Mae ymchwilwyr yng Nghanolfan Prosesu Signalau Digidol Prifysgol Bangor wedi canfod ffordd gost-effeithiol o wella perfformiad rhwydweithiau sy'n cyflenwi gwasanaethau ffôn symudol a band eang i'n cartrefi a'n busnesau.
Yn ogystal â pherfformio’n well, mae'r dechneg newydd hefyd yn fwy caredig i’r blaned. Oherwydd diffyg cymhlethdod y dechneg, mae angen llai o ynni i drosglwyddo swm penodol o ddata, felly mae llai o gost amgylcheddol.
Wrth wneud hyn, mae’r Ganolfan wedi gosod record byd newydd o ran defnyddio prosesu signalau digidol i drawsnewid systemau trawsyrru optegol cyflym, aflinol, cymhleth yn rhai syml, llinol, cyflym.
Mae canlyniadau’r ymchwil diweddaraf a gynhaliwyd yn y Ganolfan Prosesu Signalau Digidol ym Mangor, Gogledd Cymru, yn dangos bod cynnydd o 10 gwaith yn lled band rhwydweithiau mynediad a osodir yn fasnachol. Gwnaed hyn yn dechnegol bosib dros bellter estynedig o 100 cilomedr trwy drin y ffordd y caiff y data ei brosesu yn y derbynnydd gan ddefnyddio techneg yn seiliedig ar brosesu signal digidol.
Gan ddefnyddio prosesu signalau digidol uwch, rydym yn trin y ffordd y caiff signalau eu prosesu yn y derbynnydd i wneud iawn am yr effeithiau sydd fel arfer yn cyfyngu ar led band a phellter trosglwyddo. Gellid defnyddio'r dull hwn i uwchraddio rhwydweithiau presennol heb fod angen gwneud newidiadau sylweddol i'r rhwydweithiau hyn.
“Mae'r dull hwn hefyd yn caniatáu defnyddio atebion rhatach a phŵer isel mewn rhwydweithiau newydd, sy'n gallu bodloni’r gofynion technegol digynsail sy'n gysylltiedig â 5G a thu hwnt i hynny.
“Rydym ni nawr yn ystyried sut y gellid cyfuno’r dull hwn ymhellach â thechnegau blaengar eraill y Ganolfan Prosesu Signalau Digidol i roi gwell diogelwch i rwydweithiau trwy ganfod newidiadau anawdurdodedig i’r rhwydwaith, a mynediad heb awdurdod i’r data, sydd o’r pwys mwyaf y dyddiau hyn.
Mae Canolfan Canolfan Prosesu Signalau Digidol Prifysgol Bangor wedi sicrhau £3.9miliwn gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru. Yn ogystal â’r nawdd yma, mae’r ganolfan wedi sicrhau £3 miliwn mewn cyllid yn ddiweddar gan Gynllun Twf Gogledd Cymru fel un o’r projectau o fewn y Cynllun Digidol. Gan weithio law yn llaw â Uchelgais Gogledd Cymru bydd y buddsoddiad yn cael ei ddefnyddio i fuddsoddi mewn offer arloesol,i ehangu’r cyfleuster ymchwil a chreu hyd at 40 o swyddi newydd.
Dyma’r unig safle ymchwil yn y DU sy’n ymroddedig i fynd i’r afael â phrosesu signalau digidol ar gyfer technoleg 5G a thu hwnt. Mae’r Ganolfan yn gweithio ochr yn ochr â chwmnïau rhyngwladol amlwg fel Vodafone, Orange, BT, Fujitsu a Ciena, yn ogystal â busnesau bach a chanolig Cymru/DU i ddatblygu technoleg a fydd chwyldroi technoleg digidol ar gyfer defnyddwyr a busnesau.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â dsp-centre@bangor.ac.uk