Pryd ddechreuoch chi yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol?
2003.
Pam ddewisoch chi weithio yn y Gwasanaeth Iechyd?
Roedd yn gyfle i gyfrannu’n uniongyrchol at iechyd a lles y wlad.
Disgrifiwch yr hyn rydych chi'n ei wneud.
Rwy’n gyfrifol am bensaernïaeth data a gwybodeg dros nifer o ddatblygiadau meddalwedd yn fy sefydliad ac yn cynghori ynghylch yr ymarfer gorau, ac yn y blaen i amrywiol brojectau digidol.
Beth ydych yn ei fwynhau fwyaf am eich rôl?
Gallu cyfrannu at les y wlad a theimlo bod gwerth gwirioneddol i ‘ngwaith. Er nad oes gen i’r gallu i fod yn glinigwr, gwn fod gwybodaeth amserol a chywir i lunwyr polisi a rheolwyr gwasanaethau’n helpu sicrhau y gall y Gwasanaeth Iechyd gyflenwi gofal o ansawdd a gwerth am arian gyda chyllid cyhoeddus gwerthfawr. Rwy'n gweld bod gallu cyfrannu darnau o'r pos sydd yn y pen draw yn arwain at welliannau mewn gofal i filoedd o bobl yn rhoi boddhad mawr imi.
Beth fyddech chi'n ei ddweud wrth rywun sy'n meddwl am yrfa yn y Gwasanaeth Iechyd?
Mae'n rhoi boddhad mawr ac er efallai nad yw'r arian mor fawr â'r sector preifat, os ydych chi'n caru'r hyn rydych chi'n ei wneud mae'n amgylchedd gwych i chi allu gwneud gwahaniaeth go iawn.
Sut byddech chi’n disgrifio’r Gwasanaeth Iechyd mewn gair?