Fy ngwlad:

Mwy am Ysgol y Gymraeg

Ysgolheictod

Mae Ysgol y Gymraeg yn un o fil. Ers ei sefydlu fwy na chanrif yn ôl mae wedi gwneud cyfraniad aruthrol i ysgolheictod, llenyddiaeth a diwylliant Cymru. Yn wir, mae llawer o astudiaethau ysgolheigaidd mewn astudiaethau Celtaidd mewn sawl gwlad yn seiliedig ar waith a wnaed ym Mangor.

Graddau sengl neu gyd-anrhydedd

Nid yn unig y mae Ysgol y Gymraeg yn cynnig graddau anrhydedd sengl a chyfun i israddedigion ond hefyd y cyfle i astudio gradd yn y Gymraeg fel ail iaith.

Addysg o'r radd flaenaf

Mae gan Brifysgol Bangor enw da am addysg o safon uchel ac mae nifer o fyfyrwyr yr ysgol yn penderfynu aros ymlaen am gwrs ôl-raddedig.

Gyrfaoedd

Mae nifer o’n graddedigion wedi gwneud eu marc fel darlithwyr, awduron a beirdd ar ôl cael dechrau rhagorol yn Ysgol y Gymraeg.

Traddodiad yr Ysgol

Ni fyddai'n bosib astudio'r Gymraeg fel pwnc academaidd modern oni bai am gyfraniad staff yr Ysgol yn y gorffennol. Ni raid ond crybwyll dau enw i wneud hynny'n glir: Ifor Williams, golygydd Canu AneirinCanu TaliesinCanu Llywarch Hen a Pedeir Keinc y Mabinogi; a Thomas Parry, golygydd Gwaith Dafydd ap Gwilym.

Mae'r un ymrwymiad, wrth ymchwil a'r safonau academaidd uchaf, i'w weld yn y cyfnod diweddar gyda chyfraniad gorchestol i lwyddiant Geiriadur yr Academi, sef y geiriadur Saesneg-Cymraeg helaethaf erioed.

John Morris-Jones oedd y cyntaf i’w benodi’n Athro’r Gymraeg ym Mangor, a hynny yn 1895. Roedd Syr John yn un o'n hysgolheigion pwysicaf a a hefyd yn fardd llwyddiannus. Un o'i fyfyrwyr enwocaf ddechrau'r ugeinfed ganrif oedd Kate Roberts, awdures a orseddwyd yn 'Frenhines ein Llên'.

Gwnaeth Ifor Williams, golygydd Canu Aneirin, Canu Taliesin, Canu Llywarch Hen a Phedair Keinc y Mabinogi, a Thomas Parry, golygydd Gwaith Dafydd ap Gwilym, gyfraniad aruthrol i astudio’r Gymraeg, yn iaith a llenyddiaeth. Gwelir yr un ymrwymiad mewn ymchwil a safonau academaidd yn y blynyddoedd diwethaf yng nghyfraniad Dafydd Glyn Jones i lwyddiant y geiriadur Saesneg-Cymraeg mwyaf cynhwysfawr erioed, sef Geiriadur yr Academi.

Mae'r ffaith fod awduron creadigol fel R. Williams Parry a John Gwilym Jones yn gyn-aelodau o staff yr Ysgol, a Jason Walford Davies, Jerry Hunter, Angharad Price a Gerwyn Wiliams ymhlith ei staff presennol yn arwydd clir o ddau beth sydd wedi cerdded law-yn-llaw yn ei hanes o'r cychwyn cyntaf: ymrwymiad i'r Gymraeg fel disgyblaeth academaidd solat ac fel cyfrwng creadigol byw.

Mae Jason Walford Davies a Gerwyn Wiliams yn Brifeirdd coronog, ac mae Angharad Price a Jerry Hunter ill dau wedi ennill y Fedal Ryddiaith yn ogystal â gwobr Llyfr y Flwyddyn. Yma ym Mangor hefyd y mae Peredur Lynch, y bardd caeth a'r beirniad Eisteddfodol adnabyddus.

