Mae ein hymchwil yn trawsnewid bywydau miliynau o bobl o gwmpas y byd ac yn gwneud hynny mewn nifer o ffyrdd gwahanol. Mae'r effaith hon yn amrywio o'r bwyd y byddwn yn ei fwyta a'r amgylchedd rydym yn byw ynddo, at iechyd a lles a gwella'r economi a chyfraith gwlad.
Mae ein hymchwil ar 'Ddeallusrwydd Artiffisial Emosiynol' (eAI) wedi datgelu angen dybryd a byd-eang i ystyried agweddau moesegol datblygiad technolegau sy'n mesur ac yn rhyngweithio â chyflyrau affeithiol ac emosiynol.
Mae dementia yn flaenoriaeth fyd-eang o ran iechyd y cyhoedd. Rydym yn arwain ymchwil ryngddisgyblaethol i ofal dementia sy’n canolbwyntio ar ymyriadau celfyddydau gweledol.