Mae'r gynhadledd Image-Based Simulation for Industry (IBSim-4i) yn ddigwyddiad a gynhelir dros 5 diwrnod unwaith y flwyddyn. Cynhaliwyd y gynhadledd eleni yn yr Institute of Physics (IoP) rhwng 17 a 21 Hydref 2022.
Meddai Dr Franck Vidal (Uwch Ddarlithydd Cyfrifiadureg yn yr Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg Electronig) a arweiniodd y tiwtorial:
Mae tomograffeg gyfrifiadurol pelydr-x (XCT) yn dechneg NDT (profion annistrywiol) boblogaidd i ddelweddu tu mewn i wrthrychau solet. Mae'n defnyddio’r un dechneg â sganwyr CAT mewn ysbytai). Er bod delweddu 3D yn cael ei ddefnyddio fwyfwy yn y sector diwydiannol mewn arolygon, profion / gwerthusiadau annistrywiol (NDT / NDE) a mesureg, mae efelychu ar sail delwedd (yn gyffredinol) yn dal i gael ei danddefnyddio. Mae llawer o gyfleoedd i’w ddefnyddio. Arweiniais ar ddatblygiad llyfrgell gVirtualXray <https://gvirtualxray.sourceforge.io/> - i roi'r gallu i ymchwilwyr greu eu hefelychiadau pelydr-x eu hunain.
Meddai Franck
Gan ei fod yn god agored, mae ar gael i unrhyw un ei ddefnyddio. Mae wedi cael ei ddefnyddio gan ymchwilwyr ledled y byd. Gan bobl feddygol, i greu systemau realiti rhithwir at ddiben hyfforddiant, ac mae ffisegwyr meddygol wedi dylunio technegau delweddu diagnostig newydd, mae pobl wedi eu defnyddio i greu systemau deallusrwydd artiffisial sy'n canfod hyd creision mewn bagiau, hyd yn oed i ddysgu ffiseg gronynnau. Ymhlith llawer o enghreifftiau eraill.
Diwrnodau gwahanol y gweithdy IBSim-4i
Roedd dau ddiwrnod cyntaf IBSim-4i yn cyfateb i hyfforddiant defnyddwyr o'r technegau amrywiol sydd eu hangen i efelychu delweddau. Arweiniodd Dr Vidal dîm o ymchwilwyr o Brifysgol Bangor a Phrifysgol Abertawe i ddysgu grŵp o 25 o ymchwilwyr rhyngwladol sut i efelychu pelydrau-x. Bwriad yr hyfforddiant yn benodol oedd dysgu cyfranogwyr i greu arbrofion tomograffeg gyfrifiadurol pelydr-x rhithwir (XCT). Mae'r data a gynhyrchir yn cynnwys llawer o radiograffau pelydr-X o amgylch y gwrthrych a sganiwyd.
Ar yr ail ddiwrnod, dysgodd dîm o'rScience and Technology Facilities Council (STFC, asiantaeth llywodraeth y Deyrnas Unedig sy’n cynnal ymchwil ym maes gwyddoniaeth a pheirianneg) y cyfranogwyr sut i ail-greu cyfrolau XCT o’r setiau o radiograffau gyda’r Core Imaging Library (CIL).
Cyflwynodd Iwan Mitchell (myfyriwr PhD ym Mhrifysgol Bangor) yr adnodd WebCT. Mae WebCT yn gymhwysiad sy'n defnyddio fframwaith gVirtualXray a'r Core Imaging Library (CIL). Cyllidir Iwan gan raglen ddoethurol Artificial Intelligence Machine Learning and Advanced Computing (AIMLAC). Meddai Iwan
Mae WebCT yn caniatáu i bobl uwchlwytho modelau CAD, gosod paramedrau arbrofol eu sganwyr pelydr-X rhithwir, efelychu’r radiograffau cyfatebol, ac ail-greu cyfaint y tomograffeg gyfrifiadurol. A’r cyfan heb deipio un llinell o god!
Fel cyd-gadeirydd pwyllgor gwyddonol IBSim a chydlynydd hyfforddiant defnyddwyr, roedd yn bleser gweld y sesiynau hyfforddi’n llawn. Fel datblygwr y llyfrgell gVirtualXray, roedd yn anrhydedd i mi roi'r tiwtorial. Mae'n bleser gweld sut mae pobl yn bwriadu ei ddefnyddio yn eu hymchwil eu hunain. Rwy'n edrych ymlaen at weld sut bydd pobl yn ei ddefnyddio yn y dyfodol. Gall cymryd sawl awr i sganio gwrthrych trwchus. Mae dod o hyd i'r paramedrau sganio cywir trwy gynnig a methu yn cymryd llawer o amser yn yr achos hwn. Mae’r cyfuniad o gVirtualXray a CIL yn ei gwneud hi’n bosib amcangyfrif y paramedrau sganio pwysicaf cyn dechrau ar y gwaith.