(0:00:00 - 0:01: 00) [DIGRIFIAD GWELEDOL] Sgrin ddu a'r teitl "Gradd yn y Gymraeg, Prifysgol Bangor"

(0:01:05 - 0:05:09) [Siaradwr 1:  Arwel Gruffydd, Cyfarwyddwr Artistig Theatr Cymdeithasol Cymru] Dwi yn cofio pan o ni yn fyfyriwr yn
yr adran Gymraeg ym Mangor. Yn ystod

(0:05:09 - 0:09:17) un o'r darlithoedd, y darlithydd yn dweud wrthon ni griw o fyfyrwyr a

(0:09:17 - 0:13:26) Dafydd Glyn Jones oedd a darlithydd. "Mi fyddwch chi ar ôl gadael y coleg

(0:13:26 - 0:17:21) yn ffeindio eich hunain mewn rôl arweiniol yn y bywyd diwylliannol

(0:17:21 - 0:22:16) Gymraeg a thrwy hynny i bob pwrpas mewn sefyllfa i ddylanwadu ar gwrs yr iaith."

(0:22:16 - 0:27:17 ) Wel roedd hyn yn dipyn o sioc i ni i glywed ar y pryd,

(0:28:06 - 0:34:06) ond yn rhyfedd ddigon a ac ar ryw ffurf neu gilydd yn sicr yn yn

(0:28.24 - 0:34.24) ond yn rhyfedd ddigon a ac ar ryw ffurf neu gilydd yn sicr yn yn

(0:34.24 - 0:37.57) achos i a dwi mwyn yma hefyd yn achos fy nghyd fyfyrwyr ar y pryd,

(0:38.77 - 0:43.37) mi ddoth y broffwydoliaeth yn wir.

(0:43.37 - 0:49.24) [Siaradwr 2: Ffion Dafis, Actor Cyfarwyddwr, Awdur] Reit gradd yn y Gymraeg ym Mangor, ond peidiwch â meddwl na dim ond y Mabinogi, hen farddoniaeth a

(0:49.24 - 0:52.51) gramadeg buasech chi yn astudio. Er bod rheina yn grêt hefyd,

(0:52.99 - 0:58.07) Mae 'na fyrdd o fodiwlau yn yr adran o ysgrifennu creadigol i

(0:58.09 -01:01.05) Gymraeg proffesiynol. Fasa yn agor gymaint o ddrysau

(1:01.05 -1:05.23) i chi i gael swydd mewn unrhyw sector yma yng Nghymru.

(1:05.23 - 1:08.77) [Siaradwr 3: Liam Evans, Uwch-Ohebydd, BBC Cymru] Helo Liam dwi, un o ohebwyr BBC Cymru ac yn gyn-fyfyriwr Adran Gymraeg ym

(1:08.77 - 1:12.85) Mhrifysgol Bangor. [Siaradwr 4: Y Prifardd Guto Dafydd, Uwch Swyddog Cydymffurfio Comisiynydd y Gymraeg] Guto Dafydd dwi,  dwi yn Uwch Swyddog Cydymffurfio

(1:12.85 - 1:16.60) efo Comisiynydd y Gymraeg. [Siarwdwr 5: Llio Gwynfor, Cydlynydd Marchnata Canolfan Pontio] Fy enw i ydi Llio Gwynfor a dwi'n

(1:16.60 - 1:17.10)  gweithio fel Cydlynydd Marchnata i Ganolfan Celfyddydau Pontio.

(1:17.10 - 1:25.12) [Siaradwr 6: Mair Rowlands, Prif Weithredwr Undeb Myfyrwyr Prifysgol Bangor] Helo, Mair dwi a wnes i dreulio tair mlynedd yn astudio Cymraeg ym Mhrifysgol Bangor.

(1:25.54 - 1:28.96) [Siaradwr 7: Carys Tudor, Swyddog Marchnata Theatr Genedlaethol Cymru] Fy enw i Carys Tudor, a dwi'n gweithio fel Swyddog Marchnata

(1:28.96 - 1:31.34) gyfer Theatr Genedlaethol Cymru.

(1:31.34 - 1:34.96) [Siaradwr 8 Siôn Elwyn Hughes, Swyddog Dysgu a Datblygu'r Gymraeg Cyngor Gwynedd] Siôn Elwyn Hughes dw'i a dw'i yn Swyddog Dysgu a Datblygu'r Gymraeg yn Nghyngor Gwynedd.

