Mae ein hymchwil yn defnyddio model gydol oes sy'n cymhwyso dulliau gwerthuso economeg iechyd i dreialon a chynlluniau astudio eraill i werthuso iechyd cyhoeddus ac ymyriadau seicogymdeithasol ar lefel rhaglen a system. Defnyddir ein hymchwil yn y GIG, sefydliadau’r trydydd sector, a’r llywodraeth. Cyllidir llawer o'n hymchwil gan NIHR, HTA, elusennau a Llywodraeth Cymru.
Gyda lens ymchwil a pholisi, rydym yn cymhwyso economeg iechyd i iechyd y cyhoedd ac ataliol, llesiant a lles. Er engraifft, rydym wedi cyhoeddi tri adroddiad wedi’u comisiynu gan Iechyd Cyhoeddus Cymru: Gweddnewid Bywydau Ifanc ledled Cymru; Lles Mewn Gwaith; a Byw yn Dda yn Hirach. Gweler yr adroddiadau llawn isod:
Mae ein harbenigedd a'r dulliau a ddefnyddiwn i'w gweld yn y ffeithlun hwn:
Llun ddisgrifiad: Gwe-ddiagram yw hwn sy’n amlygu’r dulliau a ddefnyddiwn. Mae'r categorïau'n ffurfio cylch consentrig mewn glas, sef: Gwerth Cymdeithasol, Adolygu, Gwerthusiad Economeg, Canolbwyntio ar Gyfranogwyr a Blaenoriaethu. Mae'r dulliau yn cael eu harddangos mewn cylchoedd coch sydd ynghlwm wrth bob categori. Ar gyfer Gwerth Cymdeithasol maent yn adenillion cymdeithasol ar fuddsoddiad ac adenillion ar fuddsoddiad. Y dulliau ar gyfer Adolygu yw adolygiadau synthesis realistig, adolygiadau systematig ac adolygiadau cyflym. Ein dulliau gwerthusiad economeg yw dadansoddiad cost-effeithiolrwydd, dadansoddiad cost-canlyniad, dadansoddiad cost a budd, Modelu Markov a dadansoddiad cost-ddefnyddioldeb. Dulliau sy’n canolbwyntio ar gyfranogwr yw gwerthusiad realistig ac arbrofion dewis arwahanol. Dulliau blaenoriaethiu yw dadansoddi penderfyniad meini prawf lluosog a chyllidebu rhaglenni a dadansoddiad ffiniol.
Mae tystiolaeth ryngwladol yn awgrymu y daw’r adenillion ar fuddsoddiad mwyaf o fuddsoddiad yn ystod y tair blynedd gyntaf o fywyd. Mae ein hymchwil yn dangos mai camau ataliol cadarnhaol yn ystod datblygiad plant yw'r ffyrdd pwysicaf o ymyrryd a sicrhau'r adenillion ar fuddsoddiad mwyaf i gymdeithas.
Llun ddisgrifiad: Mae'r ddelwedd hon yn dangos dau graff o wariant cyhoeddus ar iechyd. Mae'r llinell grom gyntaf yn cynrychioli gwariant cyhoeddus cyfredol sy'n cynyddu dros gwrs bywyd. Mae'r ail linell yn dangos model amgen yn buddsoddi'n gynnar i wario llai yn ddiweddarach mewn bywyd.
Mae ein ffeithlun Olwyn Lles a Meithrin Llesiant yn dangos sut mae ffactorau yn effeithio ar ein llesiant drwy gwrs bywyd.
