Myfyriwr PhD Deallusrwydd Artiffisial yn ennill y cyflwyniad poster gorau yng nghynhadledd Dimensional X-Ray Computed Tomography
Cynhaliwyd cynhadledd flynyddol Dimensional X-Ray Computed Tomography (dXCT) rhwng 13-16 Mehefin 2022. Cyflwynodd ymchwilwyr o’r Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg Electronig eu canlyniadau gan ennill y wobr am y cyflwyniad “poster gorau”..
Cydlynir y gynhadledd dXCT gan Labordy Ffisegol Cenedlaethol y Deyrnas Unedig a’i bwriad yw dod ag ymchwilwyr ynghyd i drafod y datblygiadau diweddaraf ym maes mesuriad dimensiynol tomograffeg gyfrifiadurol pelydr-X (XCT) a sut y gellir cymhwyso hynny mewn diwydiant.
Rhoddodd Mr Iwan T Mitchell (myfyriwr PhD) a'i oruchwyliwr, Dr Franck P Vidal (Uwch Ddarlithydd mewn Cyfrifiadureg) ddau gyflwyniad. Yn gyntaf, cyflwyniad llafar ar ficrotomograffeg (microCT) arbrofol ac efelychiadau tra chywir, o'r enw “Towards quantitative imaging in the case of strong artefacts” , sef cydweithrediad rhwng Prifysgol Bangor ac INSA-Lyon (Ffrainc).
Yn ail, fe wnaethant gyflwyno papur ymchwil o'r enw “WebCT: Fully Featured Browser-Based Interactive X-Ray Simulations for Scan Planning and Training” , a roddwyd fel cyflwyniad poster, ac fe enillon nhw’r wobr am y “Cyflwyniad Poster Gorau”. Noddwyd y wobr gan Waygate Technologies. Cydweithrediad yw’r gwaith hwn rhwng prifysgolion Bangor ac Abertawe. Roedd y poster printiedig yn cynnwys cod QR a oedd yn galluogi arddangosiad Realiti Estynedig o'r meddalwedd efelychu XCT.
Dywedodd Iwan
Dywedodd Iwan (sy’n cael cefnogaeth gan Ganolfan Hyfforddiant Doethurol Deallusrwydd Artiffisial, Dysgu Peirianyddol ac Uwch-gyfrifiadura (AIMLAC)), “Roedd yn gyffrous bod yn y gynhadledd eleni! Yn gweld sut mae modd cymhwyso XCT o safbwynt mesureg, a sut y gellir graddnodi pob cam o'r broses i gael canlyniadau cywir. Dros y pedwar diwrnod fe ges idrafodaethau i fy ysbrydoli, ochr yn ochr â sgyrsiau diddorol am bwysigrwydd XCT o ansawdd uchel i lawer o feysydd. Cefais sioc braidd o gael fy enwebu am y poster gorau, oherwydd cefais gymaint o hwyl yn siarad â phobl o'r un anian am fy ymchwil!"
Dywedodd Dr Vidal “Wnaethoch chi fethu’r gynhadledd? Gallwch sganio'r cod QR isod gyda’ch ffôn clyfar i weld yr arddangosiad!”
Ychwanegodd “Mae bob amser yn bleser mynychu cynadleddau yn y maes hwn a gweld sut mae delweddu pelydr-X yn cael ei ddefnyddio mewn metroleg (gwyddor mesuriadau). Roedd y sgyrsiau gwyddonol yn hynod ddiddorol. Rwy’n hoffi gweld bod cynnydd yn y defnydd a wneir o efelychiadau cyfrifiannol, sy’n rhywbeth y mae gennyf ddiddordeb arbennig ynddo. Yr hyn a wnaeth i'r gynhadledd sefyll allan yw perthnasedd yr hyfforddiant 2 ddiwrnod, a bod llond y neuadd arddangos o brif gynhyrchwyr a dosbarthwyr XCT. Does dim angen dweud fy mod i, fel goruchwyliwr ar ben fy nigon pan gafodd Iwan y wobr am ei gyfraniad i’r ymchwil. Da iawn Iwan.”