Fy ngwlad:

Meysydd Ffocws Ymchwil

Mae ymchwil y Coleg Meddygaeth ac Iechyd yn rhychwantu amrywiaeth o waith ymchwil yn eu holl agweddau i wella iechyd a llesiant. O ran ei gryfderau mae datblygu cyffuriau oncolegol therapiwteg folecwlaidd, ffisioleg afiechydon cardiofasgwlar a chyhyrysgerbydol, niwrowyddoniaeth anhwylderau datblygiadol a chymdeithasol gan gynnwys awtistiaeth a dyslecsia, yn ogystal ag iechyd a pherfformiad pobl mewn amgylcheddau eithafol.

Mae gwaith cyflenwol i fynd i'r afael â heriau iechyd a gwella bywydau pobl yn cynnwys adferiad ar ôl anaf i’r ymennydd ac anafiadau/anhwylderau i’r coesau a’r breichiau, ymyriadau arloesol sy’n seiliedig ar y celfyddydau creadigol, rhaglenni gofal ac ymyriadau ar-lein i ofalwyr anffurfiol, ymyriadau addysgol cynnar yng Nghymru, y Deyrnas Unedig a gwledydd incwm canolig is.

Ymhlith y meysydd rhagoriaeth eraill mae economeg iechyd a chynhyrchion fferyllol. Yn sail i'r gwaith hwnnw mae rhagoriaeth bellach o ran gwerthuso ymyriadau cymhleth, datblygu gwasanaethau, niwrowyddoniaeth wybyddol, dwyieithrwydd a newid ymddygiad yn ogystal â datblygu cyffuriau ocolegol a therapiwteg folecwlaidd.
Mae tri philer craidd yn arwain ein hymdrechion mewn ymchwil, pob un yn faes ffocws hanfodol:

 

Ein Colofnau Ymchwil

Caiff ein hymdrechion mewn ymchwil eu harwain gan dri philer craidd, pob un yn faes ffocws hanfodol:

Ein Colofnau Ymchwil

Caiff ein hymdrechion mewn ymchwil eu harwain gan dri philer craidd, pob un yn faes ffocws hanfodol:

Themâu trawsbynciol

Mae ein hymchwil yn hynod ryngddisgyblaethol ac yn nodedig am ei effaith ar bolisi, darpariaeth y gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol ac ymarfer clinigol.

Mae’r themâu trawsbynciol yn mynegi gweithgarwch ymchwil allweddol sy'n digwydd ledled y Coleg Meddygaeth ac Iechyd

 

Themâu trawsbynciol

Mae ein hymchwil yn hynod ryngddisgyblaethol ac yn nodedig am ei effaith ar bolisi, darpariaeth y gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol ac ymarfer clinigol.

Mae’r themâu trawsbynciol yn mynegi gweithgarwch ymchwil allweddol sy'n digwydd ledled y Coleg Meddygaeth ac Iechyd

 

Rhagoriaeth Ymchwil ar Waith: Golwg Agosach ar y Tair Ysgol

Mae Coleg Meddygaeth ac Iechyd Phrifysgol Bangor yn cynnwys tair ysgol ddeinamig, pob un yn meithrin amgylchedd ymchwil unigryw sy’n sbarduno arloesedd a rhagoriaeth. Mae'r coleg yn dod â gwyddorau biofeddygol, gwyddorau iechyd a gwyddorau ymddygiadol sylfaenol a chymhwysol ynghyd mewn tair Ysgol academaidd:

 

Ym mhob un o'r ysgolion hynny, caiff ymchwil ei reoli a'i gefnogi'n ofalus trwy fframwaith cynhwysfawr. Mae timau ymchwil ymroddedig, cyfleusterau o'r radd flaenaf, a mecanweithiau ariannu cadarn yn cynnig amgylchedd i ymchwilwyr ffynnu a gwneud darganfyddiadau arloesol.

Mae ymrwymiad y Coleg i ragoriaeth ymchwil yn amlwg yn y safle blaenllaw sydd ganddo yn y byd yn Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2021 (REF). Mae’r gamp honno’n dyst i ymroddiad ac arbenigedd ein hymchwilwyr, a hwythau’n gwthio ffiniau gwybodaeth yn gyson ac yn trawsnewid bywydau trwy eu gwaith.

 

Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) 2021

Mae Prifysgol Bangor yn sefydliad ymchwil blaenllaw mewn amrywiol ddisgyblaethau gofal iechyd a gwyddorau dynol. Caiff eu gosod yn gyson ymhlith prifysgolion gorau’r Deyrnas Unedig am allbynnau ei hymchwil. Yn Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) 2021, pennwyd bod ymchwil Bangor mewn Proffesiynau Perthynol i Iechyd, Deintyddiaeth, Nyrsio a Fferylliaeth, Seicoleg, Seiciatreg a Niwrowyddoniaeth, a Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer Corff, Hamdden a Thwristiaeth ‘gyda’r gorau yn y byd’ neu’n ‘rhagorol yn rhyngwladol'. Mae ein hymchwil mewn Proffesiynau Perthynol i Iechyd, Deintyddiaeth, Nyrsio a Fferylliaeth yn safle 15 yn gyffredinol yn y Deyrnas Unedig. Mae’r gwaith yn cefnogi cynlluniau blaengar a gefnogir gan Lywodraeth Cymru i sefydlu Ysgol Feddygol Gogledd Cymru ym Mhrifysgol Bangor erbyn 2024 a fydd yn adeiladu ar ein cryfderau ymchwil yn y gwyddorau dynol ac yn helpu datblygu iechyd a gofal cymdeithasol cynaliadwy at y dyfodol a fydd yn gynaliadwy, yn seiliedig ar le ac yn hybu twf y sector gwyddorau bywyd yn rhanbarthol.

Mae ymchwil Prifysgol Bangor yn y meysydd hynny’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl ledled y byd. Mae ymchwilwyr y brifysgol yn ymrwymo i ganfod atebion arloesol i rai o broblemau iechyd a chymdeithasol mwyaf enbyd y byd. O fewn thema eang Meddygaeth ac Iechyd, fe wnaethom gyflwyno tair Uned Asesu. I ymchwilio i fanylion yr astudiaethau achos a gyflwynwyd ewch i'r adran berthnasol

Gweler Ein Cyhoeddiadau Diweddar

Gweler ein casgliad helaeth o gyhoeddiadau ymchwil i gael gwybod am y datblygiadau diweddaraf mewn meddygaeth ac iechyd. Mae ein hymchwilwyr yn ymroddedig i rannu eu darganfyddiadau arloesol gyda'r byd. Cewch fynediad at eu gwaith yn uniongyrchol trwy ein tudalennau Pure.

Gweler y Cyhoeddiadau Diweddar