Sut brofiad yw ymchwil ôl-raddedig ym Mangor?
Mae'r meddylfryd o ennill gradd uwch drwy ymchwil wedi cael ei weld fel rhoi cyfle i wneud cyfraniad gwreiddiol i ymchwil ac ysgolheictod trwy raglen o hyfforddiant ymchwil sy'n arsylwi safonau deallusol trwyadl.
Ond bellach, mae’r ddelfryd hon yn cael ei gweld mewn termau ehangach: mewn rhai disgyblaethau academaidd, mae ymchwil ôl-raddedig yn cynnig y cyfle i wella a datblygu rhinweddau fel:
- gallu artistig creadigol
- meddwl yn feirniadol
- cyfrifoldeb proffesiynol
- sgil trefniadol
- hyfedredd mewn cyfathrebu llafar ac ysgrifenedig
Mae hyfforddiant trylwyr yn y broses o ymchwilio a chaffael sgiliau trosglwyddadwy a rhyngbersonol hefyd yn cael ei gynnig. Mewn disgyblaethau academaidd eraill, nod ymchwil wyddonol yw cynyddu dealltwriaeth o'r byd naturiol gan ddefnyddio methodolegau, y gellir eu diffinio fel profi damcaniaethau trwy arsylwi neu arbrofi.
Dogfennau Allweddol
Gwybodaeth hanfodol i'ch helpu drwy eich cyfnod fel ymchwilydd ôl-raddedig yn cynnwys:
- Rheoliadau ar gyfer Rhaglenni Ymchwil Ôl-raddedig
- Llawlyfr i Ymchwilwyr a Goruchwylwyr Ôl-raddedig
Newyddion
Gweld Mwy-
19 Rhagfyr 2024
Archifau Prifysgol Bangor ac ISWE yn ennill grant gan Lywodraeth Cymru i Ddigideiddio Papurau Jamaica Ystad y Penrhyn
-
12 Rhagfyr 2024
Biobotiau - cefnogi amaeth-goedwigaeth a lleihau gwastraff plastig untro yn nwyrain Affrica
-
4 Rhagfyr 2024
Wales plans a tourism tax from 2027 – what it means for visitors and communities
-
3 Rhagfyr 2024
How we found a long-lost first world war vessel beneath Irish waters
Yr Amgylchedd Ymchwil
Mae ymchwilwyr ôl-raddedig llwyddiannus yn hunanddibynnol, yn drefnus ac yn gallu defnyddio amrywiaeth o adnoddau mewnol. Mae'r amgylchedd deallusol o bwysigrwydd arbennig, sy'n deillio o bresenoldeb cymuned ôl-raddedig a chyfranogiad gweithredol gwych gan staff. Yn ogystal, gall ymchwilwyr ôl-raddedig ddysgu llawer yn ystod gwaith arbrofol neu arsylwi gan eu goruchwylwyr.
Mae'n bwysig i ymchwilwyr ôl-raddedig ddatblygu perthynas dda gyda eu goruchwyliwr. Gall nhw fod yn oruchwylydd ffurfiol neu'n aelod arall o bwyllgor goruchwylio. Dylai'r berthynas nid yn unig gynnwys arweiniad cychwynnol a chyngor diweddarach, ond gall hefyd alluogi ymchwilydd ôl-raddedig i gael mynediad at adnoddau ymchwil prin. Gall hyn ddigwydd trwy gyllid a ddarperir i staff mewn rhaglenni grant ymchwil cenedlaethol a rhyngwladol. Lle bo'n briodol, bydd goruchwylwyr yn cyflwyno eu hymchwilwyr ôl-raddedig i staff technegol, gweinyddol ac archifol, sy'n gallu darparu cymorth gyda phrosiect. Wrth gwrs, bydd ansawdd y cymorth hwn yn cael ei gyfoethogi trwy gael perthynas waith dda gyda'r staff hyn.
Hyfforddiant a Datblygiad
Mae'r Ysgol Ddoethurol yn darparu amrywiaeth o gyfleoedd hyfforddi a datblygu i ymchwilwyr ôl-raddedig ag goruchwylwyr.
Mae copi o raglen hyfforddi a datblygu ar gael yn y ddolen isod. Bydd angen i chi gofrestru ar-lein gyda'ch cymwysterau Prifysgol Bangor er mwyn mynychu'r gweithdai. Bydd manylion y lleoliad a sut i fewngofnodi ar gyfer y gweithdai yn cael eu e-bostio yn nes at y dyddiad ar ôl i chi gofrestru.
Mae modd gweld deunyddiau hyfforddi a fideos Panopto ar dudalen Blackboard yr Ysgol Ddoethurol.
Gweithdai Hyfforddi a Datblygu
Fideos i gefnogi ymgeiswyr doethurol Gwyl
Dyma fideos (ar gael i ymgeiswyr presennol a staff) er mwyn helpu i roi cefnogaeth a datblygu sgiliau, sydd yn trafod pyniau fel:
- Gwella sgiliau cyflwyno
- Gwella'r gyfradd cymhwyster
- Deall rôl y goruchwyliwr
- Addasu i ddiwylliant academaidd y DU (ar gyfer ymgeiswyr rhynglwadol)
Yr Ysgol Ddoethurol, Prifysgol Bangor, Bangor, Gwynedd, LL57 2DG.