) neu grys-t Bangor gwyrddlas (aelodau staff). 
  • Cewch gopi printiedig o'r rhaglen i’w defnyddio yn ystod y dydd. 
  • Tra rydych yn Neuadd PJ, manteisiwch ar y cyfle i  ymweld â'r stondinau  yno, sy’n cynnwys Undeb y Myfyrwyr ac amrywiaeth o wasanaethau cefnogi myfyrwyr. 

Trwy gydol y dydd

  • Byddwch yn gallu gwneud yn fawr o’r Diwrnod i Ymgeiswyr os ydych eisoes wedi penderfynu pa weithgareddau rydych eisiau mynd iddynt, a wedi astudio’r rhaglen i fod yn saff o’r lleoliadau lle mae rhain yn digwydd.
  • Canolbwynt y diwrnod ydi’r cwrs/maes pwnc rydych wedi ei ddewis. Mae 90 munud wedi ei neilltuo ar gyfer eich maes pwnc, lle cewch fynychu sesiwn blasu yn ogystal â chael cyfle i gwrdd efo staff a myfyrwyr. 
  • Y sesiynau hyn yw eich cyfle chi i ganfod mwy am astudio y cwrs o’ch dewis ym Mangor. Sicrhewch eich bod yn gofyn cwestiynau er mwyn dysgu mwy am y cyfleoedd sydd ar gael i chi fel myfyriwr ym Mangor.  
  • Mae'r arddangosfa yn Neuadd PJ yn dwyn ynghyd amrywiaeth eang o wasanaethau cefnogi yn yr un lle. Er enghraifft, os oes gennych gwestiwn penodol am eich cynnig UCAS, os ydych eisiau gwybod mwy am gymorth anabledd, neu gael gwybod mwy am glybiau a chymdeithasau rhad ac am ddim Undeb y Myfyrwyr - bydd y stondinau arddangos perthnasol yn Neuadd PJ gyda staff a myfyrwyr yno i ateb eich cwestiynau. 
  • Gwnewch yn fawr o’r cyfle i siarad â myfyrwyr sy'n astudio'r cwrs sydd o ddiddordeb i chi. Byddant yn hapus i ateb eich cwestiynau a sôn am eu profiad o astudio'r cwrs hwnnw.
  • Peidiwch â bod yn swil, dyma eich cyfle i gael yr holl wybodaeth am ble gallwch fod yn treulio'r tair neu bedair blynedd nesaf. Cofiwch, peidiwch â gadael i'ch teulu neu eich ffrindiau lywio'r sgwrs, chi fydd yn astudio yma!
  • Peidiwch â gadael yn gynnar - cofiwch sicrhau eich bod yn gweld popeth y gallwch ei weld, bydd yn werth chweil i chi. 
  • Gwnewch nodiadau a thynnwch luniau ar eich ffôn i helpu i gofio pethau’n nes ymlaen. 
Coffee machine in a cafe

BWYD A DIOD

  • Darperir te a choffi am ddim trwy gydol y dydd yn yr ardal arddangos yn Neuadd PJ. 
  • Mae lleoedd bwyta’r Brifysgol wedi eu marcio ar y map ar dudalen 9 yn y rhaglen. Maent ar agor rhwng 9am a 4pm i chi brynu lluniaeth (talu â cherdyn yn unig). Gallent fod yn llawn ar yr adegau prysuraf, felly ystyriwch gymryd cinio yn gynharach neu'n hwyrach efallai. 

 

 

SUT I GYRRAEDD Y DIWRNOD I YMGEISWYR

Prifysgol Bangor, Bangor, Gwynedd, LL57 2DG

Cymerwch olwg ar Raglen y Diwrnod i Ymgeiswyr sy'n cynnwys yr holl wybodaeth sydd ei angen arnoch, gan gynnwys beth sydd ymlaen ac yn lle. Sylwer: Cynhelir y Diwrnod i Ymgeiswyr Radiograffeg ar y campws yn Wrecsam

Prifysgol Bangor, Bangor, Gwynedd, LL57 2DG