Dyfarnu Aur i Fangor
Mae prifysgolion yn cael eu hasesu yn ôl tri phrif gategori, Ansawdd Addysgu, Amgylchedd Dysgu a Chanlyniadau Myfyrwyr a Budd Addysgol.
Mae’r Llywodraeth wedi datgan y bydd y fframwaith yn cynyddu ansawdd yn y sector, gan wella dewis i fyfyrwyr ac, yn hanfodol, ganlyniadau myfyrwyr yr un pryd. Maent yn ychwanegu y bydd y fframwaith yn rhoi gwybodaeth glir a dealladwy i fyfyrwyr lle mae’r dysgu gorau i’w gael.
Meddai Is- ganghellor Prifysgol Bangor, Yr Athro John G. Hughes: “Mae Bangor wedi cynnal ymrwymiad cryf i ddarparu profiad o ansawdd uchel i fyfyrwyr ers degawdau. Nid yn unig rydym yn cyplysu ymchwil a dysgu, ond rydym hefyd yn darparu gofal bugeiliol personol, ac yn darparu amrywiaeth ac arbrofi yn ein haddysgu a dysgu.
“Rydym yn credu’n gryf bod myfyrwyr yn haeddu cael eu profi a’u hymestyn gan sialensiau deallusol datrys problemau sylweddol o fewn eu disgyblaethau.
“Ar draws y Brifysgol, nod ein cyrsiau yw meithrin perthynas agos gyda’n cymuned ymchwil weithgar er mwyn cefnogi dysgu ein myfyrwyr. Trwy gyrsiau sgiliau ymchwil ac, yn y pen draw, broject ymchwil annibynnol, (traethawd hir, project grŵp neu gloriannu ymarfer), mae’r cyrsiau gradd ar draws ein meysydd pwnc yn galluogi ein myfyrwyr i feistroli amrediad o sgiliau a dulliau ymchwil.”
“Mae’r dyfarniad Aur yn adlewyrchu perfformiad nodedig Prifysgol Bangor a hoffwn longyfarch pawb yn y Brifysgol am eu gwaith ar ran ein myfyrwyr.”
Meddai Gweinidog Llywodraeth y DU ac AS Aberconwy, Guto Bebb, wrth drafod y llwyddiant diweddaraf hwn:
"Mae'r wobr hon yn haeddiannol ac yn anfon neges i ddarpar fyfyrwyr ar draws y byd bod Cymru yn gyrchfan gwych ar gyfer addysg uwch. Mae hefyd yn dangos i gyflogwyr a busnesau tramor sy’n bwriadu buddsoddi yng Nghymru bod ein myfyrwyr o'n prifysgolion yn cael eu hyfforddi i'r safonau uchaf bosibl. "
Dangosodd yr adroddiad fod myfyrwyr o bob cefndir yn cyflawni canlyniadau rhagorol yn gyson, a bod dal gafael, dilyniant i gyflogaeth sgiliau uchel neu astudio pellach, a’r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg i gyd yn uwch na’r meincnod. Mae’r brifysgol â lefelau rhagorol cyson am foddhad myfyrwyr, gyda dysgu, asesu ac adborth a chefnogaeth academaidd yn mynd y tu hwnt i feincnod y darparwr.
Dyddiad cyhoeddi: 22 Mehefin 2017