Fy ngwlad:

Cyfweld a Dewis: Nyrsio

Os derbynnir eich cais i astudio, byddwn yn eich gwahodd i ddod am gyfweliad. Bydd cynnig i astudio gyda ni yn cael ei wneud i chi dim ond ar ôl cyfweliad llwyddiannus.

Rhoddir pob gwahoddiad i ddod am gyfweliad trwy UCAS. Ceir gwybodaeth bwysig am y cyfweliad isod.

Bydd y cyfweliadau ar gyfer ein rhaglen Baglor mewn Nyrsio yn cael eu cynnal bob prynhawn Mercher a bore Gwener o'r 13eg o Dachwedd 2024 hyd at fis Mai 2025. Yn ystod cyfnodau brig o geisiadau, bydd cyfweliadau'n cael eu cynnal drwy gydol yr wythnos am gyfnod byr, gan ddechrau wythnosau'r 6ed o Ionawr 2025 a'r 17eg o Chwefror 2025.

  • Dyddiadau: Dydd Mercher 12:30pm a Dydd Gwener 9:00am

  • Lleoliad: Ysgol Gwyddorau Iechyd, Fron Heulog, Bangor, LL57 2EF

Bydd angen i chi gyrraedd am 12:30pm yn brydlon ar gyfer y cyfweliadau prynhawn, a 9:00am ar gyfer y cyfweliadau bore. Byddwn yn anfon y wybodaeth am y dyddiad a'r amser atoch trwy UCAS.

Ymatebwch i'ch gwahoddiad am gyfweliad trwy UCAS o fewn pythefnos trwy un o'r opsiynau canlynol:

  • Cofrestrwch i fynd i'r cyfweliad
  • Dewiswch "Ni allaf ddod" ac aros am ddyddiadau eraill
  • Cysylltwch â ni ar ceisiadau.iechyd@bangor.ac.uk i drafod opsiynau eraill.

Gall methu ag ymateb o fewn pythefnos i dderbyn y gwahoddiad am gyfweliad olygu bod eich cais yn aflwyddiannus.

Os nad yw'r un o'r dyddiadau sydd ar gael yn gweithio i chi, dewiswch "Ni allaf ddod ar y dyddiadau hyn". Byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig slot arall, fodd bynnag ni ellir gwarantu y bydd un ar gael. Gall methu'r holl ddyddiadau sydd ar gael olygu na fydd eich cais yn llwyddiannus - mae dod am gyfweliad yn ofynnol ar gyfer y broses ddewis.

Beth fydd yn digwydd ar ôl y cyfweliad?

Byddwn yn cysylltu â chi drwy UCAS gyda chanlyniad eich cyfweliad.  Er ein bod yn ymdrechu i gysylltu ag ymgeiswyr cyn gynted â phosibl, byddwn yn cynnal nifer fawr o gyfweliadau a gall penderfyniadau gymryd 2-3 wythnos. Os byddwch yn llwyddiannus yn y cyfweliad, mae’n bwysig eich bod yn darllen unrhyw amodau’r cynnig a chyfarwyddiadau ar beth i’w wneud nesaf yn ofalus. Mae'n bwysig eich bod yn ymateb i unrhyw geisiadau am wybodaeth o fewn terfynau amser penodedig. Bydd pob cynnig yn amodol ar wiriadau DBS ac iechyd boddhaol.

Gofynnir i ymgeiswyr sydd wedi bod yn llwyddiannus yn y cyfweliad ddarllen y wybodaeth bwysig sy'n egluro'r camau nesaf yn y broses dderbyn ar gyfer y cwrs hwn.
Cliciwch yma am ragor o wybodaeth.

Mae'r wybodaeth hon ar gyfer ymgeiswyr sydd wedi bod yn llwyddiannus yn y cyfweliad. Sylwer: rhoddir pob cynnig trwy UCAS.

Os yw eich cais yn anllwyddiannus ac yr hoffech dderbyn adborth, gallwch wneud hynny drwy ysgrifennu atom. Gallwch ofyn am eich adborth o fewn 6 wythnos i dderbyn eich penderfyniad. Cofiwch gynnwys y wybodaeth ganlynol wrth wneud eich cais:

  • Enw llawn
  • Rhif Adnabod Personol UCAS (os gwnaethoch gais drwy UCAS)
  • Dyddiad geni
  • Enw'r cwrs a wnaethoch gais amdano
  • Dyddiad y cyfweliad

Gallwch ofyn am eich adborth drwy anfon e-bost atom yn ceisiadau.iechyd@bangor.ac.uk

Cysylltu â ni:

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cyfweliad neu'ch cais, cysylltwch â'r Tîm Derbyniadau ar ceisiadau.iechyd@bangor.ac.uk