Cwrs Dylunio Cynnyrch Prifysgol Bangor yn Rhif 1 trwy’r Deyrnas Unedig
Mae cwrs Dylunio Cynnyrch Prifysgol Bangor wedi cyrraedd y safle uchaf trwy’r Deyrnas Unedig yn ôl Tabl Cynghrair Prifysgolion y Guardian 2024. Mae'r safle clodfawr hwn yn adlewyrchu ymrwymiad y cwrs i ragoriaeth academaidd ac arloesedd, a chefnogaeth eithriadol i fyfyrwyr, gan olygu ei fod yn unigryw o gymharu â sefydliadau eraill yn y Deyrnas Unedig.
Ar y brig trwy’r Deyrnas Unedig
Mae cwrs Dylunio Cynnyrch Prifysgol Bangor yn cael ei gydnabod fel y gorau trwy’r Deyrnas Unedig. Mae'r gydnabyddiaeth honno’n seiliedig ar ymagwedd unigryw'r cwrs sy'n cyfuno addysgu arloesol, dysgu ymarferol, a chymwysiadau yn y byd go iawn.
Canlyniadau Gwych yr Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr
1af am Addysgu ar y Cwrs: Mae rhaglen Dylunio Cynnyrch Bangor yn arwain yn genedlaethol o ran ansawdd addysgu, gan adlewyrchu gallu'r cwrs i ddarparu addysg ddeniadol, glir ac ysgogol yn ddeallusol. Mae safonau addysgu uchel yn sicrhau bod myfyrwyr wedi'u paratoi'n dda ar gyfer heriau'r diwydiant dylunio.
1af am Gyfleoedd Dysgu: Mae bod ar y brig yn amlygu'r cyfleoedd helaeth y mae Prifysgol Bangor yn eu darparu i'w myfyrwyr gymhwyso eu sgiliau'n ymarferol, o weithdai a phrojectau cydweithredol i brofiadau byd go iawn mewn diwydiant. Mae'r cyfleoedd hyn yn hanfodol er mwyn magu hyder a chymhwysedd mewn ymarfer dylunio.
1af am Gefnogaeth Academaidd: Mae ymrwymiad Bangor i gefnogi myfyrwyr yn ddigyffelyb, gydag arweiniad cynhwysfawr gan staff addysgu profiadol, strwythurau cwrs trefnus, ac adnoddau rhwydd cael mynediad atynt. Mae’r lefel hon o gefnogaeth yn sicrhau y gall myfyrwyr ragori’n academaidd a theimlo eu bod yn cael eu cefnogi drwy gydol eu hastudiaethau.
1af am Drefniadaeth a Rheolaeth: Mae rheolaeth effeithiol y cwrs yn ffactor allweddol yn llwyddiant y myfyrwyr, gan gyfrannu at siwrnai addysgol strwythuredig, ddibynadwy a llyfn. Mae'r gydnabyddiaeth hon yn tanlinellu gallu Prifysgol Bangor i gyflwyno amgylchedd dysgu trefnus, gan sicrhau y gall myfyrwyr ganolbwyntio ar eu twf personol a phroffesiynol.
Cyflogadwyedd Eithriadol i Raddedigion: Nodwedd amlwg o gwrs Dylunio Cynnyrch Bangor yw’r lleoliad gwaith sy’n rhan integredig o’r cwrs, sy'n golygu mai hwn yw'r unig gwrs yn y Deyrnas Unedig sy'n cynnig cyfle o’r fath radd. Mae'r lleoliad hwn yn rhoi profiad amhrisiadwy o'r diwydiant i fyfyrwyr, gan eu harfogi â sgiliau ymarferol a chysylltiadau proffesiynol sy'n gwella eu cyflogadwyedd.
Cwricwlwm Arloesol a Chyfleusterau o'r Radd Flaenaf: Mae cwricwlwm Prifysgol Bangor yn cyfuno hyfforddiant technegol ag archwilio creadigol, wedi'i gefnogi gan gyfleusterau datblygedig megis stiwdios dylunio, labordai argraffu 3D, a gweithdai prototeipio. Mae'r adnoddau hyn yn grymuso myfyrwyr i arbrofi ac arloesi, gan sbarduno datrysiadau dylunio sy'n cwrdd â heriau'r byd go iawn.
Ffocws ar Sgiliau ar gyfer y Byd Go Iawn: Mae cysylltiadau cryf y cwrs â diwydiant a darlithoedd gwadd gan weithwyr proffesiynol blaenllaw yn sicrhau bod myfyrwyr yn cael eu hamlygu i'r tueddiadau a'r disgwyliadau diweddaraf o fewn y sector dylunio, gan eu paratoi nid yn unig i ymuno â'r gweithlu ond hefyd i arwain yn eu maes.
“Mae bod yn safle rhif 1 drwy’r Deyrnas Unedig ar gyfer Dylunio Cynnyrch yn tystio i ymroddiad ein staff a gwaith caled ein myfyrwyr. Mae’r canlyniadau’r Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr yn amlygu ein hymrwymiad i ddarparu amgylchedd dysgu deniadol, cefnogol a heriol.” meddai Peredur Williams, Uwch Ddarlithydd Dylunio Cynnyrch, Prifysgol Bangor.
Mae'r llwyddiannau rhyfeddol hyn yn yr Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr yn atgyfnerthu enw da Prifysgol Bangor fel arweinydd ym maes addysg dylunio, ac rydym yn ymdrechu'n barhaus i gynnig dull myfyriwr-ganolog sy'n paratoi graddedigion i lwyddo mewn tirwedd ddylunio sy'n esblygu.