Rhoi sylw i ... Nathan Gregory
Pryd wnaethoch chi gymhwyso?
Mi wnes i gymhwyso fel nyrs oedolion ym Medi 2017.
Lle rydych chi'n gweithio?
Rydw i’n gweithio ar ward lawfeddygol clust trwyn a gwddf/fasgwlar mewn ysbyty aciwt ar hyn o bryd.
Ydych chi'n ei fwynhau?
Rydw i wir wrth fy modd gyda fy ngwaith ar hyn o bryd ac er fy mod ond wedi bod yno ers ychydig fisoedd, rwy'n gwybod mai dyma'r swydd rwyf eisiau ei gwneud, yn enwedig am y dyfodol agos.
Beth oedd yr her fwyaf ers cymhwyso?
Mae’n rhaid mai'r newid o fod yn fyfyriwr nyrsio i nyrs staff. Mae hwn yn gyfnod arbennig o anodd lle mae'r hyn y mae aelodau eraill o'r tîm a chleifion yn ei ddisgwyl gennych yn newid yn llwyr. Nid ydych yn fyfyriwr bellach lle mae bron â bod disgwyl i chi wneud camgymeriadau neu o leiaf cewch faddeuant, ond mae disgwyl i chi yn awr wybod eich pethau ac ymarfer yn effeithiol. Mae cefnogaeth gan y ward a'r tîm wedi bod yn wych ac nid wyf wedi teimlo dan bwysau na gweithio tu hwnt i'm gallu o gwbl.
Beth ydych chi’n ei fwynhau am fod yn nyrs cymwysedig?
Rydw i'n wir mwynhau pa mor heriol yw'r gwaith. Rwyf yn mwynhau'r cyfrifoldeb a pharch y proffesiwn. Rydw i hefyd yn mwynhau'r holl heriau newydd y mae'n rhaid i nyrs staff eu hwynebu bob dydd. Mae fy rôl bresennol yn cynnwys rhoi gorchuddion ar glwyfau sy'n rhy waedlyd i rai pobl ond rwy'n ei fwynhau.
Sut brofiad oedd bod yn fyfyriwr nyrsio?
Mi wnes i fwynhau fy nghyfnod fel myfyriwr nyrsio gan ei fod wedi cynnig llawer o heriau a phrofiadau mewn lleoliadau gofal iechyd a'r proffesiwn clinigol. Roeddwn hefyd wedi gwneud ffrindiau da yn ystod yr hyfforddiant tair mlynedd.
Pam wnaethoch chi benderfynu ddilyn gyrfa mewn nyrsio?
Roeddwn bob amser eisiau gweithio mewn lleoliad gofal iechyd, treuliais lawer o amser yn yr ysbyty gyda fy nain pan oeddwn i'n blentyn felly roeddwn yn gyfarwydd â thu mewn ysbyty. Pan oeddwn yn ddeg oed, torrais fy nghoes yn Llundain a bu raid i mi dreulio ychydig o ddiwrnodau yn yr ysbyty. Rwyf bob amser wedi credu bod nyrsio yn waith gwerthfawr a gwych lle nad oes unrhyw ddiwrnod yr un fath!
Beth yw eich uchelgais o ran gyrfa?
Hoffwn arbenigo mewn maes penodol yn nyrsio, ond nid wyf yn siŵr pa faes eto! Efallai nyrsio argyfwng neu ofalu am glwyfau. Hoffwn addysgu nyrsys newydd yn y dyfodol hefyd.
Beth fyddech chi'n ei ddweud wrth fyfyrwyr nyrsio sy'n cael trafferth i ymdopi?
Gwnewch y gorau o'ch hyfforddiant, bydd yn dod i ben a byddwch yn gweld ei eisiau pan fyddwch wedi'ch cymhwyso.
Beth ydych chi'n ei wneud i ymlacio pan nad ydych chi'n gweithio?
Rwy'n mwynhau treulio amser gyda fy nghariad a mynd i'r gampfa.
Beth oedd yr uchafbwynt yn eich gyrfa nyrsio hyd yma?
Graddio. Ar ôl sawl blwyddyn yn y coleg a'r brifysgol a rhai pobl yn amau fy ngallu, a hyd yn oed amau fy hun ar adegau, llwyddais i gymhwyso fel nyrs gofrestredig. Mae'n gwneud i mi deimlo'n falch iawn.