Mae ymchwil yn y maes hwn yn canolbwyntio ar themâu rhyngweithio rhwng pobl a chyfrifiaduron, delweddu data a gwybodaeth, dadansoddiad gweledol, gweledigaeth gyfrifiadurol, adnabod patrymau, dysgu peiriannau, Realiti(X), bywyd artiffisial, cyfrifiadura esblygiadol, a dadansoddeg ddysgu. Mae ymchwilwyr o'r uned wedi arloesi mewn datblygiadau ym meysydd dosbarthu data, delweddu gwybodaeth, rhith-realiti a graffeg feddygol. Mae'r grŵp wedi denu cyllid o amrywiaeth o ffynonellau fel y Comisiwn Ewropeaidd (e.e. project a ariennir gan H2020 Water4Cities a'r FP7 Rasimas a Fly4PET) Llywodraeth Cymru (e.e. RIVIC, Cymru) a Llywodraeth y DU (e.e. projectau a ariennir gan AHRC Collocaid a HeritageTogether a hyfforddiant doethurol EPSRC mewn AI/ML/AC) a sefydliadau ac ymddiriedolaethau eraill y DU (e.e. Nuffield a Leverhulme). Mae'r grŵp yn gweithio ar y cyd ar draws y brifysgol gydag Ysgol Gwyddorau'r Eigion, Ysgol Gwyddorau Amgylcheddol a Naturiol , Ysgol y Gyfraith, Archeoleg, Ysgol Seicoleg, ac Ysgol Ieithoedd, Llenyddiaethau ac Ieithyddiaeth. Mae ein partneriaid ymchwil yn y DU yn cynnwys Prifysgol Surrey, Prifysgol Abertawe, Prifysgol East Anglia, Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Newcastle, Prifysgol Edinburgh Napier a Phrifysgol Lincoln. Ymhlith ein partneriaid rhyngwladol mae Samsung, Nvidia, Oculus/Facebook, a Phrifysgol Maryland, Inria, INRA, Prifysgol Tberbingen Eberhard Karls, Prifysgol Tsinghua, Prifysgol Burgos, a Phrifysgol Thessaly. Mae'r uned yn cynnwys chwe labordy cydgysylltiedig: y labordy Delweddu Gwybodaeth a Dadansoddeg Weledol, labordy XRealities ac Amgylcheddau Trochi, y labordy Adnabod Patrymau a Dysgu Peirianyddol, y labordy Deallusrwydd Artiffisial, y labordy Modelu a Delweddu, a'r labordy Dadansoddeg Ddysgu.
Delweddu Gwybodaeth a Dadansoddeg Weledol
Mae'r labordy Delweddu Gwybodaeth a Dadansoddeg Weledol yn archwilio'r defnydd o ddelweddu data mewn amrywiaeth o feysydd, megis treftadaeth ddiwylliannol, ieithyddiaeth, y gyfraith a llywodraethu, a rheoli adnoddau amgylcheddol. Mae ein gwaith yn ymwneud â chreu paradeimau, technegau ac offer delweddu newydd sy'n gwella'r broses o ddeall data, gan adeiladu ar wybodaeth o feysydd rhyngweithio rhwng pobl a chyfrifiaduron, dylunio, cartograffeg a gwyddoniaeth data. Mae gennym hanes hir ym meysydd golygfeydd, syniadaeth a dylunio aml-gydlynol, dadansoddeg weledol a chymhwyso delweddu rhyngddisgyblaethol. Mae'r labordy yn gartref i lawer o dechnegau delweddu cyfoes a phoblogaidd, megis y fethodoleg Five-Design Sheets, a ddefnyddir mewn llawer o gyrsiau delweddu fel mecanwaith syniadaeth ar gyfer ymchwilwyr delweddu. Rydym hefyd wedi ennill y wobr “Outstanding Analysis using Custom Tools” yn her IEEE VAST 2011.
epSpread - Bwrdd stori ar gyfer dadansoddeg weledol
XRealities ac Amgylcheddau Trochol
Mae'r labordy XRealities ac amgylcheddau trochol yn archwilio cymwysiadau rhithwir a chymysg (realiti MR/AR mewn amrywiaeth o feysydd. Mae enghreifftiau o ymdrechion ymchwil yn cynnwys creu amgylcheddau VR a gynhyrchir yn weithdrefnol a chymeriadau nad ydynt yn chwaraewyr (NPCs), megis ar gyfer yr Ocean Rift, VR/MR ar y we gyda delweddu data yn nadansoddeg drochol a defnyddio VR MR ym maes addysg a senarios hyfforddiant galwedigaethol. Mae'r labordy yn adeiladu ar waith blaenorol a wnaed ar ddelweddu ac efelychu meddygol.
Dadansoddeg drochol gyda thechnolegau gwe safonau agored
Ocean Rift, byd tanddwr a gynhyrchir yn weithdrefnol
Adnabod patrymau a dysgu peirianyddol
Mae'r labordy Adnabod Patrymau a Dysgu Peirianyddol yn datblygu dulliau ar gyfer dosbarthu, clystyru, dewis nodweddion a mwy. Mae'r labordai yn canolbwyntio ar ensemblau dosbarthu lle mae penderfyniadau dosbarthwyr lluosog yn cael eu cyfuno mewn ymgais i sicrhau datrysiad cyffredinol mwy cywir. Mae gan y tîm ymchwil ddiddordeb mewn herio problemau fel dosbarthiadau anghytbwys, ffrydio data, data di-iid, data wedi ei labelu'n rhannol a drifft cysyniad. Mae pynciau ymchwil diweddar yn cynnwys dosbarthiad set cyfyngedig a segmentiad organau'r abdomen o ddelweddau CT. Gellir cael mwy o wybodaeth yma.
Deallusrwydd Artiffisial
Mae'r labordy Deallusrwydd Artiffisial yn gwneud ymchwil i ddeallusrwydd artiffisial ac asiantau deallus. Mae ymchwil parhaus hefyd wedi canolbwyntio'n benodol ar gymhwyso modelau iaith sy'n seiliedig ar gywasgu testun, adalw gwybodaeth a chloddio testun (h.y. echdynnu gwybodaeth).
Modelu a Delweddu
Mae gweithgareddau ymchwil y labordy Modelu a Delweddu yn canolbwyntio'n bennaf ar feysydd graffeg gyfrifiadurol, delweddu, ffiseg feddygol, modelu amgylcheddol a chyfrifiadura esblygiadol, gan ganolbwyntio'n gryf ar fodelu amser real a modelu corfforol, ac ar broblemau gwrthdro. Mae enghreifftiau o gymhwyso yn cynnwys ailadeiladu ym maes tomograffeg, deall delweddau, ac efelychu delweddau meddygol realistig. Mae'r labordy wedi cynhyrchu nifer o adnoddau a llyfrgelloedd, a ddefnyddir yn helaeth yn y byd academaidd a diwydiant, megis Fly4Pet, gVirtualXRay. Mae pynciau ymchwil diweddar yn cynnwys efelychu pelydr-X, ailadeiladu tomograffeg allyriadau Positron, cylchraniad MRI, modelu tomograffeg gyfrifiadurol diwydiannol, cofrestriad 2D-i-3D a chelfyddydau esblygiadol.
Efelychiad amser real ar sail corfforol o ddelweddu pelydr-X gyda symudiad.
Celfyddydau esblygiadol: Golygfa o'r Lliwedd (Eryri, gogledd Cymru)
Dadansoddeg Ddysgu
Mae'r labordy dadansoddeg ddysgu yn cymhwyso technegau gwyddor data, dysgu peirianyddol, delweddu a dadansoddeg weledol gyfoes i'r cyd-destun addysgol. Y nodau yw caniatáu i fyfyrwyr ac addysgwyr ddeall eu haddysg, gan ddatgelu dealltwriaeth a phatrymau nad oedd yn hysbys o'r blaen. Mae'r labordy hefyd yn meithrin y defnydd o wneud penderfyniadau sy'n cael ei yrru gan ddata i gynorthwyo i gynllunio'r cwricwlwm ac asesu, gofal bugeiliol ac academaidd i wella profiad myfyrwyr ymhellach. Y nod yn y pen draw fyddai creu system wedi ei phersonoli i gefnogi a herio pob myfyriwr addysg uwch i gyflawni ei lawn botensial.