Llun ddisgrifiad: Mae'r ffeithlun hwn yn adlewyrchu cysyniad sylfaenol "olwyn bywyd". Mae'r cylch consentrig cyntaf yn goch ac yn adlewyrchu ffactorau personol sy'n pennu neu'n cael effaith trwy cwrs bywyd ar lesiant a lles. Y rhain yw: gyrfaoedd a chyflogaeth; pwrpas a chyfraniad; iechyd meddwl; iechyd corfforol; perthynas a chysylltiad cymdeithasol; diogelwch bwyd, dŵr a ynni, addysg a thwf; hunaniaeth bersonol; sefydlogrwydd ariannol, ac amgylchedd y cartref a’r gwaith. Mae'r ail gylch consentrig yn wyrdd ac yn adlewyrchu ffactorau lleol sy'n pennu neu'n cael effaith ar lesiant a lles trwy’r cwrs bywyd. Y rhain yw: polisi llywodraeth genedlaethol a lleol; mynediad at dai a thrafnidiaeth; mynediad at addysg a chyflogaeth; Y gymdogaeth, yr amgylchedd adeiledig a naturiol; mynediad at leoedd gwyrdd a glas; mynediad at iechyd a gofal cymdeithasol, llythrennedd iechyd a chyfiawnder. Mae'r trydydd cylch consentrig yn las ac yn adlewyrchu ffactorau cenedlaethol a byd-eang sy'n pennu neu'n cael effaith ar lesiant a lles trwy gwrs bywyd. Y rhain yw: newid amgylcheddol a hinsoddol; normau cymdeithasol a diwylliannol; technoleg; globaleiddio; amodau macroeconomaidd; amodau geo-wleidyddol, a rhyfel, terfysgaeth, newyn, pandemig a thrychinebau naturiol.
Mae effaith ein gweithgareddau ymchwil yn bellgyrhaeddol, fel y dangosir yn yr ffeithlun isod.
Llun ddisgrifiad: Gwe-ddiagram yw hwn sy'n dangos ein heffaith. Mae wedi'i ffurfio o wyth cylch wedi'u lliwio mewn oren a glas. Y rhain ydi: allbynnau ymchwil a chyhoeddiadau, dylanwadu polisi, addysgu a sgiliau, adnoddau addysgiadol, adnabod mesurau iechyd ataliol, arddangos adenillion ar fuddsoddiad, mynd i'r afael â materion cymdeithasol, a chydweithio ac adeiladu rhwydweithiau.
Mae ein hymchwil yn denu cyllid o amrywiaeth o ffynonellau, fel y dangosir yn ein ffeithlun:
Llun ddisgrifiad: Gwe-ddiagram yw hwn sy'n dangos ein ffynonellau ariannu. Dangosir chwe ffynhonnell arian fel cylchoedd glas. Y rhain ydi: UKRI sy’n cynnwys cylchoedd gwyrdd cysylltiedig llai ar gyfer NIHR, HRC a’r ESRC, Llywodraeth Cymru sy’n cynnwys cylch cysylltiedig llai ar gyfer HCRW, elusennau sy’n cynnwys cylchoedd gwyrdd ar gyfer y Gymdeithas Facwlaidd a Sefydliad Ymchwil San Bawl, byrddau iechyd y GIG, Horizon Ewrop a Cyflymu Cymru.
Horizon Ewrop Invest4Health
[Llun ddisgrifiad:] Gwe-ddiagram yw hwn sy’n dangos ein harianwyr, sy’n cynnwys UKRI, Llywodraeth Cymru, Byrddau Iechyd GIG, Horizon Ewrop ac Elusennau.Mae'r Ganolfan Economeg Iechyd a Gwerthuso Meddyginiaethau (CHEME) yn bartneriaid allweddol ym mhroject Invest4Health yr Undeb Ewropeaidd. Mae’r cydweithrediad hwn gan Horizon Europe ar draws wyth gwlad wedi’i ariannu fel un o’r pedair rhaglen ymchwil fawr ar alwad HORIZON-HLTH-2022-CARE-08-04 — Gwell modelau ariannu ar gyfer systemau iechyd. Mae cyfraniad allweddol CHEME i’r project hwn yn cynnwys edrych ar yr hyn a olygir gan Fuddsoddi Gallueiddio Clyfar, ar draws y sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol ar lefel macro, meso a micro, a phrofi a gwerthuso modelau Buddsoddi Gallueiddio Clyfar arfaethedig sy’n anelu at ddarparu cyllid cynaliadwy ar gyfer mesurau iechyd ataliol yn y dirwedd gofal iechyd ôl-COVID-19.
