Oherwydd rheoliadau a bennwyd gan y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth a'r Cyngor Proffesiynau Gofal Iechyd, os gwnewch gais am le ar unrhyw un o'n cyrsiau Nyrsio, Bydwreigiaeth neu Radiograffeg israddedig bydd gofyn i chi fynd i gyfweliad.
Sylwch ar y pwyntiau pwysig hyn ar gyfer cyfweliadau:
Gwnewch bob ymdrech i ddod i'r cyfweliad ar y dyddiad penodol a roddir i chi, os na allwch ddod, yna cysylltwch â ni cyn gynted â phosib fel y gallwn drefnu dyddiad arall i chi.
Cofiwch ddod â llun maint pasbort ohonoch eich hun i'r cyfweliad.
Dewch â llungopïau a dogfennau gwreiddiol o'r holl ddogfennau i'r cyfweliad.
Nyrsio: Cyfweld a Dewis
Bydwreigiaeth: Cyfweld a Dewis
Radiograffeg: Cyfweld a Dewis
Hylendid Deintyddol: Cyfweld a Dewis
Nodyn: Os gwnewch gais am le ar ein cwrs gradd BA Iechyd a Gofal Cymdeithasol, ni fydd rhaid i chi gael cyfweliad, oherwydd caiff cynnig lle ar y cwrs i chi ei benderfynu trwy ystyried eich datganiad personol a'ch cais.