Rhoi sylw i..
Rhoi sylw i ... Stephen Prydderch
O ble rwyt ti'n dod?
Euthum i Ysgol Uwchradd Castell Alun yn yr Hob, a byw ym mhentref cyfagos Caergwrle nes imi gwblhau fy arholiadau lefel A.
Ar ôl gadael yr ysgol uwchradd, symudais i Birmingham, lle bûm yn gweithio i gwmni a oedd yn cefnogi carcharorion i baratoi ar gyfer gwaith. Pan oeddwn tua 20 oed, gadewais y gwaith ac euthum yn ôl i'r coleg i ail-wneud fy arholiadau lefel A.
Pryd wnaethoch chi gymhwyso fel nyrs?
I ddechrau, roeddwn am astudio deintyddiaeth, ond ar ôl un profiad arbennig o fod yn glaf yn yr ysbyty, cefais fy ysbrydoli'n llwyr. Cofiaf yn glir iawn y gofal arbennig a roddwyd gan un nyrs. Sylw'r nyrs hwnnw at dosturi, a'i allu rhagorol i ofalu amdanaf, a newidiodd fy meddwl yn llwyr.
Dechreuais yn falch iawn ar fy nhaith fel myfyriwr nyrsio oedolion yn 2006, pan ddechreuais astudio yn Ysgol Nyrsio Prifysgol Bangor, yn Wrecsam. Roeddynt yn rhai o flynyddoedd gorau fy mywyd.
Sut brofiad oedd bod yn fyfyriwr nyrsio?
Gwnaeth pawb fy ysbrydoli a buddsoddi rhywbeth ynof, sydd wedi fy helpu i gyrraedd y sefyllfa yr wyf ynddi heddiw. Fe helpodd darlithoedd y Brifysgol fi i gael mwy o ymdeimlad o hunangred, ac i weithio'n galetach. Er bod llawer wedi newid ers i mi fod yn fyfyriwr nyrsio, rwy'n dal i gredu bod y staff ym Mhrifysgol Bangor yn buddsoddi cefnogaeth enfawr yn eu myfyrwyr, ac rwy'n sicr yn ceisio efelychu fy nghydweithwyr drwy sicrhau y gallaf barhau i gynnig hynny.
A oedd llawer o fyfyrwyr gwrywaidd eraill pan oeddech yn astudio?
Fe wnes i rannu fy mlwyddyn gyntaf gyda myfyrwyr nyrsio Iechyd Meddwl ac Anabledd Dysgu. Cawsom ein haddysgu gyda'n gilydd am y flwyddyn gyntaf i gyd, felly roedd sawl myfyriwr gwrywaidd arall yn y dosbarth. Ond pan gyrhaeddodd blwyddyn dau a ninnau wedi'n gwahanu i'n meysydd nyrsio, gadawodd hynny ddim ond fi yn fy ngharfan nyrsio oedolion.
Pam wyt ti'n credu bod y gagendor rhwng nyrsys gwrywaidd a benywaidd mor fawr?
Tra bo nyrsio'n parhau i ddenu gweithlu sy'n bennaf yn fenywod, a bod rhai'n parhau i feddwl am nyrsio fel 'gwaith merched', a nyrsys gwrywaidd fel dynion hoyw, neu ein bod yn parhau i ddefnyddio teitlau sy'n gysylltiedig â merched fel 'sister' neu fetron, bydd yn parhau'n her inni chwalu'r camdybiaethau a stereoteipiau sy'n rhwystro rhai dynion rhag ystyried y proffesiwn. Nid yw fy mhrofiad fy hun o ddynion mewn nyrsio yn adlewyrchu stereoteipiau cyhoeddus, ac rwyf yn bendant yn ystyried bod rhywedd yn amherthnasol i waith technegol a chymhleth nyrsys.
Ar adeg pan fo ddelwedd, er gwell neu er gwaeth, yn cael dylanwad enfawr dros bobl yn eu harddegau, nid yw'r angen i chwalu canfyddiadau negyddol a stereoteipiau anghywir erioed wedi bod mor hanfodol bwysig. Yn bersonol, teimlaf ei bod yn bryd cofleidio teitlau sy'n niwtral o ran rhywedd, megis "prif nyrs", ac fel rhywun sy'n teimlo'n angerddol dros ymyriadau 'i fyny'r gadwyn', teimlaf fod angen inni weld llawer mwy o bwyslais ar ysgolion cynradd, a chyflwyno neges gadarnhaol a chywir ynglŷn â rôl a delwedd nyrsys modern. Rwy'n credu ei bod yn bryd disodli'r doliau 'Action Man' gyda doliau o nyrsys gwrywaidd, ac mae'n sicr yn bryd i ni gynnwys gwisgoedd nyrsio bechgyn yn y blwch gwisgoedd.