Cyngor ar Bresgripsiwn
Mae Citizens Advice on Prescription (CAP) yn ymyriad lles a phresgripsiynu cymdeithasol a ddarperir gan Raglen Iechyd Lerpwl Cyngor ar Bopeth | Cyngor ar Bopeth (citizensadviceliverpool.org.uk). Nod CAP yw darparu un 'porth' o wasanaethau iechyd yn Lerpwl i gynnig cefnogaeth gymdeithasol a lles gyfannol. Elfen allweddol o wasanaeth CAP yw ei fod wedi’i gynllunio i wella bywydau unigolion, ond hefyd i ddarparu cefnogaeth i’r system gofal iechyd, gyda’r nod o leihau’r pwysau ar y gwasanaeth iechyd yn sgil materion nad ydynt yn ymwneud ag iechyd.
Mae tîm economeg iechyd y cyhoedd, ar y cyd â Phrifysgol Lerpwl, ar hyn o bryd yn gwerthuso effeithiolrwydd a chost-effeithiolrwydd y rhaglen CAP. Ar gyfer y dadansoddiadau economaidd iechyd, byddwn yn defnyddio gwerthoedd cyfleustodau ansawdd bywyd sy’n gysylltiedig ag iechyd yn ogystal â newidiadau yn y defnydd o wasanaethau iechyd (e.e. nifer yr ymweliadau â meddygon teulu ac ysbytai), a chostau rhaglenni i gynnal dadansoddiad cost-effeithiolrwydd ac adenillion cymdeithasol ar fuddsoddiad ar yr ymyriad.
KiVa
Mae’r Ganolfan Economeg Iechyd a Gwerthuso Meddyginiaethau, Prifysgol Bangor, yn cynnal gwerthusiad economeg iechyd o raglen gwrth-fwlio cyffredinol KiVa fel rhan o dreial Stand Together y Deyrnas Unedig. Mae dros 25% o blant y Deyrnas Unedig yn cael eu bwlio’n rheolaidd a gall bwlio yn yr ysgol effeithio ar absenoldeb, cyrhaeddiad academaidd ac arwain at blant sy’n cael eu bwlio yn cael mynediad at fwy o wasanaethau iechyd meddwl o gymharu â phlant nad ydynt yn cael eu bwlio. Mae canlyniadau iechyd a gofal cymdeithasol cwrs bywyd niweidiol posibl yn amlygu pwysigrwydd dull iechyd cyhoeddus ataliol i leihau bwlio ymysg plant. Mae treial Stand Together y Deyrnas Unedig yn darparu’r gwerthusiad treialon hapsamplu rheolyddedig ar raddfa fawr gyntaf o’r rhaglen KiVa yng Nghymru a Lloegr, gan ymchwilio i weld a yw KiVa yn fwy effeithiol a chost-effeithiol o ran lleihau bwlio yn ysgolion cynradd y Deyrnas Unedig o gymharu â dull arferol ysgolion o fynd i’r afael â bwlio. Mae KiVa yn ymyriad cymhleth, aml-gydran a ddarperir o fewn system addysg gymhleth. Rydym yn defnyddio lens gwerthusol eang i ddarparu tystiolaeth cost-effeithiolrwydd cynhwysfawr a pherthnasol i'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau.
Methodoleg economeg iechyd y cyhoedd
Edwards, R. T., & McIntosh, E. (gol.). (2019). Applied health economics for public health practice and research. Gwasg Prifysgol Rhydychen. Y llyfr hwn yw'r pumed yn y gyfres o Lawlyfrau ar Werthuso Economaidd Iechyd.
-
Yn 2022 fe wnaethom gynnal cwrs deuddydd ar-lein rhad ac am ddim i gyd-fynd â'n gwerslyfr. Denodd y cwrs dros 150 o gynrychiolwyr ledled y byd o tua 60 o sefydliadau.
