Mae dau athro o Brifysgol Bangor wedi’u henwi ymhlith y 10 gweithwyr amgylcheddol proffesiynol mwyaf dylanwadol yn y Deyrnas Unedig.
Mae ‘The ENDS Report’ wedi datgelu ei ‘Restr Bŵer’ ddiweddaraf o’r 100 o amgylcheddwyr proffesiynol yn y Deyrnas Unedig sydd wedi cael yr effaith fwyaf yn y ddwy flynedd ddiwethaf.
Wedi'i sefydlu ym 1978, mae ‘The ENDS Report’ yn gylchgrawn sy'n ymdrin â pholisi busnes a newyddion o’r sector amgylcheddol.
Mae’r Athro Christian Dunn, o Ysgol Gwyddorau Amgylcheddol a Naturiol Prifysgol Bangor, wedi’i enwi’n un o’r gweithwyr proffesiynol amgylcheddol mwyaf dylanwadol ar y rhestr, am ei waith ar wyddor gwlyptiroedd.
“Dwi’n wirioneddol synnu o ganfod fy hun ar y rhestr hon, ochr yn ochr â rhai enwau mawrion y sector a hyd yn oed enwau cyfarwydd fel Feargal Sharkey,” meddai’r Athro Dunn.
“Mae gen i obsesiwn braidd â gwlypdiroedd a sut gallwn ni eu defnyddio fel Atebion yn Seiliedig ar Natur i fynd i’r afael â’r materion mwyaf enbyd sy’n ein hwynebu: newid hinsawdd, yr argyfwng bioamrywiaeth a llygredd dŵr.”
“Rwy’n ffodus fy mod yn cael gweithio ym Mhrifysgol Bangor lle gallaf ymchwilio i’r cynefinoedd gwych hyn, gweithio gyda chwmnïau a sefydliadau allanol, a dysgu criw gwych o fyfyrwyr,” ychwanegodd yr Athro Dunn.
Mae'r Athro Christian Dunn yn wyddonydd gwlyptiroedd ym Mhrifysgol Bangor. Mae hefyd yn Ddirprwy Is-ganghellor cysylltiol dros Gynaliadwyedd. Mae ei feysydd ymchwil a'i arbenigedd yn cwmpasu pob agwedd ar wyddoniaeth dŵr croyw a gwlyptir arfordirol, llygredd plastig, ansawdd a thriniaeth dŵr, a materion amgylcheddol ecolegol cyffredinol. Ef yw Cyfarwyddwr Grŵp Cyswllt Gwlyptiroedd Bangor.
Wedi’i henwi hefyd y mae'r Athro Bridget Emmett OBE, gwyddonydd ecosystem yng Nghanolfan Ecoleg a Hydroleg y Deyrnas Unedig (UKCEH), sydd hefyd yn Athro Er Anrhydedd ym Mhrifysgol Bangor.
Mae’r Athro Emmett wedi arwain mwy nag 20 o brojectau aml-bartner sy’n mynd i’r afael â heriau brys megis yr angen am aer glanach, arferion rheoli tir mwy cynaliadwy, adfer iechyd y pridd, lliniaru newid yn yr hinsawdd yn ogystal â datblygu cyfleoedd newydd ar gyfer polisi a busnes fel cyllid gwyrdd a sero net.
Hi yw Prif Ymchwilydd Rhaglen Monitro a Modelu'r Amgylchedd a Materion Gwledig (ERAMMP). Mae’n casglu llawer iawn o ddata ar draws tirwedd Cymru, i nodi tueddiadau amgylcheddol hirdymor, newid model ac effaith defnydd a rheolaeth tir yn y dyfodol, er mwyn cefnogi Llywodraeth Cymru i ddatblygu’r polisi Rheoli Tir yn Gynaliadwy.
Mae'r Athro Emmett hefyd yn llywydd Cymdeithas Ecolegol Prydain.
Mae Rhestr Bŵer blaenllaw The ENDS Report, sydd bellach yn ei thrydedd flwyddyn, yn dathlu unigolion mwyaf dylanwadol y proffesiwn, gan gynnwys enwebeion llwyddiannus o adrannau a rheoleiddwyr y llywodraeth, cyrff anllywodraethol, ymgyngoriaethau amgylcheddol a chwmnïau cyfreithiol, y byd academaidd, a mwy.
Dywedodd golygydd The ENDS Report, Jamie Carpenter, “Mae The Power List yn ddathliad o’r cronfeydd enfawr o dalent sy’n bodoli yn y proffesiwn amgylcheddol, a’i nod yw taflu goleuni ar waith y rhai sy’n cyflawni newid cadarnhaol trwy eu hymdrechion.
“Cafodd yr unigolion ar y rhestr eleni eu dewis yn dilyn proses drylwyr gan gynnwys arolwg o ddarllenwyr The ENDS Report, a chymorth panel o arbenigwyr yn y maes.”