(1:35.71 - 1:40.09) [Siaradwr 9: Sioned Dafydd, Gohebydd Chwaraeon, BBC, S4C, Swans TV Live] Sioned Dafydd ydw'i a fi erbyn hyn yn gweithio yn y byd cyfryngau yn y

(1:40.09 - 1:43.78) maes chwaraeon yn bennaf. [Siaradwr 10: Megan Elias, Swyddog Prosiect i Ddysgwyr, Urdd Gobaith Cymru] Helo Megan o Hen Golwyn dwi

(1:43.78  1:47.17) a dw'i bellach yn gweithio i Urdd Gobaith Cymru fel Swyddog

(1:47.17 - 1:51.43) Prosiect i Ddysgwyr. [Siaradwr 11: Rhiannon Williams, S4C]  Helo fy enw i yw Rhiannon ac ers

(1:51.43 - 1:54.76) Graddio yn y Gymraeg o Brifysgol Bangor fi bellach yn

(1:54.76 - 1:58.03) gweithio i S4C ac yn rhan o'r tîm hyrwyddo rhaglenni.

(1:58.06 - 2:01.00) [Siaradwr 12: Owain Sion, Pennaeth Cynorthwyol, Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf] Mi ydwi erbyn hyn yn Bennaeth Cynorthwyol Yn Ysgol

(2:01.00 - 2:03.61) Gyfun Gymraeg Glantaf yng Nghaerdydd.

(2:03.91 - 2:07.75) [Siaradwr 13: Gwennan Evans, Swyddog Creadigol, BBC Radio Cymru] Helo shwmae, Gwenan Ifans ydw i. Dwi wedi bod yn gweithio i Radio

(2:07.75 - 2:11.35) Cymru ers blynyddoedd erbyn hyn ac yn Swyddog Creadigol ar hyn o

(2:11.35 - 2:14.59) bryd yn creu deunyddiau ar gyfer hyrwyddo'r orsaf.

(2:14.98 - 2:17.26) [Siaradwr 14: Caryl Bryn, Cynhyrchydd Cynnwys Digidol Hansh, Antena] Helo, Carol Bryn dw'i a mi wnes i astudio

(2:17.26 - 2:22.18) BA ac MA Ysgrifennu Creadigol yn Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Bangor,

(2:22.48 - 2:26.08) a faswn i ddim lle dwi heddiw heb yr addysg ar gyfeillgarwch.

(2:26.08 - 2:27.88) geshi yn yr ysgol honno.

(2:27.88 - 2:35.38) [Siaradwr 2] Mae o yn goleg hyfryd, mae hi'n adran gefnogol ac yn sail gadarn iawn i eich dyfodol chi.

(2:35.68 - 2:38.89) [Siaradwr 1] Dwi yn falch iawn mod i di mynd i Brifysgol Bangor i astudio Cymraeg

(2:38.89 - 2:43.81) mae o wedi bod yn sail da i yrfa. Mi ges i yr sgiliau i ymchwilio

(2:43.81 - 2:47.69) ac i fynegi fy hun ar bapur. Geshi'r ddisgyblaeth i weithio

(2:47.69 - 2:51.37) yn galed a meddwl yn annibynnol yn mynd i waelod pethau,

(2:51.76 - 2:55.15) ac fe ges i hefyd ddealltwriaeth o le'r Gymraeg o fewn hanes,

(2:55.18 - 3:00.06) gwleidyddiaeth a chymdeithas Cymru. [Siaradwr 15: Euros Jones, Swyddog Gweinyddol, Undeb Amaethwyr Cymru]  Ond mae Gymraeg yn allweddol yn

(3:00.07 - 3:02.68) bydd gwaith heddiw. Dwi bellach yn gweithio yn y

(3:02.68 - 3:06.19) diwydiant amaeth a mae'r Gymraeg yn rhan allweddol o'r swydd.

(3:07.18 - 3:12.16) [Siaradwr 9]  Mae gradd yn y Gymraeg wedi bod yn hollol amhrisiadwy i fy ngyrfa i o ran fi wedi

(3:12.16  3:16.63) cael dwbl y cyfleoedd, yn enwedig cyfleoedd i gyflwyno a gohebu.