-
Edwards, R. T., & Lawrence, C. L. (2021). ‘What You See is All There is’: the importance of heuristics in cost-benefit analysis (CBA) and social return on investment (SROI) in the evaluation of public health interventions. Applied Health Economics and Health Policy, 19(5), 653-664.
Cefnogi Polisi
Rydym yn darparu cyngor a chymorth economeg iechyd i sefydliadau iechyd a gofal cymdeithasol yn unol â blaenoriaethau ac anghenion Llywodraeth Cymru. Er enghraifft:
- Trwy ein gwaith gyda Chanolfan Dystiolaeth Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru rydym yn cydweithio'n agos ag Iechyd Cyhoeddus Cymru a rhanddeiliaid eraill megis Llywodraeth Cymru ar adolygiadau cyflym o'r dystiolaeth iechyd a gofal cymdeithasol sydd ar gael. Mae adolygiadau diweddar yn cynnwys lles y gweithlu a modelau gofal lliniarol (ar y gweill).
- Arweiniodd Rhiannon dîm Sefydliad Ymchwil Iechyd a Meddygol Bangor (BIHMR) fel partner yng Nghanolfan Tystiolaeth COVID-19 Cymru, sydd wedi arwain at grant newydd o £5 miliwn dan arweiniad Caerdydd, fel canolfan adolygu i Lywodraeth Cymru gefnogi tystiolaeth polisi seiliedig ar iechyd a gofal cymdeithasol ôl-bandemig. Mae’r rhain yn cynnwys adolygiadau cyflym ar effeithiolrwydd a chost-effeithiolrwydd ymyriadau i leihau niwed i blant a phobl ifanc sydd wedi bod yn agored i drais/cam-drin domestig, ac ymyriadau ac arferion gorau i gefnogi pobl â COVID-hir i ddychwelyd i weithgareddau arferol.
- Gweithredodd Rhiannon fel arbenigwr i Swyddfa Materion Cymreig Llywodraeth y DU ar y posibilrwydd o greithio economi Cymru ar ôl y pandemig.
Economeg iechyd lles a meithrin llesiant
I ddod: Llyfr Gwasg Prifysgol Rhydychen – Economeg iechyd lles a meithrin lles ar draws cwrs bywyd.
- , dan arweiniad Prifysgol Gothenburg, a ariennir gan Horizon Ewrop.
- Ffyrdd at Les, a ariennir gan y Sefydliad Iechyd a NIHR.
- Dull newydd hyfforddi therapiwtig ar gyfer gwella lles emosiynol (hyfforddiant EMD), mewn cydweithrediad â Phrifysgol Caerdydd, wedi'i ariannu gan y Rhaglen Accelerate (trwy Hwb Gwerth Cymdeithasol CHEME).
- Y Bartneriaeth Awyr Agored: Rhaglen ‘Agor Drysau i’r Awyr Agored’ (ODO), mewn cydweithrediad â Phrifysgol Caerdydd, wedi’i hariannu gan y Rhaglen Accelerate.
- Rhaglen Presgripsiynu Cymdeithasol Llunio Lles yr Ymddiriedolaeth Fathom, a ariennir gan Brifysgol Caerdydd.
- Llesiant a meithrin lles trwy gwrs bywyd mewn ymchwil a pholisi economeg iechyd cyhoeddus: ffeithlun newydd.
Prosiectau ymchwil a chydweithrediadau trwy gwrs bywyd
Blynyddoedd cynnar a phlentyndod
- Speak Out Stay Safe (SOSS) programme ar y cyd â Phrifysgol Central Lancashire, ariannwyd gan NSPCC – project cyfredol. View the summary report. (*sylwch ein bod yn gweithio ar ddarparu fersiwn hygyrch llawn o’r ddogfen hon)
Glasoed a phobl ifanc
- Treial KiVa: Effeithiau a chostau rhaglen gwrth-fwlio yn ysgolion cynradd y DU: hap-dreial clwstwr aml-ganolfan, dan arweiniad Prifysgol Bangor, a ariennir gan NIHR.
- Dewis Modelau Rôl Actif i Ysbrydoli Merched (CHARMING), mewn cydweithrediad â phrifysgol Caerdydd, a ariennir gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, Llywodraeth Cymru.
