Ysgol yn cynnal digwyddiad EXPO i fyfyrwyr trydedd flwyddyn
Cynhaliodd yr Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg Electronig eu digwyddiad EXPO blynyddol ar 23 Mawrth 2022. Yn y digwyddiad, cyflwynodd myfyrwyr eu project unigol fel posteri.
Cynhaliodd yr Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg Electronig eu digwyddiad EXPO blynyddol ar 23 Mawrth 2022. Yn y digwyddiad, cyflwynodd myfyrwyr eu project unigol fel posteri. Cynhaliwyd y digwyddiad ar draws tair ystafell, ac mewn dau grŵp, yn ystod dau amser gwahanol o'r dydd. Mae'r digwyddiad posteri yn dathlu'r gwaith caled y mae'r myfyrwyr yn ei roi yn eu project trydedd flwyddyn.
Myfyrwyr yn cyflwyno eu posteri yn nigwyddiad EXPO 2022
Dywedodd Dr Iestyn Pierce (Pennaeth yr Ysgol) “Rwyf bob amser yn edrych ymlaen at ein digwyddiad EXPO blynyddol. Braf yw gweld gwaith y myfyrwyr a chlywed am eu llwyddiannau. Fel blynyddoedd blaenorol, fe wnaethom wahodd nifer o gwmnïau i ddod i'r digwyddiad a siarad â'r myfyrwyr. Gwnaeth yr hyn a welsant argraff fawr arnynt. Braf oedd gweld y myfyrwyr a chynrychiolwyr cwmnïau yn mwynhau’r digwyddiad ac roedd bwrlwm gwirioneddol yn yr aer. Tra bo’r EXPO yn dathlu gwaith caled pob myfyriwr, roedd yn bleser gennym gyflwyno sawl gwobr yn y digwyddiad hwn.”
Yn y digwyddiad, rhoddodd yr ysgol bedair gwobr:
Bu i Stephanie Evans, dan oruchwyliaeth yr Athro Jonathan Roberts, gyflwyno ei gwaith ar “Generative Art for Well-Being” ac enillodd y Poster gorau yn y ddisgyblaeth Cyfrifiadureg.
Bu i Adam Brotzman, dan oruchwyliaeth Dr. Roger Giddings, gyflwyno ei boster ar “Self-powered visible light communications (VLC) receive for indoor IoT Sensor Uplinks”, gan dderbyn y wobr am y poster gorau yn y ddisgyblaeth Peirianneg Electronig.
Fe wnaeth Daniel W. Evans, dan oruchwyliaeth Dr. Bill Teahan, gyflwyno poster ar “Designing and Evaluating a Compression-based tool for the automatic detection of dialects and code-switching in Welsh text”, gan gipio’r wobr am y poster mwyaf deniadol.
Fe wnaeth Jasmine Parkes dan oruchwyliaeth Dr. Dave Perkins, gyflwyno’i gwaith o'r enw “A multi-sensory LoRaWAN Control System for Maintaining the Optimum Microclimatic Conditions of a Tomato Plant”, gan dderbyn canmoliaeth uchel.
Enillwyr gwobrau yn derbyn eu gwobrau. O’r chwith i’r dde: Stephane Evans, Adam Brotzman, Daniel Evans, Jasmine Parkes.
Dywedodd Stephane Evans “Roedd yn ddigwyddiad gwych. Roeddwn yn hapus i gyflwyno fy ngwaith ac wrth fy modd i mi dderbyn un o'r gwobrau. Ar ôl cael llawer o ddarlithoedd o bell, roeddwn i’n falch bod y digwyddiad wedi digwydd wyneb yn wyneb, ac roedd gen i ddiddordeb mewn gweld beth roedd fy ffrindiau wedi'i gynhyrchu yn eu project nhw”.
Ychwanegodd Adam Brotzman, sy’n astudio ar y rhaglen pedair blynedd MENG Peirianneg Electronig, “Fe wnes i fwynhau’r diwrnod. Roeddwn i wrth fy modd yn gweld y gorgyffwrdd rhwng brwdfrydedd a hyfedredd fy nghyfoedion. Roeddwn i’n arbennig o awyddus i weld amrywiaeth holl bynciau’r project gan fyfyrwyr cyfrifiadureg ac electroneg.”
Dywedodd Daniel Evans “Fe wnes i fwynhau cymryd rhan yn yr EXPO. Rhoddodd gyfle i mi arddangos fy ngwaith i’m cyd-fyfyrwyr, darlithwyr, ac i ddarpar gyflogwyr. Fe wnaeth cymryd rhan yn yr EXPO roi teimlad diwedd cyfnod i mi, lle’r oeddwn i a’m cyfoedion yn gallu dod at ein gilydd i ddangos canlyniadau ein holl waith caled. Roedd yn brofiad anhygoel y byddaf bob amser yn ei drysori.”
Ychwanegodd Jasmine Parkes, sy’n astudio ar y radd BENG Peirianneg Electronig, "Mi wnes i fwynhau'r EXPO yn fawr. Roedd yn gyfle gwych i rwydweithio gyda recriwtwyr ac i archwilio projectau myfyrwyr eraill. Roedd yn brofiad yn hynod werth chweil. Roedd yn ddiddorol clywed safbwynt y cyhoedd a'r recriwtiwr o'm gwaith. Rhoddodd y diwrnod ymdeimlad dwfn o gymuned i mi ymhlith fy nghyfoedion a’m hatgoffa ein bod ni i gyd yn yr un cwch.”
Golygydd: Yr Athro J.C. Roberts