(3:16.63 - 3:22.66) [Siaradwr 1] Mae gradd yn y Gymraeg wedi rhoid rhyw sylfaen arbennig i mi ag yn fy

(3:22.66 - 3:28.24) nghynorthwyo i hyd heddiw ac yn rhoi'r hyder i mi rwan i wneud y swydd

(3:28.78 - 3:32.20) ydw i n ffeindio fy hun ynddi hi ar hyn o bryd.

(3:32.71 - 3:35.68) [Siaradwr 3] Mae gradd yn y Gymraeg yn cynnig gymaint o gyfleoedd ac yn cynnig

(3:35.68 - 3:38.17) llwybr gyrfa i gymaint o feysydd gwahanol.

(3:38.17 - 3:42.70) Mae'r radd yn dysgu chi sut i ymchwilio, sut i ysgrifennu, sut i fynegi'ch hun yn

(3:42.70 - 3:46.42) glir ac yn sicr heb y sgiliau hynny - faswn i heb gyrraedd lle dwi ar

(3:46.42 - 3:49.42) hyn o bryd. [Siaradwr 10] Mae gradd yn Gymraeg wedi rhoi sglein i fi allu

(3:49.42 - 3:53.32) cael swydd efo Cyllid Myfyrwyr Cymru a wedyn yr Urdd lle dw'i wedi

(3:53.32 - 3:57.46) cael cyfle i fynd i Croasia i Gynhadledd Ieithoedd Lleiafrifol yn

(3:57.46 - 4:01.63) Ewrop.  [Siaradwr 6] Mae'n ddifyr a mae'r sgiliau nes i datblygu drwy astudio ar Gymraeg;

(4:01.63 - 4:06.49) meddwl yn ddadansoddol, sgwennu a mynegi fy hun yn huawdl wedi gosod

(4:06.52 - 4:11.17) sylfaen gadarn imi yn fy ngyrfa. [Siaradwr 7] Dwi wir yn credu bod gradd yn y Gymraeg

(4:11.17 - 4:16.21) wedi helpu i roi sail i i fy ngyrfa i yn y celfyddydau.

(4:16.90 - 4:20.25) [Siaradwr 13] Dw'i hefyd wedi cael cyfle i gario mlaen i ysgrifennu'n greadigol,

(4:20.26 - 4:24.49) wedi cyhoeddi nofel i oedolion, nofel i blant a dw'i ar fin cyhoeddi

(4:24.49 - 4:28.84) llyfr i blant bach hefyd a wedi parhau i farddoni. Oeddwn i wrth y modd

(4:28.84 - 4:32.47) ym Mhrifysgol Bangor a mae'r sgiliau wnes i ddysgu yn Ysgol y

(4:32.47 - 4:35.44) Gymraeg wedi bod yn berthnasol i fi ar hyd y daith yn sicr.

(4:36.39 - 4:41.23) [Siaradwr 12] Fe wnes i wir fwynhau y cwrs gradd ym Mangor a cael

(4:41.23 - 4:44.67) dewis y darnau hynny

(4:44.67 - 4:47.22) oedd o ddiddordeb imi mewn gwirionedd.

(4:47.22 - 4:49.80) Dwi'n deffro bob dydd ac yn gwneud rhywbeth gwahanol, pethau o fewn

(4:49.84 - 4:54.01) y wasg, o fewn marchnata, sgwennu yn greadigol a golygu hefyd.

(4:54.01 - 4:59.05) Mae bob dydd yn wahanol ers gadael yr adran a diolch i'r Addysg

(4:59.08 - 5:03.46) geshi yn Adran y Gymraeg ydi hynna. [Siaradwr 3] Yn academaidd ac yn ddiwylliannol

(5:03.46 - 5:06.79) wnaeth y cwrs rhoi gymaint o gyfleoedd i mi ar posibiliadau yn

(5:06.79 - 5:13.69) ddibendraw. [Siaradwr 12] Fyswn i'n annog pawb i fynd i Fangor i wneud neu ddilyn gradd yn y

(5:13.69 - 5:19.81) Gymraeg. [Siaradwr 15] Da chi, dewisiwch yn ddoeth. Dewiswch astudio Gymraeg ym

(5:19.81 - 5:23.65) Mhrifysgol Bangor. [Siaradwr 1] Yna ystyriwch da chi, radd yn y

(5:23.65 - 5:30.34) Gymraeg. Yn ddios, dyna un o r penderfyniadau callaf

(5:30.34 - 5:34.09) nes i erioed. [Siaradwr 2] Fues i yna a gefais i lot fawr o hwyl a dwi'n

(5:34.09 - 5:36.25) gwybod y bysa chithau hefyd. Ewch amdani!
 

