Mae gan Brifysgol Bangor enw da ers tro byd am ymchwil mewn gofal cymdeithasol oedolion llwyddiannus i Gymru, rhanbarthau eraill y Deyrnas Unedig a chynulleidfa ryngwladol.
Mae ein gwaith yn ymateb i’r heriau hen a newydd a achosir gan newidiadau demograffig a chymdeithasau sy’n heneiddio, y cynnydd yn nifer yr achosion o gyflyrau acíwt a chronig ymhlith oedolion o bob oed (gan gynnwys y rhai sy’n ymwneud â dewisiadau ffordd o fyw), a’r pwysau o ran cyllid a’r gweithlu sy’n wynebu’r sector gofal cymdeithasol oedolion. Adeiladwyd ein llwyddiant ar y cydweithredu mewn ymchwil gydag academyddion mewn rhanbarthau eraill yn y Deyrnas Unedig ac yn rhyngwladol a thrwy gydweithio â sefydliadau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol.
Mae ein cryfderau ymchwil yn ymateb i faterion polisi ac ymarfer gofal cymdeithasol oedolion ac yn llywio’r materion hynny. Ymhlith y rheini mae heneiddio a dementia, gofalwyr a gofalu, dulliau creadigol o gefnogi oedolion sydd ag anghenion gofal cymdeithasol a deall gwerth cymdeithasol ychwanegol y dulliau hynny, pontio o wasanaethau gofal cymdeithasol y plant i oedolion, arloesi digidol ym maes darpariaeth gofal, datblygu a chadw’r gweithlu, anghydraddoldebau a phoblogaethau nad ydynt yn cael eu gwasanaethu'n ddigonol.
Mae amrywiaeth o arbenigedd methodolegol yn sail i’r gwaith gan gynnwys ffyrdd arloesol o gryfhau ymgysylltiad a chyfranogiad y cyhoedd a’r gweithwyr proffesiynol mewn ymchwil gofal cymdeithasol oedolion, cyfuno tystiolaeth, economeg iechyd gan gynnwys mesur gwerth cymdeithasol, cynllunio treialon clinigol, cynllun gwerthuso prosesau ar gyfer ymyriadau cymhleth ac addasu ymyriadau at gyd-destunau newydd.
Mae amrywiaeth eang o staff academaidd yn ymgymryd ag ymchwil gofal cymdeithasol ledled Coleg Meddygaeth ac Iechyd (Ysgol y Gwyddorau Iechyd a’r Ysgol Seicoleg a Gwyddor Chwaraeon) gyda chydweithredu sefydledig â chydweithwyr yng Ngholeg y Celfyddydau, Dyniaethau a Gwyddorau Cymdeithas (Ysgol Hanes, y Gyfraith a Gwyddorau Cymdeithas).
Mae ein harbenigwyr gofal cymdeithasol yn cynnwys:
- Dr Diane Seddon, Darllenydd Gofal Cymdeithasol
- Gill Windle, Athro Ymchwil Heneiddio a Dementia
- Valerie Morrison, Athro Seicoleg
- Yr Athro Jane Noyes, Athro mewn Ymchwil Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ac Iechyd Plant
- Yr Athro Rhiannon Tudor-Edwards, Athro Economeg Iechyd
- Dr Ceryl Davies ,Darlithydd yn y Gwyddorau Iechyd (Gwaith Cymdeithasol)
- Dr.Carys Jones, Darlithydd mewn Iechyd Ataliol
- Dr.Zoe Hoare, Uwch Ddarlithydd
- Martina Feilzer, Athro mewn Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol
- Dr. Gill Toms, Swyddog Datblygu Ymchwil
- Ian Davies-Abbott, Darlithydd yn y Gwyddorau Gofal Iechyd
- Dr. Sion Williams, Cyfarwyddwr Astudiaethau Uwchraddedig
- Dr. Catrin Hedd Jones, Darlithydd mewn Astudiaethau Dementia (Cyfrwng Cymraeg)
- Dr Robin Mann, Uwch Ddarlithydd mewn Cymdeithaseg
- Dr Ruth Lewis, Uwch Ddarlithydd mewn Ymchwil Gwyddorau Iechyd