Mae Ysgol Busnes Bangor yn falch o gael ei chydnabod fel 'Canolfan Rhagoriaeth' y Chartered Banker Institute - yn un o ddim ond 8 prifysgol yn y Deyrnas Unedig sydd â'r statws hwn y mae mawr alw amdano.
Mae'r gydnabyddiaeth hon yn galluogi ein myfyrwyr i gyfoethogi eu datblygiad addysgol a phroffesiynol yn sylweddol trwy ennill statws Banciwr Siartredig ynghyd â gradd Meistr draddodiadol.
Bydd graddedigion ein rhaglenni achrededig - a restrir isod - hefyd yn gymwys i wneud cais am aelodaeth lawn neu rannol o'r CBI, ac i ddefnyddio teitl penodedig, tra bod myfyrwyr yn gallu manteisio ar aelodaeth yn ystod eu hastudiaethau.
Mae'r bartneriaeth hon yn tynnu ar enw da hir sefydledig Ysgol Busnes Bangor am ragoriaeth mewn ymchwil ac addysgu ym meysydd bancio a chyllid, ac yn agor llwybrau pellach o gydweithredu a rhyngweithio rhwng y gymuned academaidd a'r diwydiant bancio.
Cyrsiau gydag achrediad CBI
Bydd graddedigion o'r rhaglenni canlynol yn graddio gyda chymhwyster deuol: gradd Meistr Ysgol Busnes Bangor draddodiadol a chymhwyster Banciwr Siartredig.
MSc Bancio (Banciwr Siartredig)
Mae'r cwrs MSc Bancio (Banciwr Siartedig) wedi'i achredu'n llawn gan y Chartered Banker Institute, sy'n golygu bydd myfyrwyr yn graddio gyda chymhwyster deuol MSc Bancio a'r Diploma Banciwr Siartredig - y safon aur i fancwyr proffesiynol a'r dyfarniad uchaf sydd ar gael yn y byd bancio.
MBA Banciwr Siartredig
Ysgol Busnes Bangor yw'r unig sefydliad yn y byd i gynnig yr MBA Banciwr Siartredig, cymhwyster newydd arloesol sy'n rhoi'r cyfle i fyfyrwyr ennill cymhwyster deuol MBA o'r radd flaenaf mewn Bancio a Chyllid a'r statws 'Banciwr Siartredig' y mae galw mawr amdano - y dyfarniad proffesiynol uchaf posibl sydd ar gael i fancwyr ym mhob rhan o'r byd. Mae'r cwrs wedi'i gynllunio ar gyfer gweithwyr proffesiynol prysur ac mae'n rhaglen dysgu cyfunol a ellir ei hastudio lle bynnag y boch ac ar eich cyflymder eich hun.
Ynglŷn â'r Chartered Banker Institute
Sefydlwyd y Chartered Banker Institute yn 1875 ac mae'n cynrychioli bancwyr cymwysedig a'r rheiny sy'n astudio at gymwysterau bancio proffesiynol. Mae'r sefydliad yn ymroddedig i annog y safonau uchaf o ran proffesiynoldeb ac ymddygiad ymysg ei aelodau.