Pam Astudio yma?

Myfyrwyr yn gweithio mewn grŵp yn un o stafelloedd darllen traddodiadol y Brifysgol, yn y Prif Adeilad

Pam astudio yma? Hanes a Diwylliant

Mae gradd yn y Gymraeg yn rhoi cyfle ichi astudio un o ieithoedd hynaf Ewrop a'i llenyddiaeth sy'n estyn yn ôl i'r chweched ganrif. Cewch gyfle i ddysgu mwy am draddodiad barddol cyfoethog Cymru a rhai o uchafbwyntiau'n traddodiad rhyddiaith.

John Morris-Jones oedd Athro cyntaf y Gymraeg ym Mangor, un o'n hysgolheigion pwysicaf a bardd llwyddiannus yn ogystal. Un o'i fyfyrwyr enwocaf ddechrau'r ugeinfed ganrif oedd Kate Roberts, awdures a orseddwyd yn Frenhines ein Llên.

Myfyrwyr yn eu cap a gwn tu allan i Prif Adeilad y Celfyddydau yn ystod wythnos graddio

Pam astudio yma? Cyn-fyfyrwyr

Yn ystod eich amser yn yr Adran cewch gyfle i astudio gwaith nifer o gyn-fyfyrwyr eraill yr Ysgoll, rhai o lenorion amlycaf yr ugeinfed ganrif a'r unfed ganrif ar hugain

  • Islwyn Ffowc Elis, awdur Cysgod y Cryman, llyfr a enwyd yn Llyfr y Ganrif yn 1999
  • Eigra Lewis Roberts, yr awdures doreithiog sydd wedi ennill y Fedal Ryddiaith ddwywaith ac a enillodd y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol Abertawe yn 2006
  • Angharad Tomos, awdures nofelau ysgytiol fel Yma o Hyd a Si Hei Lwli ac enillydd dwy Fedal Ryddiaith
  • Sonia Edwards, yr awdures o Fôn a enillodd y Fedal Ryddiaith yn 1999
  • R. Williams Parry, Bardd yr Haf ac un o feirdd mwyaf y Gymraeg
  • Gwyn Thomas, Bardd Cenedlaethol Cymru ac un o feirdd mwyaf cynhyrchiol a dylanwadol ail hanner yr ugeinfed ganrif
Image of Alumni Reunion at the National Eisteddfod

Pam astudio yma? Cyn-fyfyrwyr

  • Alan Llwyd, Prifardd y Gadair a'r Goron yn 1973 a 1976, ac awdur sgript y ffilm Hedd Wyn a enwebwyd am Oscar
  • Nesta Wyn Jones, bardd telynegol tyner a gyhoeddodd bedwar casgliad o gerddi
  • Einir Jones, bardd delweddol llachar a enillodd y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol yr Wyddgrug yn 1991
  • Tudur Dylan Jones, un o aelodau blaenllaw y to presennol o feirdd cynganeddol a Phrifardd y Gadair yn 1995 a 2005
  • John Gwilym Jones, dramodydd, nofelydd,awdur strorïau byrion a beirniad mawr ei ddylanwad
  • William R. Lewis, y dramodydd o Fôn a gomisiynwyd i ysgrifennu dwy ddrama gomisiwn ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol
  • Dewi Wyn Williams, dramodydd llwyddiannus Leni ar gyfer y llwyfan ac amryw withiau ar gyfer y teledu
  • Aled Jones Williams, y dramodydd a'r awdur ffuglen a enillodd Goron Eisteddfod Genedlaethol Sir Benfro yn 2002
REF 2021 Case Study - Creative Writing, Translation and Cross-Cultural Understanding: Placing Wales in the World. 

