Mae'r Ysgol Addysg yn rhagori ym maes Addysgu (BA a TAR Cynradd ac Uwchradd), addysgu myfyrwyr i ddiwallu anghenion ysgolion ledled Prydain a thu hwnt. Yn ogystal, mae gan yr ysgol bartneriaethau cadarn gydag ysgolion Cynradd ac Uwchradd i ddarparu amgylcheddau hyfforddi amrywiol a chefnogol.
Mae’n graddau mewn Astudiaethau Plentyndod ac Ieuenctid yn ddeinamig, ac yn amlddisgyblaethol. Byddwch yn cael cyfle i astudio ystod amrywiol o bynciau sy'n ymwneud â phrofiadau byw plant a phobl ifanc yn y gymdeithas gyfoes, a fydd yn eich cynorthwyo i ddilyn gyrfaoedd mewn amrywiaeth o feysydd gan gynnwys addysgu, gwaith cymdeithasol, cwnsela a'r gyfraith.
O dan arweiniad staff brwdfrydig, gellir dilyn ein hystod eang o gyrsiau blaengar trwy gyfrwng y Gymraeg neu'r Saesneg neu'n ddwyieithog. Yn y cyd-destun Ewropeaidd mae'r arbenigedd dwyieithog hwn yn rhoi dimensiwn cyffrous i'n holl gyrsiau ac yn cynnig cyfleoedd i fyfyrwyr ddatblygu cysylltiadau Ewropeaidd.
Ym mhob agwedd ar ein haddysgu, beth bynnag fo'r cwrs, rydym yn cysylltu theori â'r ymarfer sydd ar waith yn y byd go iawn gan roi'r sgiliau sydd eu hangen arnoch i ffynnu wedi i chi raddio.
Mae gan yr Ysgol awyrgylch cyfeillgar ac mae myfyrwyr o bob ardal a gwahanol gefndiroedd yn ymgartrefu'n gyflym. Rydym yn cynnig amgylchedd gwaith a chymdeithasol cyfoethog gydag adnoddau heb eu hail i'ch astudiaethau.