Dathlu llwyddiant ein graddedigion
Dathlu llwyddiant gwerth tair blynedd o raddedigion. Ar 8 Gorffennaf 2022, cynhaliodd yr Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg Electronig seremoni raddio i fyfyrwyr o dair carfan: 2020, 2021 a 2022. Gwahoddwyd myfyrwyr a raddiodd yn ystod y pandemig yn ôl i seremoni raddio yn y cnawd.
Dywedodd Dr Iestyn Pierce (Pennaeth yr Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg Electronig) “Roedd yn bleser cynnal ein seremoni raddio yn 2022. Er bod pob seremoni raddio yn arbennig, roedd y seremoni hon yn un arbennig iawn, oherwydd bod gwerth tair blynedd o fyfyrwyr yn graddio. Yn ystod y flynyddoedd diwethaf, ac yn ystod y pandemig Covid, bûm yn cynnal dathliadau graddio rhithiol i’r ysgol. Gohiriodd y brifysgol y seremonïau ffurfiol tan eleni. Roedd yn bleser gweld y myfyrwyr yn y cnawd, a dathlu efo nhw, eu rhieni a’u ffrindiau. Ar ôl y seremoni ffurfiol, gwnaethom gynnal derbyniad i dros 400 o bobl i ddosbarthu gwobrau. Rydym yn llongyfarch ein holl fyfyrwyr ar eu llwyddiant ac yn dymuno'n dda iddyn nhw at y dyfodol. Bydd yn wych cadw mewn cysylltiad, a chlywed beth maen nhw'n ei wneud, a sut maen nhw'n dod ymlaen â'u gyrfaoedd.”
Academyddion a myfyrwyr yn seremoni raddio 2022
Dyfarnodd yr ysgol 21 o wobrau i fyfyrwyr a raddiodd yn 2022, ynghyd â chydnabod yn ffurfiol y gwobrau a roddwyd yn y blynyddoedd blaenorol. Meddai’r Athro Jonathan Roberts, sy’n cadeirio’r pwyllgor gwobrau a chydnabyddiaeth, “Rydym yn hynod o falch o'n holl fyfyrwyr. Ond mae rhai o'n myfyrwyr wedi mynd yr ail filltir. Rydym yn cydnabod eu llwyddiant drwy ddyfarnu gwobrau. Cafodd bob un o’r enillwyr dlws ar ffurf pwysau papur gwydr i ddathlu eu llwyddiant. Anrhydeddodd yr ysgol hefyd y diweddar Joe Marshall, a oedd yn fyfyriwr Cyfrifiadureg rhwng 2018 a 2020, trwy gyflwyno gwobr 'Caredigrwydd a Chymuned' er cof amdano. Rydym yn llongyfarch pob un o’n myfyrwyr ar eu llwyddiant, ac yn enwedig felly y myfyrwyr y dyfarnwyd gwobrau iddynt.”
Rhoddwyd y gwobrau i'r enillwyr canlynol:
• Dyfarnwyd Gwobr J.H. Gee, am berfformiad rhagorol mewn mathemateg cysylltiedig â chyfrifiadura i Catty Langford.
• Dyfarnwyd Gwobr W.E. Williams, i'r myfyriwr gorau yn yr ail flwyddyn ar gwrs BSc neu BEng, i Jake Lowe.
• Dyfarnwyd Gwobr R.H.C. Newton, i’r myfyriwr gorau yn yr ail flwyddyn ym maes mathemateg mewn peirianneg i Sean Price.
• Dyfarnwyd Gwobr Goffa Paul Green, i'r myfyriwr israddedig mwyaf teilwng yn eu project blwyddyn olaf, i Adam Brotzman.
• Dyfarnwyd Gwobr R.A. Jones, am hyfedredd mewn mathemateg gysylltiedig â pheirianneg i Thomas Hughes.
• Dyfarnwyd Gwobr Dr David Owen (ffiseg), am berfformiad rhagorol mewn ffiseg ar gwrs peirianneg i Michael Giombetti.
