Mae Prifysgol Bangor wedi ymuno â’r Sefydliad Peirianneg a Thechnoleg (IET) fel trefnydd swyddogol ar gyfer eu Hwythnos Tŷ Agored Peirianneg eleni.
Bydd y digwyddiad rhad ac am ddim ar ddydd Mercher, 14 Mehefin rhwng 4.30-6.00pm gan yr Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg Electronig yn cael ei gynnal yn Stryd y Deon, Bangor yn cynnwys llu o weithgareddau hwyliog i ysbrydoli plant 5-13 oed a’u rhieni am Wyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg (STEM).
Yn ystod y digwyddiad, bydd rhai sy’n mynychu yn cael y cyfle i:
- Adeiladu fflachlampau eu hunain a dysgu am God Morse
- Gymryd rhan mewn teithiau o’r labordy newydd a chael tro ar arddangosfeydd rhyngweithiol yn y Sefydliad Dyfodol Niwclear
- Gweld arddangosiad o sut mae’n bosib defnyddio golau drwy gebl i anfon a derbyn darnau pwysig o wybodaeth yn ein Canolfan Prosesu Signalau Digidol
- Brwydro fel timau torri cod i ddatrys nifer o gliwiau ac agor blwch cyn timau eraill, neu cyn i amser ddod i ben!.
Gallwch gofrestru ar gyfer y digwyddiad rhad ac am ddim yma
Mae’r Wythnos Tŷ Agored Peirianneg yn un o nifer o fentrau sy’n rhan o ymgyrch ‘Byd Gwell Trwy Beirianneg’ yr IET, sy’n annog plant i ddarganfod pa mor gyffrous yw byd Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg (STEM) a chael gwybod am yr amrywiaeth enfawr o weithgareddau creadigol a gyrfaoedd diddorol mewn peirianneg fodern.
Nod yr IET yw helpu pobl ifanc 5-13 oed a’u gofalwyr a’u hathrawon i ddeall sut beth yw gweithio fel peiriannydd neu dechnolegydd trwy weithio gydag ystod eang o sefydliadau ledled y DU, sy’n agor eu drysau i gynnal arddangosfeydd rhyngweithiol, digwyddiadau, sgyrsiau a gweithdai sy'n annog plant i feddwl yn wahanol am beirianneg a thechnoleg.
Gyda sefydliadau ledled y DU yn rhoi mynediad unigryw y tu ôl i'r llenni, gall plant weld drostynt eu hunain sut mae peirianneg a thechnoleg yn cael eu cymhwyso mewn amrywiaeth o swyddi ar draws gwahanol sectorau a chael eu hysbrydoli am ehangder gyrfaoedd creadigol ac arloesol yn y maes.
Dywedodd Dr Daniel Roberts, arweinydd ymgysylltu a darlithydd mewn Peirianneg Electronig ym Mhrifysgol Bangor,
“Pwrpas y digwyddiad yma yw tanio’r diddordeb cychwynnol hwnnw mewn peirianneg drwy gynnig cyfle i blant a’u rhieni gael golwg y tu ôl i’r llenni yn y brifysgol a chymryd rhan mewn gweithgareddau hwyliog a fydd yn dangos yr ystod o yrfaoedd posibl mewn peirianneg fodern. Dewch draw i ddarganfod mwy!”
Dywedodd Rebecca Gillick, Rheolwr Cyfathrebu Allanol yr IET:
“O’r gerddoriaeth rydych chi’n gwrando arni a’r ffôn yn eich llaw, i’r dŵr glân rydych chi’n ei yfed a’r datblygiadau arloesol sy’n helpu i adfer ein cefnforoedd, mae peirianneg a thechnoleg wrth wraidd popeth.
“P'un a yw pobl ifanc yn hoff o chwaraeon, cerddoriaeth, ffasiwn, hedfan, gofal iechyd, neu wella ein hinsawdd, rydym am iddynt wybod bod lle iddynt mewn peirianneg a thechnoleg ac mae Wythnos Tŷ Agored Peirianneg yn dangos i bobl ifanc pa mor amrywiol ac anhygoel mae byd STEM mewn gwirionedd.”
Gallwch ddarganfod mwy am Wythnos Tŷ Agored Peirianneg eleni a’r gwahanol ddigwyddiadau sydd ar gael yma.