Fy ngwlad:
Annual dinner and talk, 2023 CSEE, Paul Kinlan (Google) speaking

Rhowch o yn Google. Sgwrs a chinio blynyddol ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg Electronig Bangor yn anelu at y dyfodol

Cynhaliodd yr Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg Electronig ei darlith a’i chinio blynyddol ar 15 Mawrth 2023. Paul Kinlan (Google) oedd siaradwr eleni, gyda’i sgwrs “Aiming for the Future”.  

 

Darlith a Chinio Blynyddol 2023

Cynhaliodd Yr Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg Electronig ei darlith a’i chinio blynyddol ar 15 Mawrth 2023. Paul Kinlan, sy’n gweithio i Google, oedd siaradwr eleni. Paul yw arweinydd tîm Cyd-berthnasau Datblygwyr Chrome Google. Mae wedi adeiladu ei yrfa mewn tri maes sy’n gorgyffwrdd: y we, ecosystem datblygwyr ac adeiladu timau effeithiol. Mae wedi canolbwyntio ar ddatblygu atebion sy'n gwthio eithaf yr hyn sy'n bosibl gyda'r we. Teitl ei sgwrs oedd “Aiming for the Future”. Yn ei sgwrs amlygodd nifer o ddatblygiadau arwyddocaol mewn cyfrifiadureg, gan edrych ar y gorffennol a’r dyfodol.  

“Dechreuodd y noson gyda phaned a chacen. Roedd yn wych dal i fyny gyda myfyrwyr blaenorol, cyn-fyfyrwyr, a chwmnïau lleol.” 
Yr Athro Jonathan C. Roberts (Cyfarwyddwr Effaith ac Ennyn Diddordeb Myfyrwyr) 

Roedd y neuadd dan ei sang ar gyfer y sgwrs, ac roedd yna gyffro gwirioneddol. Ni siomodd Paul! Dechreuodd drwy siarad am y cyfrifiaduron cynnar fel y Peiriant Gwahaniaeth a thrafod y datblygiadau diweddaraf mewn deallusrwydd artiffisial

Yr Athro Jonathan C. Roberts,  Cyfarwyddwr Effaith ac Ennyn Diddordeb Myfyrwyr

Terfynwyd yr anerchiad blynyddol gyda gair o ddiolch i Paul gan Mr David Crawford, Cadeirydd Gogledd Cymru y Sefydliad Peirianneg a Thechnoleg. 

Y cinio blynyddol a’r sgyrsiau dilynol

Wedi’r anerchiad, cynhaliwyd y cinio blynyddol. Croesawyd pawb yn wresog gan yr Is-ganghellor (Yr Athro Edmund Burke). Dywedodd Dr Dave Perkins “Roedd yn bleser croesawu cyn-fyfyrwyr, ymwelwyr, ffrindiau, a chwmnïau lleol.” 

Cawsom dipyn o gyffro ar ddechrau’r cinio, wrth i’r larwm tân seinio. Hwyrach y bu i'r tîm arlwyo losgi'r cinio, oedd y jôc, wrth i ni i gyd sefyll y tu allan yn y tywyllwch. Ond ni losgwyd y pryd. Roedd yn rhagorol. Da iawn, dîm arlwyo!

Dr Dave Perkins,  Cyfarwyddwr Addysgu a Dysgu

Yn yr ysgol, ac ar y noson, cefais sawl sgwrs am atebion deallusrwydd artiffisial, fel ChatGPT, Bard AI, ac offer gwe eraill. A da oedd clywed sgwrs Paul – a'i farn am ddeallusrwydd artiffisial. Roedd yn ysbrydoledig iawn. Roedd yn anrhydedd i ni hefyd groesawu’r Is-ganghellor yr Athro Edmund Burke,  y Canghellor: yr Athro Syr Robin Williams, y Dirprwy i’r Is-ganghellor: yr Athro Oliver Turnbull, y Dirprwy Is-ganghellor (Ymchwil): Yr Athro Paul Spencer, y Dirprwy Is-ganghellor (Ymgysylltu Byd-eang): Yr Athro Paul van Gardingen FRSA, a’r Prif Swyddog Pobl: Mrs Tracy Hibbert.

Dr Dave Perkins,  Cyfarwyddwr Addysgu a Dysgu

Sgyrsiau ar ôl cinio

Ar ôl y pryd bwyd, cafwyd tair sgwrs fer: Siaradodd y Dr Franck Vidal (Cyfarwyddwr Ymchwil dros dro yr ysgol) am lwyddiant ymchwil yn y Sefydliad Dyfodol Niwclear, Canolfan Ragoriaeth Prosesu Arwyddion Digidol (DSP) a chyfrifiadureg, gan sôn yn benodol am y ganolfan ddoethurol Deallusrwydd Artiffisial, Dysgu Peirianyddol a Chyfrifiadura Uwch (AIMLAC). Siaradodd yr Athro Jonathan Roberts (Cyfarwyddwr Effaith ac Ymgysylltu) am lwyddiannau mewn effaith, cysylltiadau a chydweithrediadau ymchwil ar draws y byd, newyddion gan ein partner IET, partneru gyda'r Academi Beirianneg Frenhinol, yr ymgyrchThisIsEngineering, Technocamps, ymweliadau ysgol, a gwobrau i’r papur gorau. Daeth y noson i ben gyda Dr Dave Perkins (Cyfarwyddwr Dysgu ac Addysgu) yn siarad am ddatblygiadau mewn addysgu, yn enwedig y rhaglen BSc Peirianneg newydd, yr MSc Cefnfor Digidol, a chyfrifiadura ar gyfer Gwyddor yr Hinsawdd. 

 

Llun: J. C. Roberts