- Archwilio'r rhwystrau a'r galluogwyr i wasanaethau ar gyfer pobl ifanc sy'n gadael gofal: astudiaeth ansoddol, a ariennir gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.
Oedran gweithio
- Gwerthuso effaith iechyd a chost-effeithiolrwydd Ways-to-Wellbeing, dull system gyfan o liniaru tlodi gydol oes, mewn cydweithrediad â Phrifysgol Lerpwl, a ariennir gan NIHR.
- Shared Roadmap for System Change, mewn cydweithrediad â Phrifysgol Canolbarth Sir Gaerhirfryn, a ariennir gan Women’s Aid and Safer Lives
- MAP ALLIANCE: Optimeiddio gofal ar gyfer pryder amenedigol: Gwerthusiad o ddefnydd, canlyniadau a chostau'r gwasanaeth iechyd, mewn cydweithrediad â City, Prifysgol Llundain, wedi'i ariannu gan NIHR.
Heneiddio - byw'n dda yn hirach
- Trio Shared Lives (seibiannau byr i bobl â dementia), a arweinir gan Brifysgol Bangor, a ariennir gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, Llywodraeth Cymru.
- Rhaglen ymchwil Hyrwyddo Gweithgarwch, Annibyniaeth a Sefydlogrwydd mewn Dementia Cynnar (PrAISED), ar y cyd â Phrifysgol Nottingham, a ariennir gan NIHR.
- Hap-brawf rheoledig ac astudiaeth ddichonoldeb o effeithiau ymyriad e-iechyd ‘iSupport’ ar gyfer lleihau gofid gofalwyr dementia, yn enwedig yn ystod y pandemig parhaus COVID-19, dan arweiniad Prifysgol Bangor, a ariennir gan NIHR.
- Effaith rhwydweithiau cymorth cymheiriaid ar gyfer y rhai sy'n byw gyda dementia prin, mewn cydweithrediad â Choleg Prifysgol Llundain, a ariennir gan ESRC a NIHR.
Ble a sut rydym yn marw'n dda
- Cyllid a mynediad i ofal hosbis yng Nghymru: Astudiaeth achos yng Ngogledd Cymru.
- Pa dystiolaeth sydd ar gael am gostau a chost-effeithiolrwydd gwahanol fodelau gwasanaeth o ofal lliniarol, gyda ffocws ar ofal diwedd oes? [teitl dros dro]. Adolygiad cyflym i’r Ganolfan Dystiolaeth Cymru.
Gwerthuso dyfeisiau a thechnolegau meddygol
- Clinical Development of an Ultrasensitive OCT Device to Improve the Management of Eye Disease, ar y cyd â Phrifysgol Lerpwl, ariannwyd gan HTA.
Gwerthusiad economaidd o golli golwg a llawdriniaeth cadw golwg
- Mynediad at gwnsela yn ystod arolwg colli golwg, dan arweiniad Prifysgol Bangor, wedi'i ariannu gan Gymdeithas Ddeillion Gogledd Cymru.
- Adjunctive Steroid Combination in Ocular Trauma (ASCOT), ar y cyd â Moorfield’s Eye Hospital and King’s College Llundain, cyllidwyd gan NIHR.
Fel grŵp rydym wedi cyhoeddi ar y cyd dros 400 o erthyglau a adolygwyd gan gymheiriaid mewn economeg iechyd. Ein hadroddiadau a chyhoeddiadau.
Myfyrwyr meddygaeth yn Ysgol Feddygol Gogledd Cymru, Prifysgol Bangor.
- Mae Rhiannon yn cynnig project profiad 'Ymchwil economeg iechyd cyhoeddus ac ataliol ar draws cwrs bywyd' yn y cydrannau a ddewisir gan fyfyrwyr (2il i 4edd flwyddyn). Bydd myfyrwyr yn cael cyfle i ymuno â rhwydwaith Ymchwil Economeg Iechyd Cyhoeddus ac Ataliol yn CHEME.
Darlithoedd pwrpasol ar economeg iechyd y cyhoedd a phynciau cysylltiedig:
- Cynigir Rhiannon ddarlithoedd fel a ganlyn:
-
- Modiwl GIG-4003 Cyflwyniad i Economeg Iechyd, a addysgir trwy raglen Iechyd y Cyhoedd a Hybu Iechyd yr Ysgol Gwyddorau Iechyd.
- Mae'n dysgu yn yr Ysgol Haf Ymchwil Gwasanaethau Iechyd Prifysgol Bangor.
- Ym Mhrifysgol Lerpwl, Cwrs Meistr mewn Iechyd Cyhoeddus.
Yr Athro Rhiannon Tudor Edwards – Athro Economeg Iechyd a Chyfarwyddwr a sefydlydd ymchwil economeg iechyd ym Mhrifysgol Bangor a Chyd-gyfarwyddwr CHEME, a Chyd-gyfarwyddwr Economeg Iechyd a Gofal Cymru (HCEC)
Ann Lawton – Gweinyddwr CHEME a Gweinyddwr ar gyfer Economeg Iechyd a Gofal Cymru
Dr Catherine Lawrence – Cefnogaeth Darllenwyr a Mentor Arbenigol (Myfyrwyr)
Dr Ned Hartfiel – Swyddog Ymchwil Economeg Iechyd a Chyd-arweinydd Canolfan Gwerth Cymdeithasol CHEME
Dr Victory Ezeofor – Modelydd Mathemategol/Ystadegol mewn Economeg Iechyd
Dr Bethany Anthony – Swyddog Ymchwil Economeg Iechyd
Dr Rachel Granger – Swyddog Ymchwil Economeg Iechyd
Dr Sofie Angharad Roberts – Swyddog Ymchwil Economeg Iechyd
Dr Llinos Haf Spencer – Swyddog Ymchwil Economeg Iechyd
Dr Holly Whiteley – Swyddog Ymchwil Economeg Iechyd
Dr Ceryl Davies – Darlithydd mewn Gwyddorau Iechyd (Gwaith Cymdeithasol)
Jacob Davies – Swyddog Cefnogi Project Ymchwil
Pim Doungsong – Swyddog Cefnogi Project Ymchwil
Kalpa Pisavadia – Swyddog Cefnogi Project Ymchwil
- Dr Jo Charles – Dirprwy Bennaeth Economeg Iechyd, y Gyfarwyddiaeth Gyllid, Grŵp Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Llywodraeth Cymru
- Dr Gethin Griffiths – Cyfarwyddwr Ymchwil i Ganlyniadau, GSK
- Dr Natalia Ivashikina– Uwch Ddarlithydd mewn Economeg Iechyd Byd-eang, Brighton and Sussex Medical School
- Dr Huw Lloyd-Williams– Swyddog Ymchwil, CHEME, Prifysgol Bangor
- Abraham Makanjuola– Cynorthwyydd Ymchwil, Prifysgol De Cymru
- Alan Ó Céilleachair – Ymchwilydd, Coleg Prifysgol Cork, Iwerddon
- Dr Laura Ternent – Uwch Ddarlithydd, Prifysgol Castellnewydd
- Dr Laura Timmis – Swyddog Ymchwil, CHEME, Prifysgol Bangor
- Alex Torbuck – Ymgeisydd PhD, Prifysgol Rochester, Efrog Newydd
- Dr Sayed Ramin Ziwary – Rhaglen The World Bank Young Professional
- Sharon Hadley, Canolfan Ymwybyddiaeth Ofalgar Rhydychen
- Seow Tien Yeo
- Yr Athro Stephen Robson, arweinydd mewn iechyd a pholisi iechyd yn Awstralia
- Dr Vladyslav Kulikov, MD
- Dmytro Babelyuk, MD.
- Eira Winrow, Darlithydd mewn Gwyddorau Iechyd ym Mhrifysgol Bangor
- Jacob Davies, Swyddog Cefnogi Project Ymchwil yn CHEME