Fy ngwlad:
 fideo pwnc cyfrifeg, bancio a chyllid.mp4

Graddau Cyfrifeg, Bancio a Chyllid Israddedig

Mae Cyfrifeg, Bancio a Chyllid ym Mangor yn adnabyddus am ei ymchwil. Cewch brofiad myfyrwyr unigryw yma ym Mangor gyda dewis o gyrsiau sy'n rhoi sgiliau trosglwyddadwy ar gyfer gyrfa lwyddiannus.

Ar y dudalen hon:
Opsiynau o fewn cyfrifeg, bancio a chyllid

Os rydych am wneud cais ar gyfer cwrs yn dechrau ym Medi 2025, cymerwch olwg ar ein tudalen Sut i Wneud Cais.

 

Darganfyddwch y cwrs Cyfrifeg, Bancio a Chyllid i chi

Bancio a Chyllid - BSc (Anrh)
Datblygwch  wybodaeth a sgiliau sy’n cael eu gwerthfawrogi’n fawr gan gyflogwyr yn y sector ariannol, gan ddarparu  sylfaen gadarn ar gyfer eich gyrfa.
Cod UCAS
N391
Cymhwyster
BSc (Anrh)
Hyd
3 Blynedd
Modd Astudio
Llawn Amser, Rhan Amser
Bancio a Chyllid (gyda Blwyddyn Sylfaen) - BSc (Anrh)
Adeiladwch sylfaen i chi eich hun mewn cyllid a lansiwch eich gyrfa bancio. Enillwch wybodaeth hanfodol a pharatoi ar gyfer cymwysterau proffesiynol trwy wneud blwyddyn sylfaen.
Cod UCAS
N39F
Cymhwyster
BSc (Anrh)
Hyd
4 Blynedd
Modd Astudio
Llawn Amser
Bancio gyda Thechnoleg Ariannol - BSc (Anrh)
Cyfunwch feysydd cyllid a thechnoleg. Datblygwch a dadansoddwch gynhyrchion ariannol, llywio'r chwyldro digidol, a lansio gyrfa yn y maes deinamig hwn.
Cod UCAS
N312
Cymhwyster
BSc (Anrh)
Hyd
3 Blynedd
Modd Astudio
Rhan Amser, Llawn Amser
Bancio gyda Thechnoleg Ariannol (gyda blwyddyn sylfaen) - BSc (Anrh)
Datblygwch a dadansoddwch gynhyrchion ariannol, llywio'r chwyldro digidol, a lansio gyrfa yn y maes deinamig hwn.
Cod UCAS
N32F
Cymhwyster
BSc (Anrh)
Hyd
4 Blynedd
Modd Astudio
Llawn Amser
Cyfrifeg a Chyllid - BSc (Anrh)
Dewch i feistroli dadansoddi datganiadau ariannol, rheoli buddsoddiadau, ac asesu risg. Sicrhewch yrfa sy'n rhoi llawer o foddhad mewn sectorau cyllid amrywiol.
Cod UCAS
NN4H
Cymhwyster
BSc (Anrh)
Hyd
3 Blynedd
Modd Astudio
Rhan Amser, Llawn Amser
Cyfrifeg a Chyllid (gyda Blwyddyn Sylfaen) - BSc (Anrh)
Adeiladwch sylfaen i chi eich hun mewn cyllid a lansiwch eich gyrfa. Paratowch ar gyfer cymwysterau proffesiynol trwy wneud blwyddyn sylfaen bwrpasol.
Cod UCAS
NN4F
Cymhwyster
BSc (Anrh)
Hyd
4 Blynedd
Modd Astudio
Rhan Amser, Llawn Amser
Cyfrifeg a Rheolaeth - BSc (Anrh)
Mae'r radd hon, sydd â gogwydd proffesiynol iddi, mewn Cyfrifeg a Rheolaeth yn cyfuno eich diddordebau yn y ddau bwnc. Enillwch set sgiliau unigryw a chael gyrfa lwyddiannus.
Cod UCAS
N4N2
Cymhwyster
BSc (Anrh)
Hyd
3 Blynedd
Modd Astudio
Rhan Amser, Llawn Amser
Dadansoddeg Data Busnes - BSc (Anrh)
Enillwch sgiliau y mae galw amdanynt i ddadansoddi gwybodaeth fusnes. Dewch i gael mewnwelediadau, datrys problemau a gwneud penderfyniadau sy'n seiliedig ar ddata ar gyfer gyrfa lwyddiannus.
Cod UCAS
N313
Cymhwyster
BSc (Anrh)
Hyd
3 Blynedd
Modd Astudio
Rhan Amser, Llawn Amser
Economeg a Chyllid - BSc (Anrh)
Dewch i ddeall y byd cyllid ac economeg. Datblygwch sgiliau meddwl yn feirniadol a pharatowch am yrfaoedd amrywiol sy'n rhoi llawer o foddhad
Cod UCAS
L1N3
Cymhwyster
BSc (Anrh)
Hyd
3 Blynedd
Modd Astudio
Rhan Amser, Llawn Amser
Economeg a Chyllid (gyda Blwyddyn Sylfaen) - BSc (Anrh)
Dewch i ddeall y byd cyllid ac economeg gyda'r cwrs blwyddyn sylfaen hwn. Datblygwch sgiliau meddwl yn feirniadol a pharatowch am yrfaoedd amrywiol sy'n rhoi llawer o foddhad
Cod UCAS
L1NF
Cymhwyster
BSc (Anrh)
Hyd
4 Blynedd
Modd Astudio
Rhan Amser, Llawn Amser
SCROLL
SCROLL
Darlun pensaer o Ysgol Busnes Albert Gubay

