Ysgol yn croesawu myfyrwyr newydd
Croesawodd yr Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg Electronig fyfyrwyr newydd a chroesawodd fyfyrwyr presennol yn ôl. Rhwng 20 a 23 Medi 2022, cynhaliwyd nifer o ddigwyddiadau cynefino i’r myfyrwyr. Cafwyd sgyrsiau a thrafodaethau ar gynnwys cyrsiau, sgyrsiau ar iechyd a diogelwch, a chyflwynwyd gwybodaeth am sut i ddefnyddio adnoddau addysgu’r Brifysgol megis Blackboard. Croesawyd myfyrwyr i'r adeilad, gan staff ac arweinwyr cyfoed a oedd yn dychwelyd, gyda gwên, sgyrsiau gwresog, ac amrywiaeth o snaciau.
Catty Langford yn croesawu'r disgyblion newydd i'r ysgol
Dywedodd Dr Dave Perkins Cyfarwyddwr Addysgu a Dysgu’r ysgol) “Roeddwn yn gyffrous i groesawu'r myfyrwyr newydd. Roedd yn wych cyfarfod â’r myfyrwyr yn bersonol a’u croesawu i Fangor. Mae myfyrwyr wedi dod atom o bob rhan o’r byd, ac mae wedi bod yn hyfryd clywed eu straeon am sut y daethant i Fangor.” Cyflwynwyd y myfyrwyr i staff yr ysgol gan gynnwys Dr Panos Ritsos, sy'n Gyfarwyddwr Ennyn Diddordeb Myfyrwyr, a Dr Mohammed Madbrook, sef yr Uwch Diwtor. Aeth Dr Perkins ymlaen i ddweud “Rydym yn byw mewn cyfnod cyffrous sy’n newid, mae cyfrifiaduron yn mynd yn gyflymach, mae dyfeisiau electronig yn mynd yn llai, ac mae ein holl systemau’n mynd yn fwy clyfar. Pob pwnc rydyn ni'n ei ddysgu ar y cwrs. Mae’r myfyrwyr newydd hyn ar ddechrau eu taith, ac rydym yn gyffrous i fod yn eu haddysgu.”
Dr Dave Perkins (Cyfarwyddwr Addysgu a Dysgu) a Dr Iestyn Pierce (Pennaeth Ysgol) yn cyfarch myfyrwyr newydd
Dywedodd Pramod Paul Kusuma (sydd newydd ddechrau astudio ar gyfer ei radd meistr mewn Gwyddor Data Uwch) “Mae’n fraint ac rydw i’n falch fy mod i wedi cael dechrau fy astudiaethau yma ym Mangor. Rydw i wedi dod yn bell i fod yma, ac mae pobl wedi bod mor gyfeillgar, caredig, a chymwynasgar, ac mi wnaeth hyn fy helpu i ymgartrefu yma'n hawdd. Mae fy athrawon i’n ardderchog, ac rydw i’n gyffrous am y dyfodol sydd o ‘mlaen i.”
Dr Panos Ritsos (Arweinydd cyswllt staff/myfyrwyr) a Dr Mohammed Madbrook (Uwch Diwtor) yn croesawu'r myfyrwyr newydd
Bu llawer o arweinwyr cyfoed o'r ysgol yn helpu yn y digwyddiadau cynefino. Dywedodd Lewis Dixon (sy’n astudio ar gyfer ei radd meistr trwy ymchwil mewn cyfrifiadureg) “fel arweinydd cyfoed mae’n wych helpu’r holl fyfyrwyr newydd i ymgartrefu, yn enwedig ar ôl y blynyddoedd o ansicrwydd oherwydd Covid. Mae pawb yn gyffrous i ddechrau eu cwrs. Rydw i wedi siarad ag ychydig o lasfyfyrwyr sy’n edrych ymlaen yn fawr at y flwyddyn, yn ogystal ag ymuno â chlybiau a chymdeithasau.”
Dywedodd Emmanual Souza (sydd wedi dechrau ei astudiaethau ar y BSc mewn Systemau Gwybodaeth Gyfrifiadurol ar gyfer Busnes) “Mae bod yn fyfyriwr newydd ym Mangor yn gyffrous. Roeddwn i wedi cyffroi yn ffair y glas, yn enwedig o weld yr holl gymdeithasau. Rydw i nawr yn bendant yn gyffrous i ddechrau fy nghwrs.”
Golygwyd gan Jonathan C. Roberts, Llun gan Yvonne Scutt-Jones (top a gwaelod), a Gawina Fernandes (canol)