Croeso i’r Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg
Mae yma doreth o gyfleoedd i fyfyrwyr sy’n dymuno dysgu am y datblygiadau diweddaraf mewn cyfrifiadureg a thechnolegau electronig. Mae gennym enw da am ein staff gofalgar sy’n barod i helpu ac sy’n ymgymryd ag ymchwil sy’n arwain y byd.
Rhagoriaeth Ymchwil
Mae ein staff ymysg y rhai sy’n arwain y byd mewn nifer o dechnolegau fel Deallusrwydd Artiffisial, Adnabod Patrymau, Delweddu Data, Electroneg Microdon Meddygol, Efelychiad Meddygol, Optoelectroneg, Cyfathrebu Optegol a Band Llydan, Electroneg Organig, Nano-dechnoleg, Peirianneg Niwclear a mwy. Mae myfyrwyr israddedig yn gweithio ar eu projectau mewn cydweithrediad agos â’r ymchwilwyr hyn, ac mae eu harbenigedd yn bwydo ein rhaglenni israddedig.
Lleoliad gwych i fyw ac astudio
Rydym wedi ein lleoli mewn ardal o brydferthwch naturiol arbennig - rhwng mynyddoedd, llynnoedd a choedwigoedd Eryri ac arfordir Gogledd Cymru. Mae Ynys Môn hefyd ar garreg ein drws ac mae hyn oll yn cynnig yr amgylchedd perffaith i fyw ac astudio ynddo.
Mae ein hadnoddau ymchwil yn cynnwys labordai cyfrifiadurol a rhwydweithio gyda chyfarpar rhagorol, labordy electronig o'r radd flaenaf (mae'n un o'r ychydig yn y DU a gymeradwyir gan y cwmni profi a mesur mwyaf blaenllaw, sef Keysight Technologies), labordai ymchwil helaeth ac ystafell lân electroneg Class 1000.
Dysgu ac Addysgu
Mae ein staff wedi ymrwymo i ddarparu’r profiad dysgu gorau posib i’n myfyrwyr. Mae ein staff cymwysedig, llawer ohonynt yn arwain y byd mewn ymchwil yn eu maes, yn angerddol am rannu eu harbenigedd a’u gwybodaeth am y pwnc.
Mae nifer o’n cyrsiau wedi eu hachredu gan gyrff proffesiynol fel y British Computer Society a’r Institution of Engineering and Technology, sy’n golygu bod y sgiliau a ddysgir yma yn cael eu cydnabod fel y cam cyntaf at gyflawni cymhwyster proffesiynol Peiriannydd Siartredig neu Wyddonydd Siartredig.
Rydym hefyd yn cynnig y cyfle i’n myfyrwyr gymryd blwyddyn o brofiad rhyngwladol a gaiff ei gydnabod yn nheitl eu gradd.
Cyrsiau Ôl-radd ac Ymchwil
Mae gennym raglenni ôl-radd mewn nifer o bynciau, gyda chyrsiau Ôl-radd trwy Ddysgu (MSc ac MRes) a chyrsiau Ymchwil Ôl-radd (MSc trwy Ymchwil, MPhil a PhD) ar gael.
Newyddion a Digwyddiadau
Gweld MwyEin Cyrsiau
MEYSYDD YMCHWIL
Mae ein hymchwilwyr ar flaen y gad o ran datblygiadau technolegol.
CYFLEOEDD I YMUNO Â NI
School of Computer Science and Electronic Engineering, Bangor University, Dean Street, Bangor, LL57 1UT