Rhodd o £10.5 miliwn i sefydlu ‘Ysgol Fusnes Albert Gubay’ ym Mhrifysgol Bangor

Mae’n bleser gennym gyhoeddi rhodd nodedig o £10.5 miliwn gan Sefydliad Elusennol Albert Gubay i sefydlu Ysgol Fusnes Albert Gubay ym Mhrifysgol Bangor. Bydd y rhodd hon yn golygu y gall Ysgol Busnes y Brifysgol symud i gyfleuster deinamig a modern.

Bydd Ysgol Fusnes newydd Albert Gubay yn meithrin rhaglenni arloesol a fydd yn paratoi myfyrwyr i ffynnu yn yr economi fyd-eang sy'n datblygu'n gyflym. Bydd yn cynnwys mannau dysgu blaengar a hybiau cydweithredol a ddyluniwyd i annog creadigrwydd, meddwl beirniadol ac entrepreneuriaeth.

Pam astudio yn Ysgol Busnes Bangor?

Mae'r byd yn newid mewn ffyrdd na ellir eu rhagweld.

Gall fod yn anodd i bobl ddeall sut i wneud gwahaniaeth gwirioneddol.

Yn Ysgol Busnes Bangor, rydym yn credu gallwch ysgogi newid cadarnhaol ar draws y byd gyda’r addysg a’r sgiliau cywir.

Rydym yn hyderus o hyn, oherwydd mae ein staff ymchwil a'n graddedigion yn gwneud argraff lle bynnag y maent yn mynd.

Cymryd heriau busnes y byd go iawn i’w dwylo eu hunain.

P’un a yw hynny’n defnyddio dadansoddeg data i roi hwb i effeithlonrwydd y stryd fawr yn lleol, datblygu polisïau cynaliadwy cadarn ar gyfer y diwydiant twristiaeth, ymchwilio i'r berthynas rhwng brandiau a sbwriel, er enghraifft, dadansoddi ymddygiad defnyddwyr, a helpu pobl i wneud penderfyniadau sy’n well i’w hiechyd a’r amgylchedd.

Dyma'r lle i wneud gwahaniaeth gwirioneddol, ac mae hefyd yn lle hardd i wneud hynny.

Ysgol Busnes Bangor yw lle mae traddodiad yn cwrdd ag arloesi.

Gyda chyfleusterau o'r radd flaenaf fel ein terfynellau Bloomberg dim ond taith fer o’r Ddarllenfa Shankland.

Nid damwain yw twf a datblygiad yr Ysgol Busnes.

Rydyn ni'n un o'r darparwyr addysgu bancio a chyllid hynaf yn y byd.

Mae ein ffocws ar gyflogadwyedd a sgiliau'r dyfodol yn allweddol.

Rydym yn gweithio amrywiaeth o fusnesau ac elusennau, yn lleol yng Nghymru, ledled y Deyrnas Unedig, ac ar draws y byd.

