Pennaeth Gwybodaeth Fusnes Ariannol a Chynlluniau Cyfalaf.
Pryd ddechreuoch chi yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol?
2005.
Pam ddewisoch chi weithio yn y Gwasanaeth Iechyd?
Roeddent yn cynnig cynllun i raddedigion, felly gwnes gais a bû i’n llwyddiannus.
Disgrifiwch yr hyn rydych chi'n ei wneud.
Mae fy rôl yn ymwneud â rheoli cyllidebau Cyfalaf Gwasanaethau Ambiwlans Cymru gan sicrhau gwerth am arian ac anghenion y gwasanaeth. Mae hefyd yn ymgorffori gwybodaeth fusnes a sicrhau gwerth o’r cyllid presennol a phrojectau’r dyfodol.
Beth ydych yn ei fwynhau fwyaf am eich rôl?
Gallu gwneud gwahaniaeth a helpu datblygu asedau sy'n gwella iechyd a lles Cymru.
Beth fyddech chi'n ei ddweud wrth rywun sy'n meddwl am yrfa yn y Gwasanaeth Iechyd?
Ewch amdani, roedd yr hyfforddiant a'r gefnogaeth a gefais dros y blynyddoedd o safon fyd-eang. Y cwestiwn y dylech bendroni yn ei gylch yw, ai gyrfa ynteu swydd yr ydych chi eisiau. Os mai'r ateb yw gyrfa, y Gwasanaeth Iechyd yw'r llwybr i chi.
Sut byddech chi’n disgrifio’r Gwasanaeth Iechyd mewn gair?