• Dyfarnwyd Gwobr Ada Lovelace, i’r fyfyrwraig fwyaf teilwng mewn peirianneg, i Zhijin Lyu.
• Dyfarnwyd Gwobr Ada Lovelace, i’r fyfyrwraig fwyaf teilwng ar gwrs cyfrifiadura, i Stephanie Evans.
• Sabrina Zulkifli enillodd wobr flwyddyn Sefydliad Peirianneg a Thechnoleg a ddyfernir i’r myfyriwr gorau yn y flwyddyn olaf ar gwrs wedi ei achredu gan y sefydliad.
• Enillodd Charles Jones (BSc, Cyfrifiadureg) Wobr Graffeg Gyfrifiadurol Jan Abas, am arddangos y defnydd a'r ddealltwriaeth orau o graffeg gyfrifiadurol neu dechnolegau cysylltiedig ym mlwyddyn olaf eu cwrs.
• Dyfernir Gwobr Dr Jane Rudall am Gyflawniad a Chynnydd bob blwyddyn i fyfyriwr sydd wedi gwneud cyflawniadau sylweddol a dangos cryn benderfyniad ac ymdrech wrth astudio. Eleni rhoddwyd gwobr Jane Rudall ar y cyd i Kamila Klepalova a Ross Barnes.
• Dyfanrwyd Gwobr Goffa'r Athro David Last, i’r myfyriwr sydd wedi dangos y gwelliant mwyaf yn yr ysgol, i Annabelle Idu.
• Dyfarnwyd y wobr i'r myfyriwr mwyaf teilwng ar gwrs cyfrifiadurol i Marius Evans.
• Dyfarnwyd y wobr am deilyngdod mewn prentisiaethau gradd i Spencer Kenny.
• Dyfarnwyd y Wobr Caredigrwydd a Chymuned i Jasmine Parkes. Dyfernir y wobr hon i fyfyriwr yn yr Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg Electronig sydd wedi mynd yr ail filltir i ddangos caredigrwydd i eraill ac i feithrin cymuned. Rhoddir y wobr er cof am Joe Marshall a oedd yn fyfyriwr cyfrifiadureg rhwng 2018 a 2020.
• Dyfarnwyd y Wobr Prentisiaeth Gradd ar y cyd i Alecsander Anglesea ac Alex Jones.
• BSc Dylunio Cynnyrch – Dyfarnwyd y marc academaidd uchaf i Andreas Koukouris
• Dyfarnwyd Gwobr Lloyd Jones am Entrepreneuriaeth (i fyfyrwraig sy’n hanu o Gymru) i Elinor Jones.
• Dyfarnwyd Gwobr Lloyd Jones am Entrepreneuriaeth (i fyfyriwr sy’n hanu o Gymru) i Ben Lewis.
Cafodd dau fyfyriwr hefyd eu cydnabod gan y brifysgol am eu cyflawniadau rhagorol.
Dyfarnodd Bwyllgor Gwobrau a Dyfarniadau'r Senedd Wobr Dr John Robert Jones i Marius Evans ac i Daniel Evans. Dyfernir y gwobrau gan Bwyllgor Gwobrau a Dyfarniadau'r Senedd a sefydlwyd y wobr trwy gymynrodd i'r brifysgol yn ewyllys y diweddar Dr John Robert Jones o Hong Kong, a chaiff ei dyfarnu yn flynyddol i fyfyriwr neu fyfyrwyr y bernir bod eu perfformiad academaidd yn arbennig o ragorol y flwyddyn honno.
Yn ystod seremoni raddio hefyd, dyfarnodd y brifysgol gymrodoriaeth addysgu prifysgol i Dr Daniel Roberts, darlithydd Peirianneg Electronig yn yr ysgol, gan gydnabod ei ragoriaeth ym maes addysgu, estyn allan i’r gymuned a chefnogi myfyrwyr.
Dathlu gyda'n graddedigion, eu teuluoedd, a’u ffrindiau
Golygydd: J. C. Roberts