Fy ngwlad:
Celebrating the success of our student, at our prize award celebratory lunch

Dathlu llwyddiant ein myfyrwyr - Gwobrau Myfyrwyr / Graddio 2023

Gyda thywydd ffafriol a chyffro llawen, dathlodd myfyrwyr, staff a rhieni gyda'i gilydd yn seremoni raddio 2023 Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg Electronig a gynhaliwyd ar 12 Gorffennaf 2023. 

Rydym yn llongyfarch ein holl fyfyrwyr, a’u llwyddiannau, ond mae rhai unigolion yr ydym yn eu llongyfarch yn arbennig. Fe wnaethom gyflwyno graddau i'r myfyrwyr yn seremoni raddio 2023. 

Bob blwyddyn mae'r ysgol yn dyfarnu gwobrau i fyfyrwyr sydd wedi llwyddo ac wedi cyflawni rhywbeth sylweddol. Cyn seremoni raddio ffurfiol 2023, a gynhaliwyd ar 12 Gorffennaf, cynhaliodd yr ysgol ginio dathlu a chyflwyno gwobrau i lawer o fyfyrwyr.

Rydym yn ymfalchïo yn ein holl fyfyrwyr, ond mae rhai unigolion sydd wedi rhagori ar ein disgwyliadau. Derbyniodd pob un o enillwyr y gwobrau dlws pwysau papur gwydr, a thystysgrif i goffau eu llwyddiannau rhyfeddol.

Yr Athro Jonathan C. Roberts,  Dywedodd yr Athro Jonathan Roberts, sy’n cadeirio’r pwyllgor gwobrau a chydnabyddiaeth

Estynnwn longyfarchiadau gwresog i’r derbynwyr hyn, yn ogystal ag i bob myfyriwr a raddiodd eleni. 

Dyfarnwyd gwobrau i’r myfyrwyr canlynol o’r flwyddyn gyntaf a’r ail flwyddyn: 

  • Dyfarnwyd Gwobr R A Jones, am hyfedredd mewn Mathemateg Gysylltiedig â Pheirianneg i Mr Pranav Sabuji sy'n astudio ar gyfer ei BEng mewn Peirianneg Electronig.  

  • Dyfarnwyd Gwobr J H Gee, am berfformiad rhagorol mewn mathemateg cysylltiedig â chyfrifiadura i Mr Lloyd Donovan sy'n astudio ar y rhaglen MComp. 

  • Dyfarnwyd gwobr W. E. Williams, am y myfyriwr ail flwyddyn gorau ar gwrs BSc neu BEng i Mr Adam Parry sy'n astudio ar gyfer ei BEng mewn Peirianneg Electronig. 

  • Dyfarnwyd gwobr R H C Newton, am y myfyriwr ail flwyddyn gorau ym maes mathemateg ar gyfer peirianneg, i Mr Thomas Hughes sy'n astudio ar gyfer ei BEng mewn Peirianneg Electronig. 

  • Dyfarnwyd gwobr Dr David Owen (ffiseg), am berfformiad rhagorol mewn ffiseg yn eu cwrs peirianneg i Mr Thomas Hughes sy'n astudio ar gyfer ei BEng mewn Peirianneg Electronig. 

Rhoddwyd gwobrau i'r myfyrwyr canlynol a oedd yn graddio: 

  • Dyfarnwyd gwobr Goffa Paul Green, i’r myfyriwr israddedig mwyaf teilwng ar eu project blwyddyn olaf, Mr Michael Giombetti, a astudiodd ar y rhaglen BEng mewn Peirianneg Electronig.  

  • Dyfarnwyd gwobr Ada Lovelace, i’r ferch fwyaf teilwng mewn peirianneg, i Miss Noof M S M S Alraqwah sydd newydd gwblhau ei BEng mewn Peirianneg Electronig. 

  • Dyfarnwyd gwobr Ada Lovelace, i’r ferch fwyaf teilwng mewn cwrs Cyfrifiadura, i Miss Sophie Jolley sydd newydd gwblhau ei BSc mewn Cyfrifiadureg. 

