Yr Athro William Heath fydd pennaeth newydd yr Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg ym Mhrifysgol Bangor o ddydd Llun 10 Mehefin. Mae'n dod o Brifysgol Manceinion, lle mae wedi bod yn gadeirydd adborth a rheolaeth ers chwe blynedd. Bu’n bennaeth yr Adran Peirianneg Drydanol ac Electronig rhwng 2019 a 2022.
Daw’r Athro Heath â chyfoeth o arbenigedd i’w swydd newydd, gyda chefndir fel peiriannydd rheoli yn canolbwyntio ar ddadansoddi, dylunio a gweithredu systemau rheoli adborth. Mae ganddo hanes amlwg o wneud ymchwil sy'n canolbwyntio ar ddamcaniaeth rheoli adborth a'i chymwysiadau. Mae ei gyfraniadau wedi gwella dealltwriaeth ddamcaniaethol a hefyd wedi dod o hyd i gymwysiadau ymarferol i ddiwydiannau amrywiol gan gynnwys lleoli nano, rheoli peiriannau, rheoli prosesau a roboteg. Ef yw cadeirydd-etholedig yr United Kingdom Automatic Control Council.
Wrth siarad am ei benodiad, meddai’r Athro Heath, “Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at ymuno â Phrifysgol Bangor. Mae cymaint o bobl dalentog yma a chymaint o gyfleoedd yn y rhanbarth. Rwy’n edrych ymlaen at weithio â’m cydweithwyr newydd yn yr ysgol ac yn y brifysgol yn ehangach.”
Yn ogystal â gweithio ym Manceinion am ran helaeth o'i yrfa academaidd, mae wedi treulio amser fel ymchwilydd ym Mhrifysgol Newcastle yn New South Wales, Awstralia.
Ychwanegodd y Dirprwy Is-ganghellor Dros Dro a Phennaeth y Coleg Gwyddoniaeth a Pheirianneg, Morag McDonald, “Rydym yn falch iawn o groesawu Will fel pennaeth newydd yr ysgol. Heb os, bydd ei gefndir a’i arbenigedd yn cyfoethogi ein cymuned academaidd ac yn hwb mawr i’n hymrwymiad i ragoriaeth mewn ymchwil ac addysg.”