Pam astudio yma? Disgyblaeth Academaidd

Mae'r ffaith fod awduron creadigol fel R. Williams Parry, John Gwilym Jones a Gwyn Thomas yn gyn-aelodau o'i staff ac Angharad Price, Jason Walford Davies, William R. Lewis a Gerwyn Wiliams ymhlith ei staff presennol yn arwydd clir o ymrwymiad Adran y Gymraeg fel disgyblaeth academaidd solat ac fel cyfrwng creadigol byw.

Student Support video

Pam astudio yma? Cefnogaeth i fyfyrwyr

Rhown bwys mawr fel Ysgol ar ofalu am fuddiannau ein myfyrwyr. Cewch Diwtor Personol a fydd ar gael i'ch cynorthwyo ar faterion yn ymwneud â’ch cynnydd academaidd a'ch lles personol. Yn ogystal, er mwyn ei gwneud hi'n haws ichi setlo yn ystod eich semester cyntaf, rhoddir Arweinydd Cyfoedion i bob glasfyfyriwr.

Bydd y myfyriwr o'r ail neu'r drydedd flwyddyn yn gallu rhoi cyngor ymarferol ichi am faterion yn ymwneud â bywyd myfyriwr nodweddiadol.

myfyrwraig yn chwerthin

Pam astudio yma? Bywyd Myfyrwyr

Rheswm arall dros astudio ym Mangor yw ansawdd bywyd uchel ein myfyrwyr. Rydym yn gwarantu llety mewn neuadd breswyl ar gyfer ein holl fyfyrwyr blwyddyn gyntaf. Y neuadd enwocaf ar gyfer myfyrwyr Cymraeg yw Neuadd John Morris- Jones, cartref i genedlaethau o fyfyrwyr Cymraeg ym Mangor am flynyddoedd lawer.

Mae dewis helaeth o weithgareddau cymdeithasol a diwylliannol ar gael yn yr ardal. A chan fod dinas Bangor wedi ei lleoli ar lannau'r Fenai ac nid nepell o'r Wyddfa a'i chriw, dyma'n sicr un o'r lleoliadau harddaf a gewch chi yn unman ar gyfer prifysgol.

Myfyrwyr hŷn

Mae rhai o'n myfyrwyr gorau yn ystod y blynyddoedd diwethaf wedi bod yn fyfyrwyr hŷn. Gan ei fod yn cyfeirio at unrhyw un dros 21 oed, mae'r categori 'myfyrwyr hŷn' yn un eang iawn ac mae hi felly’n anodd sôn am fyfyriwr hŷn nodweddiadol.

Efallai y byddwch yn eich dauddegau ac wedi gadael yr ysgol ar ôl gwneud eich lefel 'O', TGAU neu lefel 'A'/'AS' ac, ar ôl cyfnod yn dilyn rhyw lwybr arall, yn dymuno ailymuno â'r byd addysg ...

Efallai y byddwch yn eich tridegau neu'ch pedwardegau ac yn dymuno newid cyfeiriad eich gyrfa ...

Efallai y byddwch yn eich pumdegau ac wedi ymddeol, ond yn dymuno gwireddu hen freuddwyd drwy ddilyn cwrs gradd yn y Gymraeg.

Pa mor anghonfensiynol bynnag yw'ch cefndir yn eich tyb chi, pa mor brin bynnag eich cymwysterau addysg ffurfiol, a pha faint bynnag o amser a aeth heibio ers ichi fod mewn sefydliad addysgol ddiwethaf, byddai'n dda gennym glywed gennych.

A chofiwch nad oes raid cofrestru ar gyfer cynllun gradd llawn-amser: mae dilyn cynllun yn rhan-amser yn aml yn rhoi cyfle ichi ailgyfarwyddo â chwrs addysg wrth eich pwysau. 

Mae’r system yn ddigon hyblyg ac yn caniatáu nifer o amrywiadau, e.e. cychwyn yn rhan-amser a symud yn ddiweddarach – wrth i’ch hyder gynyddu neu i’ch amgylchiadau personol neu broffesiynol newid – i ddilyn cynllun yn llawn-amser.

Dewch i gysylltiad â ni er mwyn gallu trafod y posibiladau!