Chwyldroi Ymchwil mewn i Wenyn: Technoleg Radar Arloesol yn Datgloi Dirgelion Symudiad Gwenyn
Bu Dr Cristiano Palego yn siarad am y gwaith ar ddefnyddio technoleg radar i ddeall symudiad gwenyn mêl. Rhoddodd ei gyflwyniad gipolwg ar yr ymchwil chwyldroadol hwn wrth astudio’r peillwyr hanfodol hyn.
Mewn seminar a wnaeth brocio’r meddwl, esboniodd Chris Palego ei waith ar ddefnyddio technolegau radar, ynghyd â thechnegau Deallusrwydd Artiffisial, i ddeall ac archwilio symudiad gwenyn. Cynhaliwyd ei sgwrs addysgiadol fel rhan o’r gyfres ‘Darlithoedd Ymgysylltu’. Mae'r darlithoedd yn rhoi llwyfan i academyddion, ymchwilwyr a chwmnïau drafod ymchwil ym meysydd cyfrifiadureg, peirianneg, a dylunio. Fe wnaeth ei gyflwyniad ddenu cynulleidfa fywiog ac amrywiol o dros 20 o fyfyrwyr ac aelodau staff a oedd yn awyddus i ymchwilio i fyd swynol gwenyn mêl.
Esboniodd Chris “Ni ellir gorbwysleisio arwyddocâd gwenyn mêl fel peillwyr. Maent yn ganolog i'r diwydiant ffrwythau meddal, i amrywiaeth bwyd ac i sefydlogrwydd ecosystemau. Oherwydd eu bod mor fach ac mor gyflym, mae'n heriol dal eu symudiadau”. Roedd gwaith blaenorol wedi ymchwilio i synwyryddion ffisegol ar y gwenyn mêl. Gellid ystyried y synwyryddion hyn fel bagiau cefn ar gyfer y gwenyn. Ond oherwydd bod gwenyn yn fach, os ydynt am gario unrhyw synwyryddion, yn yr un modd mae angen i unrhyw dechnoleg synhwyro ar eu cefnau fod yn fach iawn er mwyn peidio ag effeithio ar eu symudiad. Aeth ymlaen i ddweud: “i’r perwyl hwn, rydym wedi bod yn ymchwilio i sut y gallwn ddefnyddio’r technegau lleiaf ymwthiol posibl ac algorithmau awtomatig i ddeall symudiad gwenyn mêl yn fwy cynhwysfawr.” Mae eu gwaith yn ymestyn y tu hwnt i wenyn mêl ac yn berthnasol i bryfed, anifeiliaid a hyd yn oed asedau eraill, ond mae effaith sylweddol gwenyn mêl a chacwn ar amaethyddiaeth, y diwydiant cynhyrchu bwyd a chydbwysedd ecolegol yn tanlinellu pwysigrwydd eu hymchwil.
Yn ei gyflwyniad, rhannodd Chris ei dechnegau ymchwil arloesol, sy'n defnyddio radar. Mae eu dull radar newydd yn dileu'r angen am osod tagiau corfforol ymwthiol ar wenyn. Yn ogystal, mae'r dull radar newydd yn osgoi unrhyw anghyfleustra o roi synhwyrydd ar wenynen, ond mae hefyd yn cynnig darlleniad signalau radar Doppler sy'n cael ei yrru gan ddysgu peirianyddol. Esboniodd Chris, “Mae signalau Doppler yn fand cymharol gul ac nid oes angen pŵer prosesu helaeth i ymdrin â nhw, yn wahanol i ddadansoddiadau ffilm fideo o symudiad gwenyn. Ar ôl hyfforddiant fideo cychwynnol, gall y system gyfrif a dosbarthu ymddygiad gwenyn yn annibynnol, gyda’r potensial o sbarduno camau gweithredu gan wenynwyr neu ffermwyr."
Mae’r astudiaeth sy’n mynd rhagddi’n archwilio'r berthynas rhwng darlleniad dysgu peirianyddol a phrosesu signalau radar traddodiadol wrth ddadansoddi ymddygiad gwenyn. Mae'r ymchwil hwn yn ceisio ateb cwestiwn sylfaenol: pa ddull yw’r mwyaf effeithiol? Yn nodedig, mae eu technoleg yn dibynnu ar fodiwlau 5.8 GHz parod a chost effeithiol, pob un yn costio llai na £100. Mae’r gost resymol yn gwneud y dechnoleg yn addas i’w defnyddio mewn ffermydd sy’n defnyddio twneli polythen, yn enwedig ar gyfer peillio tomatos gan ddefnyddio cacwn. Trwy ddefnyddio'r dechnoleg hon i fonitro gwahanol ardaloedd neu ymweliadau â phlanhigion unigol, gall ffermwyr wneud y gorau o effeithlonrwydd peillio, ac o bosibl rhoi hwb i gynnyrch cnydau a chynaliadwyedd.
Mae goblygiadau’r ymchwil hwn i’r diwydiant amaethyddol yn sylweddol. Mae’r gostyngiad yn y niferoedd o beillwyr, yn enwedig gwenyn, yn bryder cynyddol. Mae’r defnydd o ddarlleniad dysgu peirianyddol yn cynnig y potensial i ffermwyr gael gwell dealltwriaeth o ymddygiad gwenyn, gan ganiatáu iddynt felly wneud y gorau o dechnegau peillio. Gallai hyn arwain at arferion ffermio mwy effeithlon a chynaliadwy, gan chwarae rhan ganolog wrth ddiogelu ein cyflenwad bwyd yn y dyfodol. Mae'r ymchwil arloesol yn dyst i arwyddocâd technoleg wrth fynd i'r afael â heriau ecolegol dybryd.
Dywedodd Bethany Johnson, ysgrifennydd cangen myfyrwyr Bangor o’r IEEE (Sefydliad Peirianwyr Trydanol ac Electronig),
“Roedd yn sgwrs hynod ddiddorol. Rhannodd Chris ei wybodaeth efo ni am symudiad gwenyn ond llwyddodd hefyd i wneud y cynnwys technegol yn hawdd ei ddeall”.