Fy ngwlad:

Sut i Gyrraedd y Diwrnod i Ymgeiswyr

Dyma lle cewch gyfarwyddiadau ar sut i gyrraedd y Diwrnod i Ymgeiswyr, lle i barcio pan fyddwch wedi cyrraedd, a llefydd i aros yn ystod eich ymweliad.

Ar y ffordd

Bydd Cod Post LL57 2DG yn dod â chi i Brif Adeilad y Celfyddydau, man cychwyn y Diwrnod i Ymgeiswyr. Bydd tywyswyr yn rhoi cyfarwyddiadau i chi ar sut i gyrraedd un o'r meysydd parcio ger Prif Adeilad y Brifysgol (sy'n rhad ac am ddim), a bydd myfyrwyr yn eich tywys i'r Diwrnod i Ymgeiswyr.

Ar y tren neu fws

Ewch i wefan Trainline  a Traveline Cymru am wybodaeth am drafnidiaeth cyhoeddus.

Mae parcio ym meysydd parcio'r Brifysgol yn rhad ac am ddim. Bydd parcio ar gyfer y Diwrnod i Ymgeiswyr ger Prif Adeilad y Celfyddydau ar Ffordd y Coleg (NI FYDD cyfleusterau parcio a theithio o'r meysydd parcio ar Ffordd Deiniol).

Defnyddiwch y cod post LL57 2DG neu dilynwch yr arwyddion am Brif Adeilad y Celfyddydau ar Ffordd y Coleg. (Sylwch os gwelwch yn dda: bydd Diwrnod i Ymgeiswyr Radiograffeg yn Wrecsam). 

Bydd staff yn eich cyfeirio at y gofodau parcio ar hyd Ffordd y Coleg. Ar ôl parcio, bydd angen i chi fynd i gofrestru yn Neuadd Prichard-Jones (Neuadd PJ), ym Mhrif Adeilad y Celfyddydau ar Ffordd y Coleg. 

Mae Canolfan Rheolaeth y Brifysgol yn cynnig llety 4*. Mae ystafelloedd sengl hefyd ar gael yn ein llety en-suite ar y campws - archebwch ar ein gwefan. I’r rheiny ohonoch sy’n dymuno gwneud eich trefniadau eich hunain, ewch i wefan Twristiaeth Gogledd Cymru