Beth yw Rhyddid Gwybodaeth?
Mae'r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth yn rhoi hawl mynediad at holl wybodaeth gofnodedig a gedwir gan awdurdodau cyhoeddus. Yn amodol ar rhai eithriadau gall unrhyw un sy'n gwneud cais am wybodaeth i'r Brifysgol gael gwybod o fewn 20 diwrnod gwaith os yw'r wybodaeth ar gael, a hefyd cael copi o'r wybodaeth (yn amodol ar unrhyw eithriadau).
Mae'r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth yn debyg i'r Ddeddf Gwarchod Data 1998 sy'n rhoi hawl mynediad i unigolion i wybodaeth bersonol arnynt eu hunain a gedwir gan y Brifsygol.
Gall y Brifysgol benderfynu fod peth o'r wybodaeth yn eithriedig. Pan dderbynir cais am wybodaeth sy'n cynnwys gwybodaeth eithriedig bydd y Brifysgol yn cysidro:-
a) Prawf Rhagfarn: Gellir defnyddio rhai eithriadau yn unig pan y byddai rhyddhau'r wybodaeth yn debygol o achosi rhagfarn, a
b) Prawf Lles y Cyhoedd:A ydyw lles y cyhoedd yn cael ei ddiogelu’n fwy trwy gadw at yr eithriad dan sylw yn hytrach na datgelu’r wybodaeth i’r sawl sy’n gwneud cais amdani ?
Mae 23 ethiriad o fewn y Ddeddf, rhai lle mae'r prawf lles y cyhoedd yn berthnasol, eraill sy'n absoliwt. Ceir rhestr llawn o'r eithriadau yma.
Ceir gwybodaeth bellach ar y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 ar dudalennau gwe'r Comisiynydd Gwybodaeth. Cliciwch yma.