Mae'r prototeip a ddatblygwyd gan Real Ice, ac a ffurfiwyd gan dîm o raddedigion a myfyrwyr presennol ym Mhrifysgol Bangor, yn cael ei anfon allan i'w brofi yn eangderau rhewllyd Gogledd Canada.
Mae'r project wedi dal sylw Rhaglen Ddatblygu'r Cenhedloedd Unedig, ac mae'r seren Hollywood, Jessica Alba, ymysg y rhai sydd wedi cael eu ffilmio ar gyfer fideo a noddwyd gan y cewri gwneud ceir, Hyundai, fel rhan o'r fenter 'for tomorrow'.
Disgwylir iddo gael ei ddarlledu ar draws yr holl brif lwyfannau cyfryngau cymdeithasol i gynulleidfa fyd-eang mis yma.
fideo 'for tomorrow' video sy'n rhoi sylw i Real Ice
Bedyddiwyd gwneuthurwr iâ tîm Bangor yn Real Ice Re-Icing Machine, a bydd yn pwmpio dŵr i fyny o dan y cap iâ i'r wyneb lle mae tymheredd mor isel â -50C yn ei rewi'n gyflym, gan greu haenau newydd o iâ'r môr sydd ei angen ar fywyd gwyllt a phobl y rhanbarth i oroesi.
Y cynllun yw i bobl frodorol yr Inuit fod yn berchen ar y peiriannau, eu cynnal a'u symud i ardaloedd newydd yn rheolaidd, gan ennill credydau carbon y gellir eu gwerthu i gwmnïau i wneud iawn am eu defnydd o danwydd ffosil.
Rheolwr Gyfarwyddwr Real Ice yw Cian Sherwin o Ddulyn, sydd yn arwain tîm sy'n cynnwys graddedigion a myfyrwyr o UDA, Ffrainc a'r Ffindir.
Graddiodd Cian mewn Sŵoleg gyda diddordeb arbennig mewn nadroedd, sydd wedi ei ddiddori ers pan oedd yn fachgen ifanc, ond sy'n amlwg yn absennol o Begwn y Gogledd.
Meddai: “Roeddwn i wrth fy modd gyda nadroedd, ac rydw i wedi cadw ymlusgiaid ers pan oeddwn i’n blentyn. Dyna pam y des i i Fangor chwe blynedd yn ôl, oherwydd ei bod yn un o’r unig brifysgolion yn Ewrop i wneud cwrs sŵoleg gyda herpetoleg - sef astudio ymlusgiaid ac amffibiaid.
“Ond ers graddio, mae gen i ddiddordeb cynyddol yn y project hwn i adfer iâ'r môr sy'n toddi mor gyflym fel ei fod yn bygwth achosi problemau difrifol i ni i gyd yn y dyfodol.
“Rydyn ni wedi datblygu peiriant gwneud iâ wedi'i bweru gan y gwynt, sy'n hawdd ei symud, a'r cynllun fyddai i bobl leol yr Inuit gael eu cyflogi yn y project hwn.
“Mae sylfeini eu cymunedau yn llythrennol yn toddi oddi tanynt, ac mae colli eu ffordd o fyw yn achosi problemau cymdeithasol gan gynnwys colli diwylliant a bywoliaeth a phobl ifanc yn ymfudo i ddod o hyd i waith.
“Un o’r prif gyfranwyr yn y cynnydd yn nhymheredd y môr, sy’n achosi i’r rhew pegynol doddi, yw bod rhew teneuach yn arwain at amsugno mwy o wres yr haul yn hytrach na’i adlewyrchu yn ôl allan, sy’n cyflymu’r dadmer.
“Gelwir adlewyrched yr iâ yn effaith Albedo, a thrwy gynyddu'r adlewyrchiad hwn, gallwn leihau faint o wres sy'n cael ei amsugno gan y môr a rhew yn toddi.
“Bydd y môr sydd â rhew ac eira yn ei orchuddio yn adlewyrchu 90 y cant o’r pelydrau solar o’r haul, gyda dim ond chwech y cant yn cael eu hadlewyrchu heb unrhyw orchudd eira na rhew.
“Os gallwn ni dewhau'r rhew, yna bydd y gwres hwnnw'n cael ei adlewyrchu eto, ac yn helpu i atal colli'r iâ môr pegynol.”
Gwaith Nick Penny, myfyriwr a raddiodd mewn Peirianneg ym Mangor, yw'r peiriant gwneud iâ yn bennaf, sydd wedi gwneud llawer o'i ymchwil yn Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg Electronig y Brifysgol, mewn cydweithrediad â myfyrwyr peirianneg sy'n ymgymryd â'u projectau tîm.
Mae'r prototeip diweddaraf yn fodel ar raddfa fach o beiriant a ddyluniwyd i fod yn bum metr o uchder wedi'i bweru gan dyrbin gwynt â diamedr deg metr, â dril canolog wedi’i osod i durio trwy'r rhew i gyrraedd dŵr y môr islaw.
Mae ei faint cymharol fach a phwysau isel yn golygu y gall pobl leol eu cludo i safleoedd newydd yn hawdd gyda'u sgidŵs modur.
Bydd yn cael ei dreialu yn y ‘Canadian High Arctic Research Station’ yn Cambridge Bay rhwng Tachwedd a Mawrth y flwyddyn nesaf, yn ystod gaeaf pan all y tymheredd, sy’n -25C ar hyn o bryd, blymio o dan -50C, a lle gall oerfel gwynt wneud iddo ymddangos yn debycach i -70C .
Mae Cian a'r tîm craidd o saith wedi bod yn datblygu'r project gyda chymorth tîm ymgynghorol, gan gynnwys arbenigwyr o Academi Fusnes Gogledd Cymru, ac maen nhw'n buddsoddi eu hamser ar y project yn y gobaith y bydd yn talu ar ei ganfed yn y dyfodol.
Maen nhw hefyd yn gobeithio y bydd yn talu ar ei ganfed i'r Inuit, a dywedodd Cian: “Rydyn ni eisiau cydweithredu â'r Inuit i fyny yno oherwydd mae angen i ni ddeall beth maen nhw ei eisiau o hyn, a'r hyn nad ydyn nhw ei eisiau.
“Maen nhw'n colli eu bywoliaeth a'u diwylliant a'u ffordd draddodiadol o fyw - mae eu tai yn disgyn i lawr yn llythrennol, felly mae yna lawer yn y fantol iddyn nhw.
“Maen nhw'n profi problemau cymdeithasol, gan gynnwys pobl ifanc yn symud allan i ddod o hyd i waith, felly os allwn ni ddarparu gwaith ac incwm ychwanegol, mae hynny'n bositif. Ar yr un pryd, mae anifeiliaid fel eirth gwyn yn colli eu cynefin, ac mae hynny'n cael effaith ar eu dosbarthiad a'u poblogaeth.”
Bydd y ffilm sy'n cynnwys project Real Ice, yn cael ei darlledu ar wefannau YouTube, Instagram, Facebook a Twitter ar gyfer ‘Hyundai Motor Company’, ‘for Tomorrow’ ac ‘UNDP’ mis yma.
Nod y fenter ‘for Tomorrow’, gyda chefnogaeth labordai cyflymu UNDP, yw cysylltu arloeswyr cynaliadwy, fel Real Ice, ledled y byd i ddathlu cynlluniau arloesol ar lawr gwlad, a helpu i gyflawni nodau datblygu cynaliadwy 2030.