Ymunwch â ni ddydd Mercher 22 Tachwedd, am 12 pm yn MLT, Stryd y Deon am ddarlith arbennig gan Dr Roger Giddings "DSP-based Technologies for Future Communications Networks"
Mae Prosesu Arwyddion Digidol (DSP) yn dechnoleg hollbresennol, ond cudd. Mae’n cynnwys prosesu signalau ffisegol yn y byd go iawn. Caiff y prosesau eu perfformio fel arfer mewn amser real gyda signalau dros dro. Defnyddir DSP yn helaeth yn y byd modern i alluogi llawer o dechnolegau datblygedig yr ydym yn eu cymryd yn ganiataol bellach, megis adnabod lleferydd, realiti estynedig, sganio meddygol/delweddu a systemau radar. Mae DSP hefyd yn un o'r technolegau galluogi allweddol ar gyfer y systemau cyfathrebu sefydlog a diwifr modern. Mae eich ffôn clyfar er enghraifft yn gwbl ddibynnol ar algorithmau DSP cyflym iawn am ei weithrediad eithriadol a'i gysylltedd â’r rhwydwaith.
Mae Canolfan DSP Prifysgol Bangor yn ganolfan ymchwil gwerth miliynau o bunnoedd, a sefydlwyd yn 2019. Ein gweledigaeth yw dod yn arweinydd byd mewn technolegau cyfathrebu digidol DSP i rwydweithiau 5G a 6G yn y dyfodol. Rydym yn dwyn arbenigedd ynghyd mewn rhwydweithiau ffibr optegol, rhwydweithiau diwifr optegol, rhwydweithiau RF/Microdon a DSP, i gynnal ymchwil uwch sy’n seiliedig ar DSP i gyflawni atebion hyblyg a deinamig ar lefelau is-systemau, systemau a rhwydweithiau i gyflawni gofynion esblygol rhwydweithiau’r dyfodol.
Bydd y sgwrs hon yn cynnig disgrifiad cyffredinol o'r Ganolfan DSP, bydd yn bwrw golwg manylach ar beth yn union yw DSP, a bydd yn rhoi trosolwg o'r technolegau amrywiol sy'n seiliedig ar DSP rydym yn ymchwilio iddynt ac yn eu datblygu yn y Ganolfan DSP.
Mae Dr Roger Giddings yn Uwch Ddarlithydd mewn Cyfathrebu Optegol a DSP ym Mhrifysgol Bangor, ac ef yw Dirprwy Gyfarwyddwr Gweithredol y Ganolfan DSP. Mae ei ymchwil yn arbenigo mewn systemau cyfathrebu optegol a alluogir gan DSP i gyflawni rhwydweithiau optegol y gellir eu hailgyflunio'n ddeinamig sy'n cydgyfeirio metro, mynediad a blaen-gludiad symudol 5G/6G di-dor. Mae ganddo arbenigedd yng ngweithrediad algorithmau DSP datblygedig, cylchedau RF/Microdon, systemau mewnblanedig a systemau cyfathrebu optegol mewn amser real. Mae ganddo 17 mlynedd o brofiad o Ymchwil a Datblygu yn y diwydiant telathrebu. Bu'n gweithio i Nokia Networks, Canolfan Ymchwil Nokia a Nokia Ventures yn y Deyrnas Unedig a'r Ffindir. Yn 2007 ymunodd â Phrifysgol Bangor a bu'n arbrofi gyda system drosglwyddo OFDM amser real gynta'r byd. Cyhoeddodd dros 110 o bapurau mewn cyfnodolion golygedig, gan gynnwys papur tiwtorial gwadd yn yr IEEE Journal of Lightwave Technology, a bu’n gweithredu fel Prif Ymchwilydd a Chyd-Ymchwilydd i lawer o brojectau a ariennir gan Undeb Ewrop, y Deyrnas Unedig a Llywodraeth Cymru.