  • Mr Sean Price enillodd wobr y Sefydliad Peirianneg a Thechnoleg a ddyfernir i’r myfyriwr gorau yn y flwyddyn olaf ar gwrs wedi'i achredu gan y Sefydliad. Mae yntau’n graddio o’r rhaglen BEng mewn Peirianneg Electronig. 

  • Enillodd Mrs Rhiannon Owen (sy’n graddio o’r rhaglen BSc Technolegau Creadigol) Wobr Graffeg Gyfrifiadurol Jan Abas, am arddangos y defnydd a'r ddealltwriaeth orau o graffeg gyfrifiadurol neu dechnolegau cysylltiedig ym mlwyddyn olaf eu cwrs. 

  • Dyfernir Gwobr Dr Jane Rudall am Gyflawniad a Chynnydd bob blwyddyn i fyfyriwr sydd wedi gwneud cyflawniadau sylweddol a dangos cryn benderfyniad ac ymdrech wrth astudio. Eleni rhoddwyd gwobr Jane Rudall i Mr Andy Ryland, sydd newydd gwblhau BSc mewn Systemau Gwybodaeth Cyfrifiadurol. 

  • Rhoddir gwobr Goffa’r Athro David Last i fyfyriwr sydd wedi gwneud gwelliannau eithriadol yn eu hastudiaethau yn yr ysgol ac a ddyfernir eleni i Mr Maximillian Clarke, sydd newydd gwblhau ei BSc mewn Cyfrifiadureg gyda Dylunio Gemau.

  • Dyfarnwyd gwobr Cymdeithas Gyfrifiadurol Prydain, am berfformiad rhagorol ar Gwrs Cyfrifiadura, ar y cyd i Mr Jarod Hartley (BSc Cyfrifiadureg) a Mr Ollie Hensman-Crook (BSc Cyfrifiadureg). 

  • Dyfarnwyd y Wobr Caredigrwydd a Chymunedol i Miss Gawina Fernandes (MEng Peirianneg Systemau Cyfrifiadurol). Dyfernir y  wobr hon i fyfyriwr yn yr Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg Electronig sydd wedi mynd yr ail filltir i ddangos caredigrwydd i eraill ac i feithrin cymuned. Rhoddir y wobr er cof am Joe Marshall a oedd yn fyfyriwr cyfrifiadureg rhwng 2018 a 2020.  

  • Dyfarnwyd y wobr am deilyngdod mewn prentisiaethau gradd ar y cyd i Miss Katee Houston (BSc Seiberddiogelwch Cymhwysol) a Miss Eva Voma (BEng Systemau Peirianneg Fecanyddol Gymhwysol)

  • BSc Dylunio Cynnyrch – Dyfarnwyd y marc Academaidd Uchaf i Mr Daniel Lambert (BSc Dylunio Cynnyrch). 

  • Cyflwynwyd Gwobr Lloyd Jones am Entrepreneuriaeth (merch sy’n hanu o Gymru) i Miss Lois Williams (BSc Dylunio Cynnyrch). 

  • Cyflwynwyd Gwobr Lloyd Jones am Entrepreneuriaeth (dyn sy’n hanu o Gymru) i Mr Daniel Roberts (BSc Dylunio Cynnyrch). 

Cafodd dau fyfyriwr hefyd eu cydnabod gan y brifysgol am eu llwyddiannau rhagorol. 

Dyfarnodd Pwyllgor Gwobrau a Dyfarniadau’r Senedd y Brifysgol Wobr Dr John Robert Jones i Mr Sean Price (a gwblhaodd ei BEng mewn Peirianneg Electronig) ac i Mr Daniel Lambert (a gwblhaodd ei BSc mewn Dylunio Cynnyrch). Dyfernir y gwobrau gan Bwyllgor Gwobrau a Dyfarniadau'r Senedd a sefydlwyd y wobr trwy gymynrodd i'r brifysgol yn ewyllys y diweddar Dr John Robert Jones o Hong Kong, a chaiff ei dyfarnu yn flynyddol i fyfyriwr neu fyfyrwyr y bernir bod eu perfformiad academaidd yn arbennig o ragorol y flwyddyn honno.