Gwella ansawdd a chwmpas ein hymchwil, ond hefyd darparu addysg ragorol trwy teithiau maes a dysgu am arbenigedd amrywiol diwydiannau.

Darparu'r sgiliau y mae cyflogwyr eu heisiau mewn gwirionedd.

Mae Ysgol Busnes Bangor yn fwy na lle i astudio, mae'n le i arweinwyr y dyfodol cael eu ffurfio, lle mae arloesedd yn ffynnu, a lle ymdrinnir yn uniongyrchol â heriau byd-eang.

Ni yw'r ysgol sy'n golygu busnes, a hoffem chi ymuno â ni i gyd-lunio’r dyfodol.

Cwrdd â'n Myfyrwyr

Mae Lowri yn astudio Cyfrifeg a Chyllid gyda ni yn yr Ysgol Busnes dyma ei phrofiad hyd at hyn.

0:01 Enw fi ydi Lowri a dwi o Ynys Môn a dwi'n astudio yn Ysgol Busnes Bangor.

0.04 Mae'r profiad wedi bod yn rili da a dwi'n teimlo fel mae'r coleg yn lle rili neis i astudio yma.

0.10 Dwi wedi dysgu sut i wneud lot o statments gwahanol a sut i ddeall yr information i gyd sy'n dod mewn hefo nhw.

0.15 Mae o'n rili neis ac mae'r lle yn gefnogol iawn so mae o'n lle lyfli i ddysgu yma.

0.20 Mae o rili wedi helpu yn barod gyda interviews ar gyfer jobs ar ôl gadel.

0.24 Do mae lecturers a personal tutors fi wedi rhoi gymaint o gymorth i mi yn barod

0.29 yn helpu gydag ar ôl gadel Prifysgol a gwybod lle i fynd ar gyfer gwaith.

A oes gennych unrhyw gwestiynnau am fywyd myfyriwr ym Mangor? Mae ein llysgenhadon yn barod i’ch helpu gael yr ateb.

Gall ein myfyrwyr ddweud mwy wrthoch am y profiad o astudio yma, am y Clybiau a Chymdeithasau gwych sydd yma, a sut bu iddynt hwy wneud ffrindiau ac ymgartrefu yn y Brifysgol fel myfyriwr Cyfrifeg, Bancio a Chyllid. 

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cwrs, mae ein darlithwyr wrth law i helpu. Dyma rai cwestiynau a ofynnir yn aml. Oes gennych chi unrhyw gwestiwn arall i'n darlithwyr? 

  • Pa rinweddau sydd gan fyfyrwyr Cyfrifeg, Bancio a Chyllid llwyddiannus ym Mangor? 
  • Beth allai wneud i baratoi at astudio Cyfrifeg, Bancio a Chyllid ym Mangor? 
  • Sut ydw i yn gwybod mai Cyfrifeg, Bancio a Chyllid ym Mangor yw’r dewis iawn i mi? 

Cyfleusterau Ysgol Busnes Bangor

Uchod mae llawr fasnachu'r Ysgol Fusnes. Ynddi mae gennym derfynellau Bloomberg i fyfyrwyr ddefnyddio.

Graddio'r Gaeaf

Pob blwyddyn rydym yn gweld cannoedd o fyfyrwyr yn graddio o Ysgol Busnes Bangor yn ystod yr haf ar aeaf. Dyma gip olwg o'r seremoni raddio'r gaeaf.

Rydym yn hoffi cadw mewn cysylltiad â’n myfyrwyr ar ôl iddynt raddio felly dewch i ymuno â’n cymuned ar-lein o staff, myfyrwyr a chyn-fyfyrwyr ar LinkedIn Ysgol Busnes Bangor.

Ymunwch â'r gymuned

Delyth Jones-Williams profile picture

Delyth Jones-Williams

Mae astudio ym Mangor wedi golygu fy mod yn gallu datblygu fy ngyrfa yn bellach, heb y radd doedd ddim posibilrwydd i mi ddatblygu fy ngyrfa yn bellach. Rwyf yn hyderus nawr bod yno lawer o gyfleoedd i mi yn y dyfodol. Dros y 3 mlynedd diwethaf dwi wedi cael cyfnodau anodd ond erioed wedi teimlo fy mod ar ben fy hun, mha hynny yn beth braf iawn.

Meysydd pwnc eraill sydd yn berthnasol

Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.

Meysydd pwnc eraill sydd yn berthnasol

Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.