Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Cwrs 'seicoleg bur' yw hwn a wnaiff roi dealltwriaeth wyddonol i chi o'r prosesau sylfaenol sy'n fodd i ni ddysgu, meddwl, teimlo ac addasu i'n hamgylchiadau cymdeithasol. Mae'r cwrs yn ymdrin ag ymchwilio i ymddygiad o fabandod hyd henaint, ac mae'n ymdrin â'r ffactorau biolegol, cymdeithasol ac unigol sy'n effeithio ar seicoleg ddynol. Mae'r cwrs yn cynnig y dewis ehangaf posibl o fodiwlau yn y drydedd flwyddyn sy'n eich galluogi i deilwra'ch astudiaethau wrth i'ch diddordebau ddatblygu.
Ar y cwrs Seicoleg BSc yma caiff eich gorwelion eu hehangu drwy ichi ddysgu am yr holl feysydd cyffrous ac amrywiol sydd gan radd seicoleg i'w cynnig. Byddwch yn dysgu am ddatblygiad dynol gydol oes a'r myrdd o ddylanwadau ar bobl o'u bioleg a'u ffisioleg i sut mae rhianta a chymdeithasu yn dylanwadu arnom. Byddwch yn dysgu nid yn unig am gymhlethdodau'r hyn sy'n gyrru bodau dynol a sut y gallwn ymwneud ag amgylchiadau mewnol ac allanol mor gymhleth, ond hefyd am fecaneg ac effeithiau'r hyn sy'n digwydd pan fydd y systemau cymhleth hyn yn diffygio.
Byddwch hefyd yn dysgu o ystod eang o fodiwlau am rai o'r offer y mae seicolegwyr yn eu defnyddio i gefnogi a deall ymddygiad dynol. Yn wir, cewch ddefnyddio offer ymchwil cyffrous i ddeall gweithgarwch yr ymennydd, datblygu ymyriadau i bobl mewn trallod, a chael llawer o gyfleoedd eraill i ddatblygu i fod yn seicolegydd gwybodus mewn sawl maes. Bydd y radd hon yn rhoi sylfaen eang i chi mewn seicoleg y gallwch ei theilwra i'ch diddordebau eich hun. Bydd hefyd yn darparu sylfaen gadarn i chi fentro i nifer amrywiol o gyfleoedd gyrfa.
Sefydlwyd yr adran seicoleg ym Mhrifysgol Bangor ym 1963 ac mae'n un o adrannau seicoleg hynaf a mwyaf y Deyrnas Unedig. Rydym yn rheolaidd ymhlith y 10 ysgol orau yn yr Arolwg Myfyrwyr Cenedlaethol ar gyfer boddhad myfyrwyr yn gyffredinol a chyda dros 1,000 o fyfyrwyr rydym hefyd yn un o'r adrannau mwyaf yn y Deyrnas Unedig. Rydym ni nid yn unig yn uchel ein parch am ein haddysgu, ond mae gennym ni enw da yn fyd-eang hefyd am ansawdd ein hymchwil. Yn y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil mwyaf diweddar, roedd 85% o'n hymchwil yn cael ei ystyried yn 'rhagorol yn rhyngwladol' neu 'gyda'r gorau yn y byd'. Mae'r ymchwil hon yn cyfrannu’n uniongyrchol at ein haddysgu gan sicrhau profiad dysgu ffres, bywiog ac ystod fawr ac amrywiol o fodiwlau a astudir gydag academyddion sydd ag enw da yn rhyngwladol yn eu maes arbenigol.
Mae gennym ni naws gosmopolitaidd a rhagolwg byd-eang sy'n denu staff a myfyrwyr o bob cwr o'r byd i weithio ac astudio gyda ni. Agwedd allweddol ar ein llwyddiant yw ein pwyslais ar agweddau academaidd a bugeiliol o brofiad y myfyriwr. Caiff yr ymdrech hon ei harwain gan academyddion yn y tîm addysgu sy'n darparu cefnogaeth sylweddol i'n myfyrwyr. Mae hyn i gyd yn cyfuno i ddarparu amgylchedd unigryw cefnogol, cyffrous a boddhaus i chi astudio Seicoleg ynddo.
Pam dewis Prifysgol Bangor ar gyfer y cwrs?
- Labordai ymchwil arbenigol gan gynnwys sganiwr Delweddu Cyseinedd Magnetig (MRI), Ysgogi Trawsgreuanol Magnetig (TMS), Potensial Digwyddiad-berthynol (ERP), Electroenceffalograffeg (EEG) a labordy Anatomeg yr Ymennydd.
- Mae'r profiadau dysgu unigryw presennol yn cynnwys anatomeg ymarferol yr ymennydd dynol, 'darlithoedd ar ffurf gêm' a modiwl seicoleg bositif a fydd yn eich cael i redeg!
Opsiynau Cwrs Ychwanegol
Mae'r cwrs hwn ar gael fel opsiwn 'gyda Blwyddyn ar Leoliad' lle byddwch yn astudio am flwyddyn ychwanegol. Mae'r myfyrwyr yn gwneud y Flwyddyn ar Leoliad ar ddiwedd yr ail flwyddyn ac maent i ffwrdd o'r Brifysgol am y flwyddyn academaidd gyfan.
Mae Blwyddyn ar Leoliad yn gyfle gwych i chi ehangu eich gorwelion a datblygu sgiliau a chysylltiadau hynod ddefnyddiol trwy weithio gyda sefydliad sy'n berthnasol i bwnc eich gradd. Y cyfnod lleiaf ar leoliad (mewn un lleoliad neu fwy nag un lleoliad) yw saith mis calendr; fel rheol mae myfyrwyr yn treulio 10-12 mis gyda darparwr lleoliad. Byddwch fel rheol yn dechrau rywbryd yn y cyfnod rhwng mis Mehefin a mis Medi yn eich ail flwyddyn ac yn gorffen rhwng mis Mehefin a mis Medi y flwyddyn ganlynol. Gall y lleoliad fod yn y Deyrnas Unedig neu dramor a byddwch yn gweithio gyda'r staff i gynllunio a chwblhau trefniadau eich lleoliad.
Bydd disgwyl i chi ddod o hyd i leoliad sy'n addas i'ch gradd, a'i drefnu, ac mi gewch chi gefnogaeth lawn gan aelod pwrpasol o staff eich Ysgol academaidd a Gwasanaeth Sgiliau a Chyflogadwyedd y Brifysgol.
Bydd gennych y cyfle i ystyried yr opsiwn hwn yn llawn ar ôl cychwyn eich cwrs ym Mangor a gallwch wneud cais i drosglwyddo i'r opsiwn hwn ar yr adeg priodol. Darllenwch fwy am y cyfleoedd profiad gwaith sydd ar gael neu, os oes gennych unrhyw ymholiad, mae croeso i chi gysylltu â ni.
Mae'r cwrs hwn ar gael fel opsiwn 'gyda Blwyddyn Profiad Rhyngwladol' lle byddwch yn astudio neu'n gweithio am flwyddyn yn ychwanegol. Bydd ‘gyda Phrofiad Rhyngwladol’ yn cael ei ychwanegu at deitl eich gradd pan fyddwch yn graddio.
Mae astudio dramor yn gyfle gwych i weld ffordd wahanol o fyw, i ddysgu am ddiwylliannau newydd ac ehangu eich gorwelion. Gyda phrofiad rhyngwladol o’r fath, rydych yn gwneud byd o les i’ch gyrfa. Mae yna ddewis eang o leoliadau a phrifysgolion sy'n bartneriaid. Os ydych yn bwriadu astudio mewn gwlad lle nad yw’r Saesneg yn cael ei siarad fel iaith frodorol, efallai y bydd cefnogaeth iaith ychwanegol ar gael i chi ym Mangor neu yn y brifysgol yn y wlad arall i wella'ch sgililau iaith.
Bydd gennych y cyfle i ystyried yr opsiwn hwn yn llawn ar unrhyw adeg yn ystod eich gradd ym Mangor a gallwch wneud cais. Os oes gennych unrhyw ymholiad yn y cyfamser, mae croeso i chi gysylltu â ni.
Darllenwch fwy am y rhaglen Blwyddyn Profiad Rhyngwladol a chymrwch olwg ar yr opsiynau astudio neu weithio dramor sydd ar gael yn adran Cyfnewidiadau Myfyrwyr o’r wefan.