Cyflwyniad gan Bennaeth yr Ysgol, yr Athro Nia Whiteley
Mae’r Ysgol Gwyddorau Amgylcheddol a Naturiol yn cynnig amrywiaeth eang o gyfleoedd i'r rheiny sydd â diddordeb mewn meysydd pwnc ar draws y gwyddorau naturiol.
Mae gennym enw da yn rhyngwladol ym maes ymchwil, ac rydym yn cynnig amrywiaeth o raglenni gradd israddedig ac ôl-radd ar bynciau sy'n ymwneud ag Amaethyddiaeth, Bioleg, Cadwraeth, Gwyddor yr Amgylchedd, Daearyddiaeth, Coedwigaeth a Sŵoleg. Mae nifer o'n graddau wedi'u hachredu'n broffesiynol a gall myfyrwyr gwblhau lleoliadau gwaith ac ennill profiad rhyngwladol fel rhan o'u gradd.
Mae ein lleoliad rhwng môr a mynydd yn ein galluogi i wneud y gorau o'n hamgylchedd naturiol, ac rydym yn elwa ar gyfleusterau ymchwil blaengar, fel y Ganolfan Biotechnoleg Amgylcheddol, a Chanolfan Ymchwil Fferm Henfaes.
Mae'r Ysgol yn unigryw am fod ganddi gasgliad cynhwysfawr o ddeunydd fertebratau ac infertebratau yn yr Amgueddfa Byd Natur, a chysylltiad agos â Gardd Fotaneg Treborth ar lannau’r Fenai.
Mae ein hacademyddion a'n myfyrwyr yn cymryd rhan mewn gwaith ymchwil cydweithredol ar draws y byd ac yn ymdrin â materion a phynciau o bwys sylfaenol sy'n gysylltiedig â'n hamgylchedd naturiol. Mae eu darganfyddiadau yn cynorthwyo i lunio polisïau llywodraeth, ac yn newid ein ffordd o feddwl am fyd natur a'i broblemau.