Mae ymchwil ym maes EEBG yn canolbwyntio ar ddatblygu ffynonellau ynni carbon isel newydd (solar, morol a niwclear) a synhwyro effeithiau biolegol ac amgylcheddol. Mae'r grŵp yn datblygu rhwydweithiau synhwyrydd diwifr Internet of Things (IoT) ar gyfer problemau gwaith go iawn fel monitro effeithiau newid yn yr hinsawdd. Mae Bangor wedi ennill nifer o grantiau mawr, gan gynnwys rhai trwy'r Comisiwn Ewropeaidd (e.e. project SUMCASTEC a ariennir gan H2020 (www.sumcastec.eu)), Llywodraeth Cymru (e.e. SPARC II) a llywodraeth y DU (e.e. hyfforddiant doethurol EPSRC mewn dyfodol ynni niwclear). Mae'r grŵp yn gweithio'n agos gyda'r Ysgol Gwyddorau Amgylcheddol a Naturiol ym Mhrifysgol Bangor ac mae myfyrwyr yn aml yn gweithio ar weithgareddau a themâu ymchwil rhyngddisgyblaethol. Mae cydweithwyr ymchwil yn y DU yn cynnwys Prifysgol Caergrawnt, Imperial College London, Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Abertawe a Phrifysgol Manceinion. Mae gan y grŵp gysylltiadau rhyngwladol hefyd yn UDA, Israel, Sbaen, yr Almaen, Ffrainc, Brasil, Tsieina a Phortiwgal. Mae nifer o'n myfyrwyr hefyd wedi cymryd rhan mewn cyfnewidiadau ymchwil â'r Massachusetts Institute of Technology. Mae'r uned Ynni, Amgylchedd a Bio-synhwyro yn cynnwys pedwar labordy ac un sefydliad: y labordai solar, morol, biosynhwyro amgylcheddol, a Sefydliad y Dyfodol Niwclear.
Solar
Tra bo cenedlaethau newydd o dechnolegau ffotofoltaidd yn cynnig addewid o gynhyrchu ynni is a’r posibilrwydd o'u cynnwys mewn cymwysiadau integredig er mwyn cywain ynni megis gwefru ffôn, mae sefydlogrwydd yn parhau i fod yn allweddol bwysig fel eu bod yn gallu goroesi yn yr awyr agored am fwy na 20 mlynedd heb unrhyw waith cynnal a chadw cyn gellir eu masnacheiddio. Mae Prifysgol Bangor yn defnyddio technegau dadansoddi materol i astudio achosion methiant a phrofi cyflymedig i ragfynegi sefydlogrwydd yn y dyfodol. I ymgymryd a’r fath waith, mae gan Brifysgol Bangor uned o gyfarpar profi a meddalwedd dibynadwyedd pwrpasol i astudio dibynadwyedd a pherfformiad celloedd solar.
Mae Prifysgol Bangor yn aelod o gonsortiwm SPARC II, project gwerth £7m a gyllidir gan Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru i ddatblygu themâu newydd ym maes ymchwil ynni solar/ffotofoltaidd. Mae Prifysgol Bangor hefyd yn gweithio gyda diwydiant yn y Deyrnas Unedig, yn arbennig ym maes celloedd ffotofoltaidd crynodedig. Defnyddir cyllid gan UKRI i astudio sut gellir defnyddio optegau crynodwr mawr i ganolbwyntio golau hyd at 1000 gwaith ar gell solar lled-ddargludyddion bach (llai nag 1 cm² yn nodweddiadol).
Morol
Mae'r ysgol yn gweithio'n agos gydag Ysgol Gwyddorau'r Eigion i ddatblygu ffynonellau ynni llanw a thonnau. Mae'r ymchwil yn cynnig gwybodaeth am y lleoliadau gorau ar gyfer cynhyrchu ynni'r môr, mae hefyd yn rhoi dealltwriaeth fanwl i ddatblygwyr o dechnolegau cynhyrchu ynni a'u perfformiad, effeithiau posib newid lefel y môr ar generaduron, a'r effaith y bydd cynlluniau arfaethedig yn ei gael ar amgylcheddau'r môr o'u cwmpas, megis gwely'r môr, anifeiliaid morol a chleientiaid.
Biosynhwyro
Mae'r ysgol yn datblygu technolegau labordy-ar-sglodyn ar gyfer diagnosteg a thrin celloedd biolegol. Yn nodedig, mae dull ein grwpiau yn mynd ar drywydd integreiddio technolegau microelectroneg amledd uchel (Bi-CMOS), microhylifeg a thechnolegau microddelweddu ar un sglodyn (Ffig. X). Mae hyn yn cael ei gymhwyso i ddidoli a niwtraleiddio bôn-gelloedd canser. Disgwylir i hyn alluogi integreiddio'r dechnoleg i mewnchwilyddion electrolawfeddygol ar gyfer canser a meddygaeth adfywiol mewn cydweithrediad ag arweinydd diwydiant ym maes technoleg llawfeddygaeth endosgopi fel Creo Medical Ltd. (http://investors.creomedical.com).
Modiwl integreiddio microelectroneg/microhylifeg labordy-ar-sglodyn ar synhwyro ac amlygiad celloedd biolegol ar lwyfan BiCMOS.
Synhwyro amgylcheddol
Mae'r adran yn datblygu synwyryddion amser real pwrpasol i fonitro lefelau llygredd, amodau amgylcheddol a phroseswyr gweithgynhyrchu. Er enghraifft, mae ein grŵp wedi cyflwyno'r ddyfais olrhain radio hunangynhaliol gyntaf yn y byd (Ffig. X) y gellir ei chysylltu â gwenyn (http://www.thebangoraye.com/bbc-countryfile-visits-north-wales/). Mae dyfais o'r fath yn harneisio pŵer adenydd a gynhyrchir gan wenyn a chacwn, y gellir ei drawsnewid yn signal addas i'w ganfod gan ddronau sy'n hedfan uwchlaw'r gwenyn a dargedir. Mae'r grŵp hefyd yn gweithio gyda'r sector technoleg amaeth i ddatblygu atebion i gefnogi integreiddio rhwydweithiau synhwyrydd diwifr Internet of Things mewn cychod gwenyn, ffermydd neu dai gwydr. Felly, bydd byrddau Low Range Wide Area Network (LoRaWAN) yn cael eu defnyddio ar y cyd â synwyryddion Radio Frequency Identification (RFID) wedi eu hunan-bweru i fonitro tymheredd, lefel golau, lleithder, CO2, delweddu is-goch cwch gwenyn a signalau ffibroacwstig yn annibynnol.
Mae gwenyn wedi eu tagio â dyfeisiau cynaeafu/trosglwyddydd ynni Bangor mewn amgylchedd tŷ gwydr clyfar.
Sefydliad y Dyfodol Niwclear
Mae'r ysgol hefyd yn gartref i Sefydliad y Dyfodol Niwclear. Gyda phrojectau dadgomisiynu a gorsaf ynni niwclear newydd gerllaw, a nifer cynyddol o fusnesau o'r gadwyn cyflenwi niwclear yn dod yn weithredol yn yr ardal, mae'r brifysgol yn canolbwyntio ar dechnolegau cynhyrchu ynni niwclear sy'n bodoli ar hyn o bryd a rhai sy'n dod i'r amlwg yn cynnwys adweithyddion dŵr gwasgeddedig (PWR), (Uwch) adweithyddion dŵr berw (ABWR) ac adweithyddion modiwlar bach (SMR), mae ymchwilwyr yn helpu datblygu technoleg adweithyddion dŵr berw at y dyfodol.
Mae arbenigedd niwclear a gallu academaidd ym Mhrifysgol Bangor yn ehangu'n gyflym gyda phenodiad 'sêr' ymchwil rhyngwladol, ynghyd â'u timau ymchwil cefnogol, a ariennir gan raglen Sêr Cymru Llywodraeth Cymru a Chronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop. Mwy…