Roedd Academi Busnes Gogledd Cymru yn broject a gynhaliwyd rhwng 2016 a 2021. Diben cyffredinol y project oedd cefnogi busnesau yng ngogledd Cymru i wneud yn well trwy gynyddu sgiliau eu rheolwyr a gweithwyr eraill trwy gyflwyno cyrsiau achrededig ‘byr’.
Ariannwyd y project gan Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru (WEFO) o dan Flaenoriaeth 2 Cronfa Gymdeithasol Ewrop / Blaenoriaeth Buddsoddi TO10.
I ddechrau, roedd y project yn cynnwys 4 partner gyda Grŵp Llandrillo yn arwain. Roedd y bartneriaeth yn cynnwys Grŵp Llandrillo (GLLM), Prifysgol Bangor (PB), Glyndŵr Wrecsam a Choleg Cambria. Yn 2018 tynnodd Coleg Cambria a Glyndŵr Wrecsam yn ôl o’r project er i Glyndŵr Wrecsam barhau i ddarparu cwrs yr Academi Doniau Ifanc.
Roedd cwmpas gwreiddiol y project yn cynnwys pob awdurdod unedol yng ngogledd Cymru ond ar ôl i Glyndŵr Wrecsam a Choleg Cambria 2 adael; cafodd Wrecsam a Sir y Fflint eu tynnu o’r cwmpas.
Darpariaeth
Bu perchnogion a rheolwyr busnes ar gwrs 2 ddiwrnod Dadansoddi Busnes Strategol a ddilynwyd gan fentora a chwblhau adroddiad anghenion sgiliau a chynllun busnes.
Yna gallai rheolwyr a gweithwyr unigol ddewis o blith cyrsiau 3 diwrnod. Roedd gan bob cwrs aseiniadau a gynlluniwyd i gymhwyso a datblygu sgiliau yn y gweithle. Mae’r cyrsiau a ddarperir yn cynnwys:
- Cyfryngau Cymdeithasol a Marchnata (PB)
- Rheoli Projectau (PB)
- Rheolaeth Ariannol (PB)
- Marchnata Busnes (PB a GLLM)
- Rheoli / gweithio mewn Timau (PB a GLLM)
- Hyfforddwch yr Hyfforddwr (GLLM)
Roedd y cyrsiau (modiwlau) wedi’u hachredu gan Brifysgol Bangor, yn werth 10 credyd, a naill ai ar Lefel 4 neu 5.
Cyllidwyd 70% o’r rhaglen gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru. Y gost lawn oedd £500.
Cyflwynwyd y cyrsiau gan Brifysgol Bangor ar gampws y brifysgol tan y pandemig Covid-19. Rhwng Ebrill 2020 a Gorffennaf 2021 roedd pob cyswllt yn electronig, a chyflwynwyd y cyrsiau fel sesiynau rhyngweithiol ar-lein.
Canlyniadau
Mae’r targed cyffredinol a’r niferoedd gwirioneddol a adroddwyd yn Adroddiad terfynol Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru ym mis Rhagfyr 2021 yn dangos y cyrhaeddwyd 68.43% o’r targed a osodwyd ar gyfer 2016. Hyfforddwyd 479 o unigolion dros holl gyfnod y project.
Cadarnhaodd yr astudiaeth werthuso y bu effaith gadarnhaol ar fusnesau ac unigolion a gymerodd ran yng nghyrsiau Academi Busnes Gogledd Cymru.
Canfu gwerthusiad o’r project yn 2021 fod busnesau wedi nodi’r effeithiau amrywiol a gafodd yr hyfforddiant ar eu sefydliad, a’r mwyaf cyffredin oedd eu bod yn fwy cydnerth (40%). Awgrymodd busnesau hefyd fod hyfforddiant Academi Busnes Gogledd Cymru wedi eu galluogi i newid y ffordd y mae eu busnes yn gweithredu (37%), wedi arwain at well arweinyddiaeth a rheolaeth (36%), ac wedi caniatáu i’r cwmni ehangu i feysydd gweithgaredd newydd gan arwain at dwf i’r cwmni (35% ). Mae mewnwelediad pellach i lwyddiant Academi Busnes Gogledd Cymru ar gael mewn clip fideo ac ar ffurf ffeithlun. Dyma’r cysylltiadau
Ffeithlun canlyniadau gwerthusiad Academi Busnes Gogledd Cymru
https://sway.office.com/HMWd11kHi3TFsEii?ref=Link
Fideos o daith Academi Busnes Gogledd Cymru yn Gymraeg a Saesneg
Fersiwn Saesneg: https://vimeo.com/674875358/a8f97e63b4
Fersiwn Gymraeg: https://vimeo.com/674875667/5e834b0df1