Mae effeithiolrwydd ysgogi gwybyddol, dull a ddatblygwyd gan Brifysgol Bangor mewn cydweithrediad â Choleg Prifysgol Llundain, wedi cael ei rofi wrth gynnal gweithrediad gwybyddol ac ansawdd bywyd i gleifion â dementia.
Mae'r ymchwil yn mynd ati i werthuso effeithiolrwydd yr ymyriadau seicolegol i'r cleifion hyn, ac wedi cynhyrchu tystiolaeth o ansawdd tebyg i'r dystiolaeth gan ymyriadau ffarmacolegol. Yn deillio o'r gwaith ymchwil, datblygwyd ymyriad newydd o'r enw Therapi Ysgogi Gwybyddol (Cognitive Stimulation Therapy - CST), gan gynnig rhaglen safonol o sesiynau grwˆp o fewn fframwaith sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn ac ar barch a'u dewis fel unigolion. Mae effeithiolrwydd y therapi hwn wedi cael ei brofi wrth gynnal gweithrediad gwybyddol ac ansawdd bywyd, ac erbyn hyn mae'n cael ei argymell mewn canllawiau ledled y byd fel y prif ymyriad yn seiliedig ar dystiolaeth heb fod yn ffarmacolegol.
Ers 2008, amcangyfrifir bod y therapi wedi helpu dros 50,000 o gleifion a'u gofalwyr ledled y byd i gael ansawdd bywyd gwell. Ar ben hynny, amcangyfrifodd yr NHS Institute for Innovation and Improvement y gallai ehangu'r defnydd o Therapi Ysgogi Gwybyddol arbed dros £54.9m y flwyddyn i'r GIG o gymharu â defnyddio meddyginiaeth gwrth-seicotig.