Roedd Rhodri Wyn Williams o Gaerwen, Ynys Môn yn taro mewn i M-SParc am goffi pan ddysgodd am eu Gradd-Brentisiaeth a phenderfynu bod hyn yn union beth oedd angen arno.
Roedd hyn dair blynedd yn ôl. Heddiw, mae Rhodri’n graddio efo gradd BSc Mewn Seibrddiogelwch Cymhwysol ac ar fin cychwyn mewn swydd gyda Vigo IT Solutions cwmni sydd wedi ei leoli yn M-SParc, lle mae Rhodri wedi bod yn cwblhau rhan o’i lleoliad Gradd-Brentisiaeth.
Ag yntau’n gyn disgybl o Ysgol Gyfun Llangefni ac Ysgol David Hughes, lle eisteddodd ei Lefel A, doedd Rhodri ddim wedi bwriadu mynd i Brifysgol yn llawn-amser, ond pan glywodd am y Radd-Brentisiaeth, a’r cyfle i weithio yn M-SParc wrth astudio am radd, sylweddolodd mai hyn oedd yr union beth yr oedd angen arno.
Byddai Rhodri’n hapus i annog unrhyw un sy’n ansicr am p’un ai gweithio’n llawn amser neu astudio fyddai orau, i ystyried Gradd-Brentisiaeth.
Meddai, “Rwy’n falch iawn gallu dweud wrth bobl fy mod i wedi graddio o Brifysgol Bangor, a hefyd yn falch iawn o’r cyfle i weithio ac astudio ar yr un pryd a medru gwneud hyn mor agos at adref.”
Roedd hefyd yn cael y gwaith coleg a gwaith dyddiol yn integreiddio’n ddigon hawdd, ac roedd yn medru defnyddio elfennau o’r hyn yr oedd wedi dysgu yn ei waith pob dydd.
Yn ystod ei brentisiaeth yn M-SParc roedd ganddo ystod o gyfrifoldebau a phrofiadau gan gynnwys dysgu pobol sut i ddefnyddio offer yn y gweithle, addysgu disgyblion Ysgol David Hughes am dechnoleg, gweithio gyda thîm Ar-y-Lôn M-SParc- gan fod yn gyfrifol am ambell leoliad a chyfrannu at brojectau mewnol.
Er ei fod wedi datblygu nifer o sgiliau, dywedodd Rhodri ond nad oedd ei brofiad yn waith i gyd. Cafodd cyfle i ymuno â bywyd myfyrwyr gan ymuno â chlybiau PhotoSOC a Sub Aqua yn ei ddwy flynedd gyntaf a bod yn Drysorydd i’w Clwb Sub Aqua.
Ar raddio, mae’n annog eraill i fynd amdani, “Mae fy mhrofiad ym Mhrifysgol Bangor wedi bod yn un gwerthfawr, rwyf wedi creu ffrindiau oes, dysgu sgiliau gwerthfawr, a chael creu cysylltiadau a fydd yn werthfawr i mi
Meddai Dr Iestyn Pierce, Pennaeth yr Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg
"Mae prentisiaeth gradd yn gyfle gwych i gyfuno gwaith academaidd â phrofiad ymarferol. Mae prentisiaethau gradd yn caniatáu i fyfyrwyr ddatblygu eu gwybodaeth a'u sgiliau yn y gweithle, gan ddarparu profiad cynhwysfawr sy'n pontio dysgu academaidd a chymhwyso ymarferol. Mae Prifysgol Bangor yn falch o fod yn bartner gyda cholegau addysg bellach lleol i sicrhau profiad cyflawn sy'n trosoli cryfderau'r byd academaidd a'r byd go iawn."
Meddai Pryderi ap Rhisiart, Rheolwr Gyfarwyddwr M-SParc, “Mae’n wych gweld y ffordd y mae Rhodri wedi datblygu dros y tair blynedd diwethaf. Nid yn unig y bu iddo ddatblygu sgiliau technegol ac academaidd ond mae’n graddio ac yn camu i fyd gwaith rŵan gyda sgiliau meddal fel cyfathrebu, gwaith tîm a datrys problemau a fydd yn werthfawr iddo drwy gydol ei yrfa.”
“Bu i Rhodri gyfrannu at bob agwedd o waith a bywyd yn M-SParc a bu colled fawr ar ei ôl. Yn fwy na dim mae’n meddu ar agwedd bositif lle nad oes unrhyw dasg yn ormod - meddylfryd gwlad y medra go iawn a dwi’n dymuno’n gora iddo.”
Yn ôl Tom Burke, Rheolwr Entrepreneuriaeth Ddigidol M-SParc, “Mae wedi bod yn bleser pur gweithio gyda Rhodri a gweld ei hyder a’i sgiliau’n blodeuo dros y blynyddoedd diwethaf. Mae Rhodri wedi ymroddi ar draws sawl maes yn ystod ei Radd- Brentisiaeth ac wedi profi ei fod yn fwy na galluog i wynebu unrhyw her. Mae’r cynllun Gradd-Brentisiaeth yn ffordd wych i rywun fel Rhodri ddysgu yn y swydd, mae’n sefyllfa lle mae pawb ar eu hennill – cael gradd, ennill profiad byd go iawn, o bosibl cwrdd â’ch darpar gyflogwr ac ennill arian ar yr un pryd! Gobeithio y bydd Rhodri’n cymryd y profiad hwn ac yn gwneud gyrfa wych iddo’i hun, rwy’n siŵr y bydd!”
Rhodri oedd deiliad gyntaf Arloeswr Ifanc y Flwyddyn M-SParc yn eu Cynhadledd Arloesi eleni.