Dyweda wrthym am dy brofiadau fel nyrs cymwysedig.
Ni fyddaf byth yn anghofio cael yr alwad ffôn, yn cynnig fy swydd gyntaf imi fel nyrs gymunedol. Roedd hyn yn gyrhaeddiad gwirioneddol i mi, o gofio bod rhywfaint o wrthwynebiad i dderbyn nyrsys a oedd newydd gymhwyso i'r gymuned. Serch hynny, treuliais lawer o flynyddoedd hapus fel nyrs gymunedol, cyn mynd ymlaen i ennill ystod o gymwysterau, gan gynnwys fy MSc, a phenderfynu arbenigo fel nyrs iechyd y cyhoedd cymunedol arbenigol. Mae fy ngyrfa wedi bod yn hynod o foddhaus, ac rwyf wedi bod yn ffodus iawn i ddilyn fy angerdd a'm diddordeb mewn gofal sylfaenol. Rwyf wedi cyfarfod â rhai pobl wych, yn gleifion ac yn gydweithwyr, ac mae'n fraint imi fod mewn sefyllfa i rannu cymaint o'm profiadau â myfyrwyr fel darlithydd.
Fy angerdd dros nyrsio gofal cymunedol a sylfaenol sydd wedi arwain imi gael fy enwebu'n ddiweddar gan fyfyrwyr a chydweithwyr am ystyriaeth ar gyfer y teitl Nyrs y Frenhines. Mae'n bleser gennyf ddatgan y dyfarnwyd y teitl hwn imi a chaiff y teitl Nyrs y Frenhines ei gyflwyno'n swyddogol imi yn y seremoni wobrwyo ym mis Mehefin. Hoffwn ddiolch i bawb a'm cefnogodd, ac edrychaf ymlaen at weld rhai o'n myfyrwyr nyrsio presennol yn mynd ymlaen i fod yn Nyrsys y Frenhines eu hunain yn ystod eu gyrfaoedd.
Beth mae bywyd wedi ei ddysgu i chi hyd yn hyn?
Rwy'n credu ei bod yn bwysig datblygu mwy o ymdeimlad o hunangred a hunan-barch. Weithiau byddaf yn gweld myfyrwyr sy'n ddiffygiol o hynny, yn yr un ffordd ag yr oeddwn i pan oeddwn yn fyfyriwr nyrsio. Ond rwyf bob amser yn awyddus i geisio cefnogi myfyrwyr i sylweddoli effaith mor gadarnhaol y gall datblygu hunangred ei chael. Credaf eich bod yn cael yn ôl yr hyn yr ydych yn ei roi i mewn.
Beth ydych chi'n ei wneud i ymlacio?
Byddaf yn ceisio lle bynnag y bo modd i fyw ffordd 'Hygge' o fyw, sef ffordd Denmarc o 'fyw'n dda'. Ystyrir mai Denmarc yw'r wlad hapusaf yn y byd, a thrwy fabwysiadu ambell i reol fach, mae hyn wedi cael effaith gadarnhaol ar fy mywyd cartref.
Mae dydd Sul, coffi a chacen, lleoedd tân, arogl surdoes wedi'i bobi gartref, cerdded "y merched" (Millie a Molly), cadw gwenyn a cherddoriaeth, i gyd yn cyfrannu at fy syniad i o 'hyggelig', byw'n hamddenol.
Pa gyngor fyddech chi’n ei roi i fyfyrwyr nyrsio gwrywaidd?
Os bydd rhywun yn buddsoddi ynoch, bachwch y cyfle a rhedeg gydag ef, ac ymdrechwch yn galed i goleddu a datblygu ymdeimlad cryfach o hunangred. Dyma fydd y tanwydd ar gyfer eich llwyddiant eich hun.
Os oes gennych ddiddordeb mewn darllen mwy am ffordd o fyw Denmarc, mae Stephen yn argymell: Wiking, M. (2016) The Little Book of HYGEE: The Danish Way to Live Well. Penguin