Llongyfarchiadau ar gyrraedd y rhestr fer am gyfweliad am le ar y cwrs BSc (Anrh) Radiograffeg Ddiagnostig (Prifysgol Bangor).
- Bydd rhaid i chi fynd i'ch tudalen dracio bersonol ar wefan UCAS i weld y manylion am ddyddiad a lleoliad eich cyfweliad.
- Rhaid i chi gadarnhau drwy UCAS y byddwch yn dod; os na wnewch hynny, caiff eich cynnig i gael cyfweliad ei dynnu'n ôl a chaiff eich cais ei wrthod.
- Dim ond dan amgylchiadau eithriadol y caiff dyddiadau cyfweliadau eu newid a dim ond os oes dyddiadau eraill ar gael. Os na allwch ddod ar y dyddiad penodol, anfonwch e-bost at health.applications@bangor.ac.uk.
- Bydd y cyfweliadau unigol yn dechrau am 10am, bydd sesiynau'r prynhawn yn dechrau am 1pm.
- Cyflwynir y cwrs ar gampws Wrecsam a dyma ble cynhelir y cyfweliadau - PEIDIWCH Â MYND I FANGOR
Cynhelir y cyfweliadau ar gyfer y cwrs Radiograffeg Ddiagnostig ar gampws Wrecsam; Ysgol Gwyddorau Iechyd, Prifysgol Bangor, Radiograffeg, Parc Technoleg Wrecsam, Wrecsam LL13 7YP.
Ymweliad clinigol
Rhan o amodau'r cwrs Radiograffeg Ddiagnostig yw y byddwch, lle bo hynny'n bosib, cyn cael eich derbyn, wedi mynd i adran belydr-x mewn ysbyty o'ch dewis am yr hyn sy'n cyfateb i 1 diwrnod llawn (byddai 2 ddiwrnod llawn yn well ond rydym yn deall bod hyn yn gallu bod yn anodd) ac wedi llenwi ffurflen ymweliad clinigol mewn modd boddhaol (y gellir ei lawrlwytho yma) wedi ei llofnodi gan radiograffydd goruchwyliol. Gwnawn hefyd dderbyn llythyr gan yr adran yn cadarnhau eich presenoldeb a'r mannau yr ymwelwyd â hwy os nad ydych yn gallu cael y ffurflen ymweliad clinigol neu os ydych wedi ymweld ag adran eisoes am unrhyw reswm.
Dylai'r ffurflen ymweld gael ei chyflwyno erbyn 15 Mawrth. Os yw'r ffurflen wedi ei llenwi cyn y cyfweliad, dewch â'r ffurflen gyda chi; fel arall gallwch ei hanfon trwy'r post i'r Ysgol Gwyddorau Iechyd, Prifysgol Bangor, Radiograffeg, Parc Technoleg Wrecsam, Wrecsam LL13 7YP.
Dyddiadau cyfweliadau
- Dydd Mercher 13 Tachwedd 2024
- Dydd Mercher 27 Tachwedd 2024
- Dydd Mercher 8 Ionawr 2025
- Dydd Mercher 22 Ionawr 2025
- Dydd Mercher 5 Chwefror 2025
- Dydd Mercher 19 Chwefror 2025
Fformat cyfweliad ar gyfer y cwrs Radiograffeg Ddiagnostig
- Ar ddechrau eich sesiwn gyfweld rydym yn rhoi cyflwyniad i'r holl ymgeiswyr sy'n esbonio sut mae ein cwrs yn cael ei redeg; cynhelir cyfweliadau ac ymweliadau â'r safle ar ôl y cyflwyniad hwn.
- Yn ystod ymweliadau â'r safle, cewch gyfle i gwrdd â myfyrwyr a staff o'r cwrs.
- Rydym yn defnyddio system gyfweld unigol a gofynnir ichi roi ateb ysgrifenedig i gwestiwn a fydd yn cael ei ddarparu ar ddechrau'r sesiwn; bydd hyn yn cymryd deg munud.
- Efallai y bydd eich cyfwelydd hefyd yn gofyn cwestiynau i chi yn seiliedig ar wybodaeth ar eich ffurflen gais a chewch hefyd gyfle i ofyn cwestiynau ar ddiwedd y cyfweliad 10-15 munud.
- Ni fydd eich cyfwelydd yn trafod unrhyw wybodaeth sensitif.
Pethau i ddod gyda chi i'r cyfweliad:
- Pob tystysgrif addysgol berthnasol (dewch â'r dystysgrif wreiddiol ynghyd â llungopi o'r holl dystysgrifau)
- pasbort neu drwydded yrru (ynghyd â llungopi)
- llun maint pasbort
Beth fydd yn digwydd ar ôl y cyfweliad?
Cewch wybod am ganlyniad y cyfweliad trwy UCAS, felly mae'n bwysig eich bod yn edrych ar eich cyfrif yn rheolaidd.
Os ydych wedi cael eich derbyn yn dilyn cyfweliad
Os ydych wedi cael eich derbyn yn dilyn cyfweliad yna darllenwch y dudalen sy'n sôn am yr hyn fydd yn digwydd ar ôl y cyfweliad.
A hoffech wybod mwy?
E-bost: health.